- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GYMRAEG, CYMRU
Gwnaed
13 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 5) 2012.
2. Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 17 Ebrill 2012—
(a)adran 22 ac eithrio isadran 2(b) i (d) a'r diffiniad o “ymchwiliad i orfodi safonau” yn isadran (9);
(b)adran 24; ac
(c)adran 44.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
13 Ebrill 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'n cychwyn darpariaethau yn y Mesur sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth y mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ei chael wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd, a darpariaethau sy'n ymwneud ag ymgynghori â Phanel Cynghori'r Comisiynydd. Mae'r Gorchymyn hefyd yn cychwyn diffiniad o ystyr “hysbysiad cydymffurfio” at ddibenion y rhannau hynny o'r Mesur sy'n ymdrin â safonau'n ymwneud â'r Gymraeg.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
adran 2(2) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adran 2(3) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adran 2 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adran 3 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adrannau 5 a 6 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adran 7 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adrannau 8 i 10 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adrannau 12 i 15 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adran 16 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adrannau 17 i 19 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adran 23(1) (yn rhannol) | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy.10) |
adran 23(4) | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy.10) |
adran 23 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
Rhan 4, Penodau 2 i 5 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
Rhan 4, Pennod 8 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
Rhan 4, Pennod 9 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
Rhan 6 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adran 120(4) (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adrannau 134 i 137 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adrannau 138 a 139 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy.182) |
adrannau 138 a 139 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adran 140 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adran 141 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adrannau 142 a 143 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adran 144 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adran 146 (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adran 146 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adran 147 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
adrannau 148 a 149 | 5 Chwefror 2012 | 2012/223 (Cy.37) |
Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
Atodlen 1 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 11 | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy.10) |
Atodlen 4 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
Atodlenni 5 i 9 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
Atodlen 11 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
Atodlen 12 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy.126) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: