- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
21 Ebrill 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Ebrill 2012
Yn dod i rym
21 Mai 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 15(7)(b) a 50(2)(a) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 21 Mai 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
2.—(1) Mewn cysylltiad â'r wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2), mae'r dyddiad canlynol wedi ei bennu at ddibenion adran 15(7)(b) o'r Mesur, sef 31 Rhagfyr cyn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun gwella yn ymwneud â hi.
(2) Mae'r wybodaeth a ddisgrifir yn y paragraff hwn yn wybodaeth sydd i'w chyhoeddi gan awdurdod tân ac achub o dan adran 15(6) o'r Mesur (cyhoeddi disgrifiad o'i gynllun gwella) ar gyfer blwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2013 neu ar ôl hynny.
3. Mae Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2010(2) wedi ei ddirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 15(6) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2) (“y Mesur”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i gyhoeddi disgrifiad o gynlluniau'r awdurdod ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7) o'r Mesur mewn blwyddyn ariannol.
Mae adran 15(7) o'r Mesur yn darparu bod yn rhaid i'r trefniadau hynny gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl (a) dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n rhaid i'r cynllun ymwneud â hi neu (b) unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r dyddiad hwnnw ar gyfer yr awdurdodau tân ac achub, sef un categori o awdurdod gwella Cymreig. Effaith erthygl 2 yw darparu bod yn rhaid i awdurdod tân ac achub gyhoeddi'r wybodaeth sy'n ofynnol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 31 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun gwella yn ymwneud â hi.
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Mai 2012 a'r flwyddyn ariannol gyntaf y mae 31 Rhagfyr yn ddyddiad perthnasol iddi yw'r flwyddyn sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2013.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a'r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8221.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: