Penodi'r cadeirydd a'r is-gadeirydd
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), penodir cadeirydd y pwyllgor gan y pwyllgor.
(2) Penodir cadeirydd cyntaf y pwyllgor gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre am gyfnod o chwe mis.
(3) Rhaid i'r pwyllgor benodi is-gadeirydd i'r pwyllgor o blith y prif swyddogion neu eu cynrychiolwyr enwebedig.
(4) Pan fo'r pwyllgor yn penodi cadeirydd ac is-gadeirydd i'r pwyllgor yn unol â pharagraffau (1) a (3), rhaid i'r penodiadau fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy'n ymwneud â'r pwyllgor ac, mewn perthynas â phenodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r pwyllgor fodloni ei hun bod gan y person a benodir y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd.
(5) Pan fo Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre yn penodi'r cadeirydd yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r penodiad fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre.