Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1493 (Cy.191)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012

Gwnaed

5 Mehefin 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2012

Yn dod i rym

6 Gorffennaf 2012

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliad 7(a), (b) ac (c) drwy arfer pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 7(a), (b) ac (c), gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(3) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.(4)

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Gorffennaf 2012.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i'r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned(5); a

(b)ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(6).

(3Mae i'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'w cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.

Ffioedd arolygu mewnforio

2.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o—

(a)planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i'r Gyfarwyddeb, a

(b)hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,

a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy'n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o'r GIP.

(2Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i'r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—

(a)y ffi a bennir—

(i)yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae paragraff (ii) o'r is-baragraff hwn yn gymwys iddo; neu

(ii)yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno ac sy'n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno; a

(b)y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.

(3Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yw—

(a)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

(b)y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(7) yng Nghymru.

Tatws hadyd: ffioedd

3.—(1Mae'r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, sy'n ymwneud â chais am—

(a)ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o'r Rheoliadau Tatws Hadyd;

(b)awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny.

(2Mae'r ffi sy'n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.

(3Rhaid talu'r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Rheoliadau Tatws Hadyd” (“the Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(8).

Ffioedd am drwyddedau iechyd planhigion

4.—(1Mae'r ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o'r GIP.

(2Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r math hwnnw o gais neu arolygiad.

Ffioedd am awdurdodi pasbortau planhigion

5.—(1Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad ag—

(a)cais am awdurdod; neu

(b)sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw amodau y rhoddwyd awdurdod yn ddarostyngedig iddynt.

(2Y ffi yw £31.50 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £63.00 am bob ymweliad.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion, a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006(9) neu erthygl 29 o'r GIP.

Tatws sy'n tarddu o'r Aifft: ffioedd

6.—(1Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy'n tarddu o'r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o'r Atodiad i'r Penderfyniad, a yw'r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i'r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £87.80 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/787/EU sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., mewn cysylltiad â'r Aifft(10).

Dirymiadau

7.  Dirymir y canlynol—

(a)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Trwyddedau) (Cymru a Lloegr) 1996(11), o ran Cymru yn unig;

(b)rheoliad 6 o Reoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Cymru) 2004(12);

(c)Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006(13);

(ch)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007(14);

(d)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010(15); ac

(dd)Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2012(16).

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

5 Mehefin 2012

Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)

ATODLEN 1Ffioedd Arolygu Mewnforio

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arallNiferFfi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiauhyd at 10,000 o ran nifer46.9870.47
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny1.88, hyd at uchafswm o 375.842.81, hyd at uchafswm o 563.76
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau)hyd at 1,000 o ran nifer46.9870.47
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny1.15, hyd at uchafswm o 375.841.73, hyd at uchafswm o 563.76
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannuhyd at 200 kg46.9870.47
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny0.43, hyd at uchafswm o 375.840.64, hyd at uchafswm o 563.76
Hadau, meithrinia dau meinwehyd at 100 kg20.1330.20
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny0.46, hyd at uchafswm o 375.840.69, hyd at uchafswm o 563.76
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen honhyd at 5,000 o ran nifer46.9870.47
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny0.46, hyd at uchafswm o 375.840.69, hyd at uchafswm o 563.76
Blodau wedi'u torrihyd at 20,000 o ran nifer46.9870.47
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny0.36, hyd at uchafswm o 375.840.54, hyd at uchafswm o 563.76
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri)hyd at 100 kg46.9870.47
am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny4.67, hyd at uchafswm o 375.847.01, hyd at uchafswm o 563.76
Coed Nadolig sydd wedi'u torrihyd at 1,000 o ran nifer46.9870.47
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny4.67, hyd at uchafswm o 375.847.01, hyd at uchafswm o 563.76
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deilioghyd at 100 kg46.9870.47
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny4.67, hyd at uchafswm o 375.847.01, hyd at uchafswm o 563.76
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)hyd at 25,000 kg46.9870.47
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny1.882.81
Cloron tatwshyd at 25,000 kg140.94 (am bob lot)211.41 (am bob lot)
am bob 25,000 kg ychwanegol neu ran o hynny140.94 (am bob lot)211.41 (am bob lot)
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisglhyd at 25,000 kg46.9870.47
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny1.88, hyd at uchafswm o 375.842.81, hyd at uchafswm o 563.76
Grawnhyd at 25,000 kg46.9870.47
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny1.88, hyd at uchafswm o 1879.192.81, hyd at uchafswm o 2818.78
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestyddam bob llwyth46.9870.47

Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)

ATODLEN 2Ffioedd Arolygu Mewnforio: Cyfraddau Gostyngol

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4Colofn 5
GenwsNiferGwlad tarddiadFfi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)Ffi am bob llwyth (oria gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)
Blodau wedi'u torri
Dianthushyd at 20,000 o ran niferColombia2.353.52
Ecuador4.70 7.05
Kenya2.353.52
Twrci11.7417.62
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynnyColombia0.02, hyd at uchafswm o 18.790.03, hyd at uchafswm o 28.19
Ecuador0.04, hyd at uchafswm o 37.580.07, hyd at uchafswm o 56.38
Kenya0.02, hyd at uchafswm o 18.790.03, hyd at uchafswm o 28.19
Twrci0.10, hyd at uchafswm o 93.960.15, hyd at uchafswm o 140.94
Rosahyd at 20,000 o ran niferColombia1.412.11
Ecuador1.412.11
Ethiopia2.353.52
Kenya2.353.52
Tanzania4.707.05
Uganda11.7417.62
Zambia11.7417.62
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynnyColombia0.01, hyd at uchafswm o 11.280.01, hyd at uchafswm o 16.91
Ecuador0.01, hyd at uchafswm o 11.280.01, hyd at uchafswm o 16.91
Ethiopia0.02, hyd at uchafswm o 18.790.03, hyd at uchafswm o 28.19
Kenya0.02, hyd at uchafswm o 18.790.03, hyd at uchafswm o 28.19
Tanzania0.04, hyd at uchafswm o 37.580.07, hyd at uchafswm o 56.38
Uganda0.07, hyd at uchafswm o 93.960.10, hyd at uchafswm o 140.94
Zambia0.07, hyd at uchafswm o 93.960.10, hyd at uchafswm o 140.94
Canghennau gyda deiliant
Phoenixhyd at 100 kgCosta Rica16.4424.66
am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynnyCosta Rica1.63, hyd at uchafswm o 131.542.45, hyd at uchafswm o 197.32
Ffrwythau
Citrushyd at 25,000 kgYr Aifft7.0510.57
Israel4.707.05
Mecsico7.0510.57
Moroco2.353.52
Periw11.7417.62
Twrci1.412.11
Uruguay7.0510.57
UDA7.0510.57
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyYr Aifft0.260.39
Israel0.190.28
Mecsico0.260.39
Moroco0.070.10
Periw0.470.70
Twrci0.030.05
Uruguay0.260.39
UDA0.260.39
Malushyd at 25,000 kgAriannin4.707.05
Brasil7.0510.57
Chile2.353.52
Tsieina23.4935.23
Seland Newydd4.707.05
De Affrica2.353.52
UDA11.7417.62
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyAriannin0.190.28
Brasil0.280.42
Chile0.090.14
Tsieina0.941.40
Seland Newydd0.190.28
De Affrica0.090.14
UDA0.470.70
Passiflorahyd at 25,000 kgColombia4.707.05
Kenya4.707.05
De Affrica23.4935.23
Zimbabwe16.4424.66
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyColombia0.160.25
Kenya0.160.25
De Affrica0.921.38
Zimbabwe0.630.94
Prunushyd at 25,000 kgAriannin16.4424.66
Chile4.707.05
De Affrica4.707.05
Twrci4.707.05
UDA4.707.05
am bob 1000 kg ychwanegol neu ran o hynnyAriannin0.630.94
Chile0.160.25
De Affrica0.160.25
Twrci0.160.25
UDA0.160.25
Pyrushyd at 25,000 kgAriannin4.707.05
Chile11.7417.62
Tsieina16.4424.66
De Affrica4.707.05
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyAriannin0.160.25
Chile0.470.70
Tsieina0.660.98
De Affrica0.160.25
Llysiau
Solanum melongenahyd at 25,000 kgTwrci4.707.05
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyTwrci0.160.25

