- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Dyma aelodau'r pwyllgor—
(a)cadeirydd;
(b)prif swyddogion neu eu cynrychiolwyr enwebedig; a
(c)y person sydd wedi ei ddynodi'n swyddog atebol am gydwasanaethau.
(2) At ddibenion rheoliad 5(1)(c), y person sydd wedi ei ddynodi'n swyddog atebol am gydwasanaethau yw'r person sydd wedi ei ddynodi'n swyddog atebol am gydwasanaethau gan y person sydd wedi ei ddynodi'n swyddog cyfrifyddu ychwanegol, ac sy'n gyfrifol am y GIG yng Nghymru, yn unol ag adran 133(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).
(3) Pan fo prif swyddog yn bwriadu enwebu cynrychiolydd at ddibenion rheoliad 5(1)(b), rhaid i'r enwebiad fod yn ysgrifenedig ac wedi ei gyfeirio at gadeirydd y pwyllgor a rhaid iddo bennu p'un a yw'r enwebiad am gyfnod penodol o amser ai peidio.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), penodir cadeirydd y pwyllgor gan y pwyllgor.
(2) Penodir cadeirydd cyntaf y pwyllgor gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre am gyfnod o chwe mis.
(3) Rhaid i'r pwyllgor benodi is-gadeirydd i'r pwyllgor o blith y prif swyddogion neu eu cynrychiolwyr enwebedig.
(4) Pan fo'r pwyllgor yn penodi cadeirydd ac is-gadeirydd i'r pwyllgor yn unol â pharagraffau (1) a (3), rhaid i'r penodiadau fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy'n ymwneud â'r pwyllgor ac, mewn perthynas â phenodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r pwyllgor fodloni ei hun bod gan y person a benodir y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd.
(5) Pan fo Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre yn penodi'r cadeirydd yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r penodiad fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.
7.—(1) Rhaid i bob aelod gyflawni'r gofynion cymhwystra yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn a rhaid iddo barhau i gyflawni'r gofynion tra bo'r aelod hwnnw yn dal ei swydd.
(2) Ni chaiff prif swyddogion ond dal swydd ar y pwyllgor ar yr amod eu bod yn parhau i ddal eu swyddi fel prif swyddog i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu Fwrdd Iechyd Lleol.
(3) Ni chaiff cynrychiolydd enwebedig prif swyddog ond dal swydd ar y pwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal ei swydd, fel y bo'n briodol, fel swyddog-aelod Bwrdd Iechyd Lleol y prif swyddog neu fel cyfarwyddwr gweithredol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog.
(4) Ni chaiff unrhyw berson a benodwyd yn unol â rheoliad 6(3) i fod yn is-gadeirydd ond dal swydd is-gadeirydd i'r pwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal ei swydd, fel y bo'n briodol, fel prif swyddog neu fel swyddog-aelod o Fwrdd Iechyd Lleol y prif swyddog neu fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog.
8.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd i'r pwyllgor.
(2) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae cadeirydd neu is-gadeirydd yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.
(3) Caniateir penodi cadeirydd neu is-gadeirydd am gyfnod nad yw'n hwy na phedair blynedd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caiff cadeirydd neu is-gadeirydd pan ddaw ei dymor yn ei swydd i ben gael ei ailethol yn unol â rheoliad 6(1) neu 6(3) yn y drefn honno.
(5) Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd nac is-gadeirydd i'r pwyllgor am gyfanswm o fwy nag wyth mlynedd, ac ni chaiff person gael ei benodi am gyfnodau olynol fel is-gadeirydd neu, yn ddarostyngedig i baragraff (6), fel cadeirydd.
(6) Caiff cadeirydd cyntaf y pwyllgor a benodwyd gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, yn unol â rheoliad 6(2), pan ddaw tymor ei benodiad i ben, gael ei benodi i swydd cadeirydd gan y pwyllgor os yw'n llwyddiannus yn y broses benodi a redir gan y pwyllgor yn unol â'i reolau sefydlog.
