Search Legislation

Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN BAPELAU ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG A HAWLIADAU ANABLEDD

CYCHWYN ACHOSION

Gwneud apêl neu hawliad

Cyfnod a ganiateir ar gyfer cychwyn achos

12.—(1Rhaid gwneud apêl i'r Tribiwnlys drwy gais ysgrifenedig yn unol â'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r Tribiwnlys ei gael ddim hwyrach na'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad pan roddwyd yr hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod lleol ac o'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o dan Ran 4 o Ddeddf 1996(1).

(2Mewn perthynas ag apêl neu apêl arfaethedig, os cyfeirir yr anghydfod dan sylw ar gyfer datrys anghydfodau o dan adran 332BA o Ddeddf 1996(2) cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), estynnir am dri mis y cyfnod a ganiateir gan y paragraff hwnnw.

(3Rhaid gwneud hawliad i'r Tribiwnlys drwy gais ysgrifenedig yn unol â'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r Tribiwnlys ei gael ddim hwyrach na'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod a ddatgenir ym mharagraff 4(1) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010(3).

(4Mewn perthynas â hawliad neu hawliad arfaethedig, os cyfeirir yr anghydfod dan sylw ar gyfer datrys anghydfodau o dan baragraff 6C o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010(4) neu gymodi o dan adran 27(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2006(5) cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), estynnir am dri mis y cyfnod a ganiateir gan y paragraff hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i reoliad 17, ni chaiff y Tribiwnlys ystyried—

(a)cais apêl oni chychwynnir achos yn unol â pharagraffau (1) a (2);

(b)cais hawlio oni chychwynnir achos yn unol â pharagraffau (3) a (4).

Cais apêl

13.—(1Rhaid i'r cais apêl ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud yr apêl, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y person hwnnw;

(b)enw a dyddiad geni'r plentyn;

(c)os yw'n berthnasol, y berthynas neu'r cysylltiad rhwng y person sy'n gwneud yr apêl a'r plentyn;

(ch)enwau a chyfeiriadau'r holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu sy'n rhannu'r cyfrifoldeb rhiant, dros y plentyn neu sy'n gofalu am y plentyn, neu resymau pam na ddarperir enwau a chyfeiriadau'r personau hynny;

(d)enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd a benodir gan y person sy'n gwneud yr apêl, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd hwnnw;

(dd)cyfeiriad ac os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y person sy'n gwneud yr apêl;

(e)enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir;

(f)y dyddiad y cafodd y person sy'n gwneud yr apêl gadarnhad ysgrifenedig o'r penderfyniad a herir;

(ff)y rheswm neu'r rhesymau dros wneud yr apêl;

(g)y canlyniad a geisir; ac

(ng)y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod.

(2Os yw'r person sy'n gwneud yr apêl yn gofyn am orchymyn—

(a)bod datganiad y plentyn i'w ddiwygio, rhaid i'r cais apêl bennu â pha ran neu rannau o'r datganiad y mae'r apêl yn ymwneud;

(b)bod ysgol (ac eithrio unrhyw ysgol a enwir eisoes yn natganiad y plentyn) i gael ei henwi yn y datganiad, rhaid i'r cais apêl naill ai ddatgan enw a chyfeiriad yr ysgol honno neu roi disgrifiad digonol o'r math o ysgol, ac o natur yr ysgol, a ystyrid gan y person yn lleoliad priodol ar gyfer y plentyn.

(3Ceir cyflwyno'r cais apêl ynghyd ag—

(a)copi o'r penderfyniad a herir;

(b)os gwneir yr apêl o dan adran 326 o Ddeddf 1996 neu baragraffau 8 neu 11 o Atodlen 27 i'r Ddeddf honno, copi o ddatganiad y plentyn, unrhyw ddogfennaeth a atodwyd i'r datganiad neu sy'n ffurfio rhan ohono, ac os yw ar gael, copi o'r adolygiad diweddaraf o dan adran 328 o Ddeddf 1996.