Rheoliad 2(2)(b)

ATODLEN 3Ffioedd Arolygu Mewnforio: Gwiriadau Dogfennol a Gwiriadau Adnabod

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
GwiriadNiferFfi (£)
Dogfennolam bob llwyth5.36
Adnabodam bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faint cymharol5.36
am bob llwyth sy'n fwy na'r maint uchod10.71

Rheoliad 3

ATODLEN 4Tatws Hadyd: Ffioedd

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
SwyddogaethFfi1 (£)Lleiafswm ffi (£)
1

Mae'r cyfraddau, a restrir yn y golofn hon ac yng ngholofn 3, sydd wedi eu marcio â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr, a'r cyfraddau nad ydynt wedi eu marcio felly yn gyfraddau fesul hanner hectar neu ran o hanner hectar.

Arolygu cnydau sy'n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau
Ardystio fel tatws hadyd cyn-sylfaenol122.57*n/a
Ardystio fel tatws hadyd sylfaenol a ddosberthir fel:super elite 1, super elite 2 neu super elite 361.29122.57
elite 1, elite 2 neu elite 361.29122.57
A58.26116.52
Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig52.96105.93
Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd122.57*n/a
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Hyd at ddau arolygiad18.1636.32
Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol122.57*n/a

Rheoliad 4(2)

ATODLEN 5Ffioedd am Drwyddedau Iechyd Planhigion

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
EitemMath o gais neu arolygiadFfi (£)
1Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy'n dod o fewn eitem 2 neu 3781.27
2Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi563.54
3Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy'n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau781.27, plws 30.74 am bob math o beth dros ben y 5
4Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol256.15
5Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol30.74
6Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded42.06 am bob awr neu ran o awr

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn pennu ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion.

Mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i'r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1).

Pennir y ffioedd am wiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd (rheoliad 2 ac Atodlenni 1, 2 a 3), yn unol â'r gofyniad yn Erthygl 13d o Gyfarwyddeb 2000/29/EC.

Mae'r Rheoliadau yn cydgrynhoi nifer o offerynnau blaenorol a oedd yn ymdrin ar wahân â ffioedd penodol ynglŷn ag iechyd planhigion; dirymir yr offerynnau blaenorol hynny (rheoliad 7). Nid yw'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno unrhyw fathau newydd o ffioedd.

Mae lefelau'r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn yn rhan o symudiad fesul cam, dros gyfnod o dair blynedd, tuag at ffioedd sy'n adennill y gost lawn. Cynyddir y rhan fwyaf o'r ffioedd yn sylweddol: pennir cynnydd o 229% mewn ffioedd arolygu mewnforio, 52% yn y ffioedd mewn perthynas â thatws hadyd, 160% mewn ffioedd trwyddedu, 184% yn y ffioedd am arolygu tatws sy'n tarddu o'r Aifft, a 55% yn y ffioedd am wasanaethau pasbortau planhigion. Darperir manylion pellach yn y Memorandwm Esboniadol.

Paratowyd asesiadau rheoleiddiol o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, mewn perthynas â phob un o'r pum math o ffioedd y mae'r offeryn hwn yn ymwneud â hwy, ac maent ar gael gan Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

Yn rhinwedd Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010, O.S. 2010/2690.

(3)

1973 p.51. Diddymwyd is-adran (6) o adran 56 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1977 (p.18).

(4)

Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llwyodraeth Cymru 2006 p.32.

(5)

OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/1/EU (OJ Rhif L 7, 12.1.2010, t.17).

(7)

1971 p.80; gweler adran 1 ac Atodlen 1.

(10)

OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t.112.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources