xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1143 (Cy.137)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2012

Gwnaed

21 Ebrill 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Ebrill 2012

Yn dod i rym

21 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 15(7)(b) a 50(2)(a) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 21 Mai 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn —

Pennu dyddiad cyhoeddi

2.—(1Mewn cysylltiad â'r wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2), mae'r dyddiad canlynol wedi ei bennu at ddibenion adran 15(7)(b) o'r Mesur, sef 31 Rhagfyr cyn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun gwella yn ymwneud â hi.

(2Mae'r wybodaeth a ddisgrifir yn y paragraff hwn yn wybodaeth sydd i'w chyhoeddi gan awdurdod tân ac achub o dan adran 15(6) o'r Mesur (cyhoeddi disgrifiad o'i gynllun gwella) ar gyfer blwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2013 neu ar ôl hynny.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2010(2) wedi ei ddirymu.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

21 Ebrill 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 15(6) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2) (“y Mesur”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau i gyhoeddi disgrifiad o gynlluniau'r awdurdod ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7) o'r Mesur mewn blwyddyn ariannol.

Mae adran 15(7) o'r Mesur yn darparu bod yn rhaid i'r trefniadau hynny gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl (a) dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n rhaid i'r cynllun ymwneud â hi neu (b) unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r dyddiad hwnnw ar gyfer yr awdurdodau tân ac achub, sef un categori o awdurdod gwella Cymreig. Effaith erthygl 2 yw darparu bod yn rhaid i awdurdod tân ac achub gyhoeddi'r wybodaeth sy'n ofynnol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 31 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun gwella yn ymwneud â hi.

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Mai 2012 a'r flwyddyn ariannol gyntaf y mae 31 Rhagfyr yn ddyddiad perthnasol iddi yw'r flwyddyn sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2013.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a'r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8221.