(4Rhaid cyflwyno'r cais apêl ynghyd ag—

(a)cadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr apêl wedi hysbysu'r personau, os oes rhai, a enwir yn unol â pharagraff (1)(ch), fod y person yn bwriadu gwneud apêl i'r Tribiwnlys, neu gadarnhad ysgrifenedig sy'n esbonio pam nad yw'r person sy'n gwneud yr hawliad wedi hysbysu unrhyw un o'r personau hynny;

(b)pan fo'r cais apêl yn datgan enw ysgol yn unol â pharagraff (2)(b), cadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr apêl wedi hysbysu pennaeth yr ysgol o fwriad y person i ofyn am enwi'r ysgol yn y datganiad; ac

(c)pan fo'r cais apêl, o dan baragraff (2)(b), yn datgan enw—

(i)ysgol a gynhelir, drwy gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr apêl wedi hysbysu'r awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol honno, a allai fod yr awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir neu awdurdod lleol gwahanol, am fwriad y person i ofyn am enwi'r ysgol a gynhelir yn y datganiad;

(ii)ysgol annibynnol, drwy gadarnhad ysgrifenedig gan berchennog yr ysgol bod lle ar gael yn yr ysgol i'r plentyn.

(5Rhaid i'r cais apêl gael ei lofnodi gan y person sy'n gwneud yr apêl, neu gan unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar ran y person hwnnw.

(6Yn unol â rheoliad 38, caiff y cais apêl gynnwys cais am i'r apêl gael ei chlywed ar y cyd â hawliad yn erbyn corff cyfrifol.

Cais hawlio

14.—(1Rhaid i'r cais hawlio ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud yr hawliad ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y person hwnnw;

(b)enw a dyddiad geni'r plentyn;

(c)os yw'n berthnasol, y berthynas neu'r cysylltiad rhwng y person sy'n gwneud yr hawliad a'r plentyn;

(ch)enwau a chyfeiriadau'r holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu sy'n rhannu'r cyfrifoldeb rhiant, dros y plentyn neu sy'n gofalu am y plentyn, neu'r rhesymau pam na ddarparwyd enwau a chyfeiriadau'r personau hynny;

(d)enw a cyfeiriad unrhyw gynrychiolydd a benodir gan y person sy'n gwneud yr hawliad, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd hwnnw;

(dd)cyfeiriad ac os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y person sy'n gwneud yr hawliad;

(e)enw a chyfeiriad—

(i)yr ysgol neu'r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir; neu

(ii)yr awdurdod ar gyfer yr ysgol a enwir o dan baragraff (1)(e)(i) os yw'r cyfryw ysgol yn ysgol a gynhelir;

(f)manylion y penderfyniad a herir, y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef;

(ff)y dyddiad neu'r dyddiadau y digwyddodd y penderfyniad a herir;

(g)y rheswm neu'r rhesymau dros wneud yr hawliad;

(ng)y canlyniad a geisir; ac

(h)y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod.

(2Rhaid i'r cais hawlio gynnwys disgrifiad o anabledd y plentyn.

(3Os yw ar gael, dylid cyflwyno ynghyd â'r cais hawlio dystiolaeth o ddiagnosis meddygol neu ddiagnosis proffesiynol arall mewn perthynas ag anabledd y plentyn.

(4Rhaid cyflwyno'r cais hawlio ynghyd â chadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr hawliad wedi hysbysu'r personau, os oes rhai, a enwir yn unol â pharagraff (1)(ch), fod y person wedi gwneud hawliad i'r Tribiwnlys; neu gadarnhad ysgrifenedig sy'n esbonio pam nad yw'r person sy'n gwneud yr hawliad wedi hysbysu unrhyw un o'r personau hynny.

(5Rhaid i'r cais hawlio gael ei lofnodi gan y person sy'n gwneud yr hawliad, neu gan unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar ran y person hwnnw.

(6Yn unol â rheoliad 38, caiff y cais hawlio gynnwys cais am i'r hawliad gael ei glywed ar y cyd ag apêl yn erbyn awdurdod lleol.

Gweithredu gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

15.—(1Pan ddaw'r cais apêl neu'r cais hawlio i law, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—

(a)cofnodi ei fanylion yn y Gofrestr; a

(b)anfon at yr apelydd neu'r hawlydd—

(i)cydnabyddiaeth o'i dderbyn a nodyn o rif yr achos a gofnodwyd yn y Gofrestr;

(ii)nodyn o'r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys;

(iii)hysbysiad y gellir cael cyngor ynghylch y weithdrefn apelau neu hawliadau o swyddfa'r Tribiwnlys;

(iv)yn ddarostyngedig i reoliad 19(2), hysbysiad sy'n datgan yr amser a ganiateir ar gyfer cyflwyno datganiad achos a thystiolaeth yr apelydd neu'r hawlydd o dan reoliad 19(1); a

(v)datganiad o'r canlyniadau posibl i'r apêl neu'r hawliad os na fydd y parti'n cydymffurfio â rheoliad 7 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu).

(2Yr un pryd ag yr anfonir yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)(iv) at yr apelydd neu'r hawlydd, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon at yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol—

(a)copi o'r cais apêl neu'r cais hawlio ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig;

(b)nodyn o'r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys;

(c)hysbysiad sy'n datgan yr amser ar gyfer cyflwyno datganiad achos a thystiolaeth yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol o dan reoliad 19(1), a'r canlyniadau os na wneir hynny; a

(ch)datganiad o'r canlyniadau posibl i'r apêl neu'r hawliad os nad yw parti'n cydymffurfio â rheoliad 7 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu).

(3Pan fo'n ofynnol canfod enw'r corff cyfrifol mewn perthynas â hawliad, caiff y Llywydd wneud pa bynnag ymholiadau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.

(4Os yw'n ymddangos i'r Llywydd neu Ysgrifennydd y Tribiwnlys y gall fod mwy nag un corff cyfrifol mewn perthynas â hawliad, caiff y Tribiwnlys anfon y ddogfennaeth a bennir ym mharagraff (2) at unrhyw rai neu at bob un o'r cyfryw gyrff, fel y bo'n briodol.

(5Os yw Llywydd ac Ysgrifennydd y Tribiwnlys o'r farn, ar sail y cais apêl neu'r cais hawlio, bod y person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad yn gofyn i'r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i bwerau'r Tribiwnlys, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi hysbysiad i'r person hwnnw—

(a)sy'n datgan y rhesymau dros y farn honno; a

(b)sy'n rhoi gwybod i'r person rhaid peidio â chofnodi'r cais apêl neu'r cais hawlio yn y Gofrestr oni fydd y person, o fewn amser penodedig (rhaid iddo fod yn ddim llai na 5 niwrnod gwaith) wedi hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fwriad y person i fynd ymlaen â'r apêl neu'r hawliad.

(6Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff (5), rhaid trin y cais apêl neu'r cais hawlio fel un sydd wedi ei gael at ddibenion paragraff (1) os yw'r person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad yn hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys o ddymuniad y person i fynd ymlaen â'r apêl neu'r hawliad.

(7Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys o'r farn bod gwall amlwg yn y cais apêl neu'r cais hawlio, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys gywiro'r gwall hwnnw.

(8Pan fo gwall wedi ei gywiro yn unol â pharagraff (7), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu'r person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad o'r cywiriad, a datgan effaith paragraff (9).

(9Oni fydd y person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad yn rhoi gwybod i Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod y person yn gwrthwynebu'r cywiriad, o fewn 5 niwrnod gwaith ar ôl rhoi'r hysbysiad o dan baragraff (8), rhaid trin y cais apêl neu'r cais hawlio fel y'i cywirwyd fel y cais apêl neu'r cais hawlio at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(10Yn ddarostyngedig i reoliadau 67(2) a (3) a pharagraff (11), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynglŷn â'r apêl neu'r hawliad at yr apelydd neu'r hawlydd.

(11Mae paragraff (10) yn gymwys—

(a)oni fydd yr apelydd neu'r hawlydd yn hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod rhaid anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynglŷn â'r apêl neu'r hawliad at y cynrychiolydd yn hytrach nag at yr apelydd neu'r hawlydd;

(b)yn ddarostyngedig i reoliadau 55(7) a 79(5).

(12Pan fo paragraff (11)(a) yn gymwys, rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn (sut bynnag y'u mynegir) at anfon dogfennau at yr apelydd neu'r hawlydd, neu roi hysbysiad i'r apelydd neu'r hawlydd, fel pe baent yn gyfeiriadau at anfon dogfennau at y cynrychiolydd neu roi hysbysiad i'r cynrychiolydd.

Apêl neu hawliad a wneir y tu allan i'r amser

16.—(1Caiff y Llywydd ystyried—

(a)unrhyw apêl sydd y tu allan i'r amser os yw'r Llywydd o'r farn, o dan holl amgylchiadau'r achos, y byddai'n deg a chyfiawn gwneud hynny;

(b)unrhyw apêl sydd y tu allan i'r amser o dan baragraff 4(3) o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

(2Caiff y Llywydd geisio gwybodaeth bellach gan y person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1).

Digonolrwydd y rhesymau

17.—(1Os nad yw'r cais apêl neu'r cais hawlio yn cynnwys datganiad o'r rhesymau dros wneud yr apêl neu'r hawliad, neu os na chyflwynir ef ynghyd â datganiad o'r fath, gan gynnwys, mewn perthynas â hawliad, yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 14(1)(ff), (g) a (2), ac sy'n ddigonol ym marn y Llywydd i alluogi'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol i ymateb i'r apêl neu'r hawliad, rhaid i'r Llywydd gyfarwyddo'r apelydd neu'r hawlydd i anfon manylion o'r rhesymau at Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl rhoi'r cyfarwyddyd.

(2Mae rheoliad 36 yn gymwys i gyfarwyddyd o dan baragraff (1).

(3Mae'r rhesymau a anfonir wrth ymateb i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1) i'w trin fel pe baent yn rhan o'r cais apêl neu'r cais hawlio.

Cynrychiolwyr yr apelydd neu'r hawlydd

18.—(1Caiff yr apelydd neu'r hawlydd, yn y cais apêl neu'r cais hawlio neu drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg yn ddiweddarach—

(a)penodi cynrychiolydd;

(b)penodi cynrychiolydd arall i gymryd lle'r cynrychiolydd a benodwyd yn flaenorol ac y diddymir ei benodiad gan y penodiad diweddarach;

(c)datgan nad oes unrhyw berson yn gweithredu fel cynrychiolydd yr apelydd neu'r hawlydd, sy'n diddymu unrhyw benodiad blaenorol.

(2Pan wneir penodiad o dan baragraff (1), rhaid i'r apelydd neu'r hawlydd roi enw, cyfeiriad, a manylion cyswllt y cynrychiolydd.

Paratoi achos cyn y gwrandawiad

Datganiadau achos a darpariaeth atodol

Y cyfnod datganiad achos

19.—(1Y cyfnod datganiad achos yw cyfnod—

(a)o 30 diwrnod gwaith, sy'n cychwyn ar y dyddiad yr ystyrir bod hysbysiad, a roddwyd o dan reoliad 15(1)(b)(iv) ac 15(2)(c) wedi ei gael yn unol â rheoliad 79(11); a

(b)sy'n cynnwys unrhyw estyniad i'r cyfnod hwnnw a orchmynnir gan y Llywydd o dan reoliad 69.

(2Os yw'r Llywydd yn gwneud cyfarwyddyd mewn perthynas ag—

(a)apêl yn unol â rheoliad 17, ni fydd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) yn cychwyn, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon hysbysiad at yr apelydd fel sy'n ofynnol gan reoliad 15(1)(b)(iv), nac anfon unrhyw ddogfennau fel sy'n ofynnol gan reoliad 15(2), hyd nes y ceir rhesymau wrth ymateb i'r cyfarwyddyd;

(b)hawliad yn unol â rheoliad 17 neu'n gwneud ymholiadau o dan reoliad 15(3), ni fydd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) yn cychwyn, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon hysbysiad at yr hawlydd fel sy'n ofynnol gan reoliad 15(1)(b)(iv), nac anfon unrhyw ddogfennau at y corff cyfrifol fel sy'n ofynnol gan reoliad 15(2), hyd nes y ceir rhesymau wrth ymateb i'r cyfarwyddyd neu y cwblheir yr ymholiadau.

Datganiad achos a thystiolaeth yr apelydd neu'r hawlydd

20.—(1Rhaid i'r apelydd neu'r hawlydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, cyn diwedd y cyfnod datganiad achos—

(a)datganiad achos; a

(b)pob tystiolaeth arall y bwriedir dibynnu arni ac nas cyflwynwyd eisoes.

(2Rhaid i'r datganiad achos gynnwys—

(a)os rhiant y plentyn yw'r apelydd neu'r hawlydd—

(i)safbwyntiau'r plentyn ynglŷn â'r materion a godir yn yr apêl neu'r hawliad; neu

(ii)esboniad pam nad yw'r apelydd neu'r hawlydd wedi canfod safbwyntiau'r plentyn;

(b)os y plentyn yw'r apelydd neu'r hawlydd—

(i)safbwyntiau rhiant y plentyn ynglŷn â'r materion a godir yn yr apêl neu'r hawliad; neu

(ii)esboniad pam nad yw'r apelydd neu'r hawlydd wedi canfod safbwyntiau'r rhiant.

