- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gwnaed
3 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Chwefror 2012
Yn dod i rym
6 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 78C(8), (9) a (10), 78G(5) a (6) a 78L(4) a (5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).
Cyn gwneud y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, ac mae'r Cyngor hwnnw wedi ymgynghori â Phwyllgor Cymru a Phwyllgor yr Alban yn unol ag adran 44 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007(3) a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (llygru dyfroedd a reolir)—
(a)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir, ac o ganlyniad—
(i)nid yw'r dyfroedd hynny yn bodloni neu nad ydynt yn debygol o fodloni'r maen prawf ar gyfer y dosbarthiad sy'n gymwys i'r disgrifiad perthnasol o ddyfroedd a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 82 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(5) (dosbarthu ansawdd dyfroedd); neu
(ii)ar gyfer dyfroedd a reolir sydd wedi eu dynodi fel ardaloedd gwarchodedig o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi dŵr(6), nid yw'r dyfroedd hynny yn bodloni'r amcanion amgylcheddol sy'n gymwys iddynt o dan y Gyfarwyddeb honno (ac eithrio'r ardaloedd gwarchodedig a restrir ym mharagraffau (i), (iv) a (v) o Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb honno); neu”; a
(b)ym mharagraff (c)(ii), yn lle “o fewn strata tanddaearol”, rhodder “mewn strata tanddaearol o fewn y parth dirlawnder”.
(3) Yn rheoliad 11 (addasu hysbysiad adfer), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Dim ond mewn perthynas ag apelau a wneir yn unol â rheoliad 8(1) cyn 6 Ebrill 2012 y mae'r rheoliad hwn yn gymwys.”
(4) Yn Atodlen 2 (iawndal am hawliau mynediad etc)—
(a)ym mharagraff 5(3) yn lle “Tribiwnlys Tiroedd” rhodder “Uwch Dribiwnlys”;
(b)ym mharagraffau 6(2)(c) a 6(3) yn lle “y Tribiwnlys Tiroedd” rhodder “yr Uwch Dribiwnlys”; ac
(c)yn lle paragraff 6(4), rhodder—
“(4) Mewn perthynas â phenderfynu unrhyw gwestiwn o'r fath, mae adran 4 o Ddeddf 1961 (costau)(7) i'w chymhwyso fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—
(a)bod y cyfeiriad at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (3) o'r paragraff hwn;
(b)bod y cyfeiriadau at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person priodol; ac
(c)bod cyfeiriadau at yr hawlydd yn gyfeiriadau at y grantwr.”
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2989 (Cy.278)) (“Rheoliadau 2006”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio'r amgylchiadau a nodir yn rheoliad 3(b) (llygru dyfroedd a reolir) o Reoliadau 2006 lle y mae'n ofynnol i dir halogedig, sy'n effeithio ar ddyfroedd a reolir, gael ei ddynodi yn safle arbennig. Mae'r diwygiad hwn yn cymryd ystyriaeth o ardaloedd gwarchodedig o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi dŵr (OJ Rhif L327, 22.12.00, t.1).
Mae rheoliad 2(2) hefyd yn diwygio rheoliad 3(c) (llygru dyfroedd a reolir) o Reoliadau 2006 i gymryd ystyriaeth o'r diffiniad a ddiweddarwyd o “controlled waters” yn adran 78A(9) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43).
Mae rheoliad 2(3) yn cyfyngu ar gymhwysiad rheoliad 11 (addasu hysbysiad adfer) o Reoliadau 2006 i apelau sy'n cael eu cychwyn cyn 6 Ebrill 2012. O ran yr apelau hynny, mae rheoliad 11 yn darparu ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru, cyn iddynt addasu hysbysiad adfer mewn modd a fyddai'n llai ffafriol i'r apelydd neu i unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, hysbysu'r personau hynny a chaniatáu iddynt gyflwyno sylwadau a chael eu gwrando mewn perthynas â'r addasiad arfaethedig.
Mae rheoliad 2(4) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2006 i adlewyrchu'r newidiadau a achoswyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau'r Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys Tiroedd a Diwygiadau Amrywiol) 2009 (O.S. 2009/1307) a drosglwyddodd swyddogaethau'r Tribiwnlys Tiroedd i'r Uwch Dribiwnlys ac a ddiddymodd y Tribiwnlys Tiroedd. Mae rheoliad 2(4) hefyd yn diwygio paragraff 6(4) o Atodlen 2 i Reoliadau 2006 i ddileu'r cyfeiriadau at adran 2 a ddiddymwyd o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (p. 33) ac yn darparu ar gyfer cymhwysiad priodol cyfeiriadau penodol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r newidiadau i'r drefn tir halogedig. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r newidiadau i'r drefn tir halogedig, gan gyfeirio at brif effeithiau'r Rheoliadau hyn. Mae copi ar gael gan: Yr Adran Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol ar wahân wedi cael ei wneud ar gyfer y Rheoliadau hyn.
1990 p. 43. Mewnosodwyd adrannau 78C, 78G a 78L gan adran 57 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25). Mae adran 78C(10) wedi'i diwygio'n rhagolygol gan adran 86 o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37). Diwygiwyd adran 78L(4) gan adran 104 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) a Rhan 10 o Atodlen 5 iddi. Gweler y diffiniad o “prescribed” a “regulations” yn adran 78A(9).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 78C, 78G a 78L o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf lywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru.
2007 p. 15. Mae'r termau Saesneg cyfatebol, sef “Welsh Committee” a “Scottish Committee”, wedi eu diffinio ym mharagraff 28(1) o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.
O.S. 2006/2989 (Cy. 278), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L327, 22.12.00, t.1.
1961 p. 33. Diwygiwyd adran 4 gan baragraffau 36 a 39 o Atodlen 1 i Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau'r Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys Tiroedd a Diwygiadau Amrywiol) 2009 (O.S. 2009/1307).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: