xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn dod i rym ar 29 Mawrth 2011; a
(b)yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
2. Mae'r Atodlen, sy'n darparu ar gyfer diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(1), yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
3. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(2), yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” (“waste facility”), yn lle “Erthygl 1(e) ac (f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff”, rhodder “Erthygl 3(19) a (15) o Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
4.—(1) Mae Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a)yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1), rhodder—
“ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”;
(b)yn lle is-baragraff (c) o baragraff (1), rhodder—
“(c)mae cyfeiriad at briodweddau peryglus yn gyfeiriad at y priodweddau a osodir yn Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Wastraff.”;
(c)yn lle is-baragraff (b) o baragraff (2), rhodder—
“(b)ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw'r rhestr wastraffoedd a osodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd ac mae cyfeiriad at y Rhestr Wastraffoedd yn cynnwys cyfeiriad at ei chyflwyniad (“y Cyflwyniad i'r Rhestr”).”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a)o flaen “H3 i H8”, mewnosoder “peryglus”;
(b)hepgorer “o Atodiad III”.
(4) Hepgorer paragraffau 1 a 2 o Atodlen 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
5. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005(4), ym mharagraff (1) yn lle'r diffiniad o “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy for Wales”) rhodder—
“ystyr “Strategaeth Wastraff Cymru” (“Waste Strategy for Wales”) yw'r cynllun cenedlaethol ar reoli gwastraff o fewn ystyr Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, a elwir wrth yr enw hwnnw ac a gafodd ei baratoi gan Weinidogion Cymru;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
6. Yn Atodlen 2 i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(5), ym mharagraff 3(1), yn lle'r geiriau o “Chyfarwyddeb 2006/12/EC” hyd at y diwedd, rhodder “Chyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
7. Dirymir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003(6).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 29.3.2011, gweler rhl. 1(2)(a)
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2011