(7) Mae cyfeiriadau at ddal swydd is-gadeirydd yn gyfeiriadau at ei benodiad yn is-gadeirydd ac nid at ddal swydd fel aelod o'r pwyllgor.
9.—(1) Caiff y pwyllgor ddiswyddo cadeirydd neu is-gadeirydd os yw'n penderfynu—
(a)nad yw er lles y pwyllgor; neu
(b)nad yw'n ffafriol o ran rheoli da ar y pwyllgor,
i'r cadeirydd hwnnw neu'r is-gadeirydd hwnnw barhau i ddal ei swydd.
(2) Os daw i sylw'r pwyllgor bod cadeirydd neu is-gadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, rhaid i'r pwyllgor ddiswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd.
(3) Rhaid i gadeirydd neu is-gadeirydd a benodwyd hysbysu'r pwyllgor ar unwaith os yw'r cadeirydd hwnnw neu'r is-gadeirydd hwnnw yn dod yn anghymwys o dan yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(4) Os yw cadeirydd neu is-gadeirydd wedi methu â mynd i unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor am gyfnod o chwe mis neu ragor, caiff y pwyllgor ddiswyddo'r cadeirydd hwnnw neu'r is-gadeirydd hwnnw oni bai ei bod yn fodlon—
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd yn gallu mynd i gyfarfodydd y pwyllgor am gyfnod sy'n rhesymol ym marn y pwyllgor.
(5) Caiff cadeirydd neu is-gadeirydd ymddiswyddo drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r pwyllgor ond yn ddarostyngedig i delerau penodi'r cadeirydd hwnnw neu'r is-gadeirydd hwnnw.
(6) Mae cyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddiswyddo is-gadeirydd neu is-gadeirydd yn ymddiswyddo yn gyfeiriad at ei ddiswyddo o'i benodiad yn is-gadeirydd neu ato'n ymddiswyddo o'i benodiad yn is-gadeirydd, fel y bo'n briodol, ac nid at ymddiswyddo gan aelod neu ddiswyddo aelod a benodwyd yn is-gadeirydd o'i swydd ar y pwyllgor.
10.—(1) Cyn gwneud penderfyniad i ddiswyddo cadeirydd neu is-gadeirydd o dan reoliad 9, caiff y pwyllgor atal y cadeirydd neu'r is-gadeirydd rhag dal y swydd honno am gyfnod sy'n rhesymol ym marn y pwyllgor.
(2) Pan fo cadeirydd neu is-gadeirydd yn cael ei atal yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r pwyllgor hysbysu'r cadeirydd hwnnw neu'r is-gadeirydd hwnnw, pob aelod o'r pwyllgor ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig gan ddatgan y rhesymau dros ei atal.
(3) Ni chaiff cadeirydd neu is-gadeirydd sy'n cael ei atal o'i swydd o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd.
(4) Mae cyfeiriad yn y rheoliad hwn at atal is-gadeirydd yn gyfeiriad at ei atal o'i benodiad yn is-gadeirydd ac nid at atal yr aelod a benodwyd yn is-gadeirydd o'i swydd ar y pwyllgor.
2006 p.32. Yn unol ag adran 129(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yw'r prif swyddog cyfrifyddu dros Weinidogion Cymru. Yn unol ag adran 133(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, caiff yr Ysgrifennydd Parhaol ddynodi aelodau eraill o staff Llywodraeth Cymru yn swyddogion cyfrifyddu ychwanegol. Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei ddynodi'n swyddog cyfrifyddu ychwanegol sy'n gyfrifol am y cyllidebau y mae ganddo gyfrifoldeb gweinyddol amdanynt. Caiff swyddogion cyfrifyddu ychwanegol benodi swyddogion atebol mewn cyrff cyhoeddus penodol, sy'n cynnwys Ymddiriedolaethau GIG. Nodir cyfrifoldebau swyddogion atebol mewn Memorandwm i Swyddogion Atebol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: