2012 Rhif 283 (Cy.47)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 78C(8), (9) a (10), 78G(5) a (6) a 78L(4) a (5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19901 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy2.

Cyn gwneud y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, ac mae'r Cyngor hwnnw wedi ymgynghori â Phwyllgor Cymru a Phwyllgor yr Alban yn unol ag adran 44 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 20073 a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi.