Diwrnod penodedig2

18 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer rhoi mewn grym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 mewn perthynas â hawlogaeth i daliad mewn perthynas ag addysg uwch—

a

adran 21(1), (3) a (4); a

b

adran 21(2) i'r graddau nad ydyw eisoes wedi ei chychwyn gan erthygl 2(e) o Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 20102.