(3Os rhoddir caniatâd gan y Llywydd, caiff yr apelydd neu'r hawlydd—

(a)diwygio'r cais apêl neu'r cais hawlio;

(b)cyflwyno datganiad atodol o resymau sy'n cefnogi'r cais apêl neu'r cais hawlio;

(c)diwygio datganiad atodol o resymau sy'n cefnogi'r cais apêl neu'r cais hawlio;

(ch)cyflwyno datganiad achos atodol;

(d)diwygio datganiad achos atodol.

(4Rhaid i'r apelydd neu'r hawlydd gyflwyno copi i Ysgrifennydd y Tribiwnlys o bob diwygiad a datganiad atodol y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer o dan baragraff (3), o fewn y cyfnod o amser a ganiateir.

(5Os diwygir cais apêl yn unol â pharagraff (3) fel bod yr apelydd yn gofyn am orchymyn bod ysgol a gynhelir i'w henwi yn natganiad y plentyn, ac eithrio'r un a enwir eisoes yn y datganiad hwnnw, neu, os nad oes un a enwir eisoes, bod ysgol a gynhelir i gael ei henwi, rhaid i'r apelydd hysbysu pennaeth yr ysgol a gynhelir a enwir yn y cais apêl diwygiedig, gan ddatgan enw a dyddiad geni'r plentyn.

(6Os na chynhelir yr ysgol y cyfeirir ati ym mharagraff (5) gan yr awdurdod lleol, rhaid i'r apelydd hysbysu'r awdurdod sy'n cynnal yr ysgol.

(7Pan roddir caniatâd o dan baragraff (3), caiff y Llywydd, os bydd angen, estyn y cyfnod datganiad achos, o dan reoliad 69 neu, os daeth i ben, ganiatáu pa bynnag cyfnod pellach a ystyrir yn briodol gan y Llywydd.

(8Os yw'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol, ar yr adeg y rhoddir caniatâd o dan baragraff (3), wedi colli ei hawlogaeth i fod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad yn unol â rheoliadau 25 neu 36, bydd rhoi'r caniatâd yn adfer y cyfryw hawlogaeth ac, os bydd angen, caniateir gohirio'r gwrandawiad neu ohirio gweddill y gwrandawiad, fel y bo'n briodol, er mwyn i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gael ei gynrychioli.

Datganiad achos a thystiolaeth yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol

21.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys cyn diwedd y cyfnod datganiad achos—

(a)copi o'r penderfyniad a herir;

(b)os gwneir yr apêl o dan adran 326 o Ddeddf 1996 neu baragraffau 8 neu 11 o Atodlen 27 i'r Ddeddf honno, copi o ddatganiad y plentyn, unrhyw ddogfennaeth a atodwyd i'r datganiad neu sy'n ffurfio rhan ohono, ac os yw ar gael, copi o'r adolygiad diwethaf;

(c)datganiad achos; ac

(ch)pob tystiolaeth arall y bwriedir dibynnu arni ac nas cyflwynwyd eisoes.

(2Rhaid i ddatganiad achos yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gael ei lofnodi gan berson a awdurdodwyd i lofnodi dogfennau o'r fath ar ran yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol, a rhaid iddo ddatgan a yw'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol yn bwriadu gwrthwynebu'r apêl neu'r hawliad ai peidio.

(3Os yw'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol yn bwriadu gwrthwynebu'r apêl neu'r hawliad, rhaid i'w ddatganiad achos ddatgan—

(a)ar ba seiliau y gwrthwynebir yr apêl neu'r hawliad, neu unrhyw ran o'r apêl neu'r hawliad;

(b)enw a chyfeiriad cynrychiolydd yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol ac, os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd;

(c)y cyfeiriad lle y dylid anfon neu ddanfon dogfennau ar gyfer yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol;

(ch)crynodeb o'r ffeithiau mewn perthynas â'r penderfyniad a herir;

(d)y rheswm neu'r rhesymau dros y penderfyniad a herir os nad yw'r rheswm neu'r rhesymau'n gynwysedig yn y penderfyniad; ac

(dd)y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod.

(4Rhaid i ddatganiad achos yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gynnwys—

(a)safbwyntiau'r plentyn ynglŷn â'r materion a godir yn yr apêl neu'r hawliad; neu

(b)esboniad pam nad yw wedi canfod safbwyntiau'r plentyn.

(5Caiff yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol ddiwygio'i ddatganiad achos, cyflwyno datganiad achos atodol, neu ddiwygio datganiad achos atodol, os rhoddir caniatâd gan y Llywydd.

(6Rhaid i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gyflwyno i'r Tribiwnlys gopi o bob diwygiad a datganiad atodol y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer o dan baragraff (5), o fewn y cyfnod o amser a ganiateir.

(7Os rhoddir caniatâd o dan baragraff (5), caiff y Llywydd estyn y cyfnod datganiad achos o dan reoliad 69, neu, os daeth i ben, ganiatáu pa bynnag cyfnod pellach a ystyrir yn briodol gan y Llywydd.

(8Os yw'r apelydd neu'r hawlydd, ar yr adeg y rhoddir caniatâd o dan baragraff (5), wedi colli hawlogaeth i fod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad yn unol â rheoliad 36, bydd rhoi'r caniatâd yn adfer y cyfryw hawlogaeth ac, os bydd angen, caniateir gohirio'r gwrandawiad neu weddill y gwrandawiad, fel y bo'n briodol, er mwyn i'r apelydd neu'r hawlydd gael ei gynrychioli.

Newid cynrychiolydd yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol

22.—(1Caiff yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol, ar unrhyw adeg, newid ei gynrychiolydd at ddibenion yr apêl neu'r hawliad drwy hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys o enw a chyfeiriad ei gynrychiolydd newydd, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd.

(2Rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn (sut bynnag y'u mynegir) at anfon dogfennau at yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol, neu roi hysbysiad iddo, fel pe baent yn gyfeiriadau at anfon dogfennau at, neu roi hysbysiad i'r cynrychiolydd a enwir yn unol â pharagraff (1) neu reoliad 21(3)(b).

Newid yr awdurdod lleol mewn apêl

23.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion apêl os, ar ôl y dyddiad y gwnaed y penderfyniad a herir gan yr awdurdod lleol, nad yw'r awdurdod lleol bellach yn gyfrifol am y plentyn o fewn ystyr adran 321(3) o Ddeddf 1996 (“yr hen awdurdod”).

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff y Llywydd orchymyn, at holl ddibenion yr apêl ac wrth gael tystiolaeth bod y rheoliad hwn yn gymwys, y disodlir enw'r hen awdurdod gan enw'r awdurdod sy'n gyfrifol am y plentyn o fewn ystyr adran 321(3) o Ddeddf 1996 (“yr awdurdod newydd”).

(3Rhaid rhoi cyfle i'r hen awdurdod, yr awdurdod newydd a'r apelydd gael eu clywed cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (2).

(4Pan wneir gorchymyn o dan baragraff (2)—

(a)rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu'r hen awdurdod, yr awdurdod newydd a'r apelydd;

(b)ni fydd yr hen awdurdod bellach yn barti yn yr apêl;

(c)bydd yr awdurdod newydd yn dod yn barti yn yr apêl;

(ch)bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai'r awdurdod newydd wedi gwneud y penderfyniad a herir;

(d)rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copïau at yr awdurdod newydd o'r holl ddogfennau a thystiolaeth ysgrifenedig a gafodd y Tribiwnlys gan yr apelydd a chan yr hen awdurdod mewn perthynas â'r apêl;

(dd)bydd y weithdrefn ar gyfer penderfynu'r apêl yn ailgychwyn, a rheoliad 15 yn gymwys fel pe bai'r dogfennau a'r dystiolaeth ysgrifenedig a anfonwyd yn unol ag is-baragraff (d) yn rhan o'r cais apêl y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).

Copïau o ddogfennau i'r partïon

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—

(a)anfon copi at yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol o unrhyw ddiwygiad i'r cais apêl neu'r cais hawlio a ddaw i law yn ystod y cyfnod datganiad achos;

(b)ar ddiwedd y cyfnod datganiad achos, anfon copi o ddatganiad achos a thystiolaeth ysgrifenedig y naill barti at y llall;

(c)anfon copïau ar unwaith o unrhyw ddiwygiadau neu ddatganiadau atodol, sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth ysgrifenedig (ac eithrio tystiolaeth ysgrifenedig y ceir copi ohoni yn unol â rheoliad 50 (tystiolaeth ysgrifenedig sy'n hwyr)) neu ddogfennau eraill a geir gan barti ar ôl diwedd y cyfnod datganiad achos, at y parti arall.

(2Os cyflwynir cais apêl neu gais hawlio, datganiad achos, diwygiad, datganiad atodol, sylw ysgrifenedig, tystiolaeth ysgrifenedig neu ddogfen arall i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar ôl yr amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon copi o'r hyn a gyflwynir felly at y parti arall, onid estynnir y terfyn amser gan y Llywydd o dan reoliad 69.

(3Pan fo Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn anfon unrhyw gopïau o ddogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) at barti sydd eisoes wedi hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys, wrth ymateb i ymholiadau a wnaed o dan reoliad 26(a)(i) a (ii), nad yw'r parti'n dymuno bod yn bresennol na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ofyn a yw'r parti'n dymuno newid yr ymateb hwnnw ar sail y copïau a gafwyd.

Methiant i gyflwyno datganiad achos ac absenoldeb gwrthwynebiad

25.—(1Caiff y panel tribiwnlys benderfynu'r apêl neu'r hawliad heb wrandawiad neu drwy gynnal gwrandawiad—

(a)os na chaiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys ddatganiad achos gan yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol o fewn y cyfnod datganiad achos;

(b)os yw'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol yn datgan mewn ysgrifen nad yw'n gwrthwynebu—

(i)yr apêl sy'n ymwneud â chynnwys datganiad y plentyn neu benderfyniad i beidio â chynnal datganiad y plentyn; neu

(ii)yr hawliad;

(c)os yw'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol yn tynnu'n ôl ei wrthwynebiad i'r canlynol—

(i)yr apêl sy'n ymwneud â chynnwys datganiad y plentyn neu benderfyniad i beidio â chynnal datganiad y plentyn; neu

(ii)yr hawliad.

(2Os yw'r panel tribiwnlys yn penderfynu'r apêl neu'r hawliad heb wrandawiad, rhaid iddo wneud hynny ar sail y cais apêl neu'r cais hawlio ac unrhyw ddogfennaeth arall a ddaeth i law neu a ddiwygiwyd eisoes yn unol â rheoliad 20(3).

(3Os yw'r panel tribiwnlys yn penderfynu cynnal gwrandawiad yn unol â pharagraff (1), caiff ddyroddi cyfarwyddyd sy'n gwahardd yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol rhag bod yn bresennol yn y gwrandawiad na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad.

(4Os yw'r apêl yn ymwneud ag—

(a)yr hyn a gynhwysir mewn datganiad plentyn, ni fydd datganiad nad yw'r awdurdod lleol yn gwrthwynebu'r apêl, neu ei fod yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl, yn cael effaith hyd nes y bo'r awdurdod lleol yn cyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadarnhad ysgrifenedig o'r diwygiadau (os oes rhai) y mae'r awdurdod lleol yn cytuno i'w gwneud yn natganiad y plentyn;

(b)penderfyniad i beidio â chynnal datganiad, ni fydd datganiad nad yw'r awdurdod lleol yn gwrthwynebu'r apêl, neu ei fod yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl, yn cael effaith hyd nes y bo'r awdurdod lleol yn cyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadarnhad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod lleol i beidio â gwrthwynebu'r apêl neu i dynnu ei wrthwynebiad yn ôl.

Ymholiadau'r Tribiwnlys

Ymholiadau gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

26.  Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg ar ôl cael y cais apêl neu'r cais hawlio—

(a)gofyn i bob parti—

(i)a yw'r parti'n bwriadu bod yn bresennol yn y gwrandawiad ai peidio;

(ii)a yw'r parti yn dymuno cael ei gynrychioli yn y gwrandawiad yn unol â rheoliad 53 ac os felly, enw'r cynrychiolydd;

(iii)a yw'r parti'n bwriadu galw tystion ac os felly, enwau'r tystion arfaethedig, eu galwedigaethau, ac a oes arbenigwr meddygol neu arbenigwr arall yn eu plith;

(iv)a oes ar y parti, neu dyst, angen cymorth oherwydd nam cyfathrebu, ac os felly, manylion y math o cymorth cyfathrebu sy'n ofynnol;

(v)a oes gan y parti, neu dyst y bwriedir ei alw, unrhyw anableddau a allai olygu y byddai'n ofynnol gwneud addasