Search Legislation

Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 824 (Cy.123) (C.32)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2011

Gwnaed

16 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enw

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2011.

Diwrnod penodedig

2.  18 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer rhoi mewn grym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 mewn perthynas â hawlogaeth i daliad mewn perthynas ag addysg uwch—

(a)adran 21(1), (3) a (4); a

(b)adran 21(2) i'r graddau nad ydyw eisoes wedi ei chychwyn gan erthygl 2(e) o Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2010(2).

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

16 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r pumed Gorchymyn Cychwyn sydd wedi'i wneud o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) (“Deddf 2008”) ac sy'n dod â darpariaethau penodedig o Ddeddf 2008 i rym o ran Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 18 Mawrth 2011 fel y diwrnod y bydd adran 21 o Ddeddf 2008 yn cael ei rhoi mewn grym o ran Cymru i'r graddau nad ydyw eisoes wedi ei rhoi mewn grym gan Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1329 (Cy.112) (C.81)).

Mae is-adrannau (1) i (3) o adran 21 o Ddeddf 2008 yn diwygio adran 23C o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”). Mae Adran 21(2) yn mewnosod is-adrannau newydd (5A) i (5C), sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sydd:

  • yn pennu'r swm perthnasol (bwrsariaeth addysg uwch) sy'n daladwy gan awdurdod lleol o dan adran 23C(5A) o Ddeddf 1989;

  • yn pennu ystyr “addysg uwch” at ddibenion y fwrsariaeth addysg uwch;

  • yn gwneud darpariaeth o ran talu'r fwrsariaeth addysg uwch; ac

  • yn gwneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y gall awdurdod lleol adennill y fwrsariaeth addysg uwch.

Mae adran 21(4) yn mewnosod is-adran (2A) newydd i adran 776 o Ddeddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Arall) 2005 (p.5). Mae'r is-adran newydd yn darparu nad oes unrhyw atebolrwydd i dreth incwm yn codi ar fwrsariaethau addysg uwch.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r ddarpariaeth a ganlyn o Ddeddf 2008 wedi ei rhoi mewn grym o ran Cymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

DarpariaethDyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 8(1) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 8(2) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 8(3)31 Mawrth 20102010/749 (Cy.77) (C.51)
Adran 10(1) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 15 (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 16(1) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 20(3)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 21(2) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 22(3) a (5) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 23(1)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 25(4) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 2726 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 2826 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 29 (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 306 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)
Adran 3326 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 3431 Mawrth 20102010/749 (Cy.77) (C.51)
Adran 356 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)
Adran 361 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 371 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 381 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(a) o Ddeddf Plant 19896 Ebrill 20092009/728 (Cy.64) (C.47)
Paragraff 4 o Atodlen 126 Ebrill 20102010/1329 (Cy.112) (C.81)
Adran 42 ac Atodlen 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) o'r Ddeddf Plant, ac â rhannol ddiddymu adran 91(10) o'r Ddeddf honno1 Medi 20092009/1921 (Cy.175) (C.91)
Atodlen 231 Mawrth 20102010/749 (Cy.77) (C.51)
Atodlen 4 i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adran 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200231 Mawrth 20102010/749 (Cy.77) (C.51)

Mae'r darpariaethau a ganlyn wedi eu rhoi mewn grym o ran Cymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

DarpariaethDyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 18 (yn rhannol)1 Ionawr 20102009/3354 (C.154)
Adran 311 Ebrill 20092009/268 (C.11)
Adran 321 Ebrill 20092009/268 (C.11)

Mae'r darpariaethau a ganlyn i gael eu rhoi mewn grym o ran Cymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

DarpariaethDyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 171 Ebrill 20112010/2981 (C.131)
Adran 18 (yn rhannol)1 Ebrill 20112010/2981 (C.131)

Mae amryfal ddarpariaethau o Ddeddf 2008 wedi eu rhoi mewn grym o ran Lloegr gan y Gorchmynion Cychwyn a ganlyn, a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Gweler yn ogystal adran 44(1) a (2) o Ddeddf 2008 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 13 Tachwedd 2008 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

Gweler yn ogystal adran 44(9) o Ddeddf 2008 am y ddarpariaeth a fydd yn dod i rym ar yr un diwrnod ag y bydd adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p.16) yn dod i rym at ddibenion mewnosod adran 17B yn Neddf 1989 o ran Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources