Search Legislation

Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 97 (Cy.20) (C.6)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011

Gwnaed

17 Ionawr 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 48(2) a 49(2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2) 2011.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Sgiliau 2000(2);

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

Diwrnodau Penodedig

2.—(1Y diwrnod penodedig at ddibenion dod i rym ddarpariaethau canlynol y Mesur yw 19 Ionawr 2011—

(a)adran 23 (cwricwla lleol: Y Gymraeg);

(b)adran 25 (penderfynu “relevant school or institution” ar gyfer disgybl);

(c)adran 26 (dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol);

(ch)adran 28 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 33G(3) o Ddeddf 2000;

(d)adran 30 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 33I(3) o Ddeddf 2000;

(dd)adran 31 (cynllunio'r cwricwlwm lleol);

(e)adran 32 (cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol: cydweithio);

(f)adran 33 (cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau);

(ff)adran 34 (pŵer i ddiwygio meysydd dysgu);

(g)adran 35 (y cwricwlwm lleol: dehongli);

(ng)adran 36 (cwricwlwm lleol: cyfarwyddiadau);

(h)adran 37 (cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i fyfyrwyr sy'n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig neu fyfyrwyr a chanddynt anawsterau dysgu);

(i)adran 38 (cymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i sefydliadau o fewn y sector addysg uwch);

(j)adran 39 (rheoliadau a gorchmynion: y weithdrefn);

(l)adran 47 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn llawn;

(ll)paragraffau 1 i 10 o'r Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).

(2Y diwrnod penodedig at ddibenion dod i rym ddarpariaethau canlynol y Mesur yw 14 Chwefror 2011—

(a)adran 21 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 18 oed);

(b)adran 22 (llunio cwricwla lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed);

(c)adran 24 (ardaloedd â mwy nag un cwricwlwm lleol);

(ch)adran 27 (hawlogaethau myfyrwyr o ran y cwricwlwm lleol);

(d)adran 28 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(1)(ch);

(dd)adran 29 (cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol);

(e)adran 30 (penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(1)(d).

Leighton Andrews

Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

17 Ionawr 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 19 Ionawr 2011 a 14 Chwefror 2011 amrywiol ddarpariaethau Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn.

Mae darpariaethau'r Mesur a gafodd eu dwyn i rym ar 19 Ionawr 2011 fel a ganlyn:

  • Mae adran 23 yn mewnosod yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000 (“Deddf 2000”) adran 33B sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hyrwyddo mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo'r ffaith eu bod ar gael.

  • Mae adran 25 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33D sy'n ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol bennu ysgol neu sefydliad perthnasol i'r disgybl os gofynnir iddo wneud hynny.

  • Mae adran 26 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33E sy'n rhoi i ddisgybl cofrestredig ysgol a gynhelir yr hawl i ddewis dilyn cwrs astudio neu gyrsiau astudio a gynhwysir mewn cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 28 (sy'n cael ei chychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau) yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33G sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad benderfynu nad oes gan fyfyriwr yr hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio penodol neu gyrsiau astudio penodol.

  • Mae adran 30 (sy'n cael ei chychwyn at ddibenion gwneud rheoliadau) yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33I sy'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad benderfynu nad oes gan fyfyriwr mwyach yr hawlogaeth i ddilyn cwrs astudio.

  • Mae adran 31 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33J. Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid sefydliadau addysg bellach gynorthwyo Gweinidogion Cymru i gynllunio'r cwricwla lleol.

  • Mae adran 32 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33K sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â sicrhau bod y nifer mwyaf o gyrsiau astudio ar gael o fewn cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 33 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33L sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â goblygiadau cydweithio a orfodir gan adran 33K o Ddeddf 2000.

  • Mae adran 34 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33M. Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 33A(3) o Ddeddf 2000.

  • Mae adran 35 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33N. Mae'r adran hon yn cynnwys diffiniadau.

  • Mae adran 36 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33O ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfarwyddiadau.

  • Mae adran 37 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33P er mwyn caniatáu i reoliadau gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i ysgolion arbennig.

  • Mae adran 38 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33Q er mwyn caniatáu i reoliadau gymhwyso darpariaethau'r cwricwlwm lleol i sefydliadau addysg uwch.

  • Mae adran 39 yn diwygio adran 152 o Ddeddf 2000 mewn perthynas â'r weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau a gorchmynion.

  • Mae adran 47 a pharagraffau 1 i 10 o'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Mae darpariaethau'r Mesur a gafodd eu dwyn i rym ar 14 Chwefror 2011 fel a ganlyn:

  • Mae adran 21 yn diwygio adran 31 o Ddeddf 2000 fel bod y dyletswyddau cyffredinol sydd ar Weinidogion Cymru mewn perthynas ag addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â'r cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 22 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33A sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio un cwricwlwm lleol o leiaf mewn cysylltiad â phob ardal awdurdod lleol ar gyfer myfyrwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed.

  • Mae adran 24 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33C sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â llunio mwy nag un cwricwlwm lleol i ardal awdurdod lleol.

  • Mae adran 27 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33F sy'n gwneud darpariaeth o ran hawlogaeth myfyriwr i ddilyn cwrs astudio a ddewiswyd.

  • Mae adran 28 yn cael ei chychwyn i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn gan y Gorchymyn hwn.

  • Mae adran 29 yn mewnosod yn Neddf 2000 adran 33H sy'n gosod dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad i gyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol.

  • Mae adran 30 yn cael ei chychwyn i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn gan y Gorchymyn hwn.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi eu dwyn i rym gan Orchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009 a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethDyddiad cychwynO.S. Rhif
Adran 17 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adrannau 2 a 31 Ionawr 20102009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 4 yn rhannol7 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 4 yn llawn1 Ionawr 20102009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adrannau 5 a 61 Ionawr 20102009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 7 yn rhannol7 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 7 yn llawn1 Ionawr 20102009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 81 Ionawr 20102009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 9 yn rhannol7 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 9 yn llawn1 Ionawr 20102009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 101 Ionawr 20102009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 11 yn rhannol7 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 11 yn llawn1 Ionawr 20102009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adrannau 12 i 147 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adrannau 15 i 171 Ionawr 20102009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 187 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 191 Ionawr 20102009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 207 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adrannau 40 i 457 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276) (C.141)
Adran 47 yn rhannol7 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276)
Paragraffau 11 i 22 o'r Atodlen7 Rhagfyr 20092009/3174 (Cy.276)

Gweler hefyd adran 49(1) ar gyfer y darpariaethau sy'n dod i rym ar 13 Gorffennaf 2009 (ddeufis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources