Search Legislation

Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Bae Abertawe (Thomas Shellfish Limited) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1689 (Cy.217)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

PYSGOD CREGYN

Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Bae Abertawe (Thomas Shellfish Limited) 2012

Gwnaed

27 Mehefin 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mehefin 2012

Yn dod i rym

18 Medi 2012

Gwnaed cais i Weinidogion Cymru gan Thomas Shellfish Limited (Rhif y Cwmni: 04751727) (“y Grantî”) am Orchymyn sy'n rhoi yr hawl i bysgodfa unigol o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967(1) (“y Ddeddf”).

Paratowyd Gorchymyn drafft gan Weinidogion Cymru a chyflwynwyd copi ohono i'r Grantî yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.

Parodd y Grantî fod copïau printiedig o'r Gorchymyn drafft yn cael eu cyhoeddi a'u cylchredeg, a rhoddodd hysbysiad o'r cais yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.

Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn gael ei wneud.

Mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylid gwneud y Gorchymyn canlynol yn awr.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1 o'r Ddeddf ac sydd bellach wedi eu breinio(2) ynddynt hwy.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Bae Abertawe (Thomas Shellfish Limited) 2012, a daw i rym ar 18 Medi 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “yr Ardal” (“the Area”) yw'r ardal o Fae Abertawe a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;

ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw'r hawl i bysgodfa unigol a grëir gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;

ystyr “cragen las” (“mussel”) yw unrhyw bysgodyn cragen o'r math Mytilus edulis;

ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967;

ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Thomas Shellfish Limited (Rhif y Cwmni: 04751727) sydd â'i swyddfa gofrestredig yn Druslyn House, Stryd De La Beche, Abertawe, SA1 3HJ, neu pa bynnag berson arall sydd â hawl i'r bysgodfa am y tro; ac

ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3).

Yr hawl i bysgodfa

3.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, mae gan y Grantî yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision o fewn yr Ardal am gyfnod o 20 mlynedd sy'n dechrau ar 18 Medi 2012.

Marcio terfynau'r Ardal

4.  Rhaid i'r Grantî farcio terfynau'r Ardal ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd, a rhaid iddo gynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.

Manylion daliadau

5.—(1Rhaid i'r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion daliadau—

(a)ar gyfer y cyfnod o 18 Medi 2012 i 31 Mawrth 2013, ar neu cyn 31 Gorffennaf 2013; ac ar ôl hynny

(b)ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth, ar neu cyn 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y mae'r cyfnod hwnnw'n dod i ben.

(2Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—

(a)cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn cregyn gleision a heuir yn y bysgodfa;

(b)lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn cregyn gleision ohoni;

(c)cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl gregyn gleision a gymerir o'r bysgodfa;

(d)lleoliad y man y cymerwyd y cregyn gleision ohono; ac

(e)pa bynnag wybodaeth bellach a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.

Cyfrifon o'r incwm a'r gwariant, gwybodaeth arall ac archwilio

6.—(1Rhaid i'r Grantî roi i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o incwm a gwariant y Grantî o dan y Gorchymyn hwn.

(2Heb leihau dim ar effaith paragraff (1), rhaid i'r Grantî gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir gan Weinidogion Cymru am wybodaeth mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.

(3Rhaid i'r Grantî ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio'r Ardal a'r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy'n ymwneud â'r Gorchymyn hwn, a rhaid iddo roi i'r person hwnnw unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r materion hyn, y gofynnir amdani gan y person hwnnw.

Hawliau'r Goron

7.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n lleihau effaith unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint neu esemptiad y Goron, ac yn benodol, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n awdurdodi'r Grantî i gymryd, defnyddio neu ymyrryd mewn unrhyw fodd ag unrhyw ran o lan neu wely'r môr neu lan neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu aber neu unrhyw dir, hereditamentau, gwrthrychau neu hawliau o unrhyw ddisgrifiad sy'n eiddo i'w Mawrhydi drwy hawl ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron.

Hawliau ymgymerwyr statudol

8.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n lleihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.

Aseinio

9.  Ni chaiff y Grantî, heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, aseinio'r hawl hwn i bysgodfa, na'i drosglwyddo mewn unrhyw ffordd arall, i unrhyw berson arall.

Alun Davies

Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

27 Mehefin 2012

Erthygl 2

YR ATODLENDISGRIFIAD O'R ARDAL

Y rhan honno o wely'r môr ym Mae Abertawe sy'n ymestyn i tua 70 hectar, ac sydd oddi mewn i linell sy'n cysylltu'r cyfesurynnau a rifwyd 1 i 4 yn y tabl isod.

PwyntLledredHydred
151° 35. 27' Go3° 58. 50' Gn
251° 35. 20' Go3° 58. 20' Gn
351° 34. 45' Go3° 58. 90' Gn
451° 34. 40' Go3° 58. 50' Gn

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi i Thomas Shellfish Limited (Rhif y Cwmni: 04751727) (“y Grantî”) yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision (Mytilus edulis) dros arwynebedd o tua 70 hectar ym Mae Abertawe am gyfnod o 20 mlynedd sy'n dechrau ar 18 Medi 2012.

Diffinnir hyd a lled y bysgodfa drwy ddefnyddio'r cyfesurynnau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir, at ddibenion eglurhaol yn unig, ar fap sydd ar gael i'w archwilio (os gwneir apwyntiad ymlaen llaw) yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Mae erthygl 3 yn rhoi'r hawl i bysgodfa unigol.

Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn marcio terfynau'r bysgodfa ym mha bynnag fodd y bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo o bryd i'w gilydd, ac yn cynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.

Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn cyflwyno manylion daliadau yn flynyddol i Weinidogion Cymru, gan gynnwys gwybodaeth benodedig.

Mae erthygl 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn darparu cyfrifon blynyddol ac yn cydymffurfio â phob cais am wybodaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd fod y Grantî yn caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio ardal y bysgodfa a'r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy'n ymwneud â'r Gorchymyn hwn a'r ardal honno.

Mae erthygl 7 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith hawliau'r Goron, ac erthygl 8 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.

Mae erthygl 9 yn gwahardd aseinio, neu drosglwyddo rywfodd arall, yr hawl i bysgodfa unigol a grëir gan y Gorchymyn hwn heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru.

Os na fodlonir Gweinidogion Cymru bod Grantî yn ffermio'r bysgodfa neu'n gweithredu'r cyfyngiadau a'r rheoliadau a gynhwysir yn y Gorchymyn yn briodol, mae adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud tystysgrif i'r perwyl hwnnw, a fydd yn terfynu'r bysgodfa yn llwyr, o ran yr ardal y gwneir y dystysgrif mewn perthynas â hi.

(1)

1967 p.83. Diwygiwyd adran 1 o'r Ddeddf gan adran 15(1) a (2) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77); adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) (Diwygio) 1997 (p.3); adran 9(1) o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86) a pharagraff 15 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno; adrannau 202(1), (2) a (3), 203 a 321 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23), a Rhan 5(A) o Atodlen 22 i'r Ddeddf honno. Rhaid darllen y Ddeddf ar y cyd ag adran 15(3) i (5) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77). Diwygiwyd Atodlen 1 i'r Ddeddf gan adran 15(7) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77), adran 31(6) o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977 (p.45), adrannau 37 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) ac adrannau 202(4), 214(1) i (4) a 321 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23) a Rhan 5(A) o Atodlen 22 i'r Ddeddf honno.

(2)

Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, trosglwyddwyd swyddogaethau “the appropriate Minister” fel y'i diffinnir yn adran 22(1) o'r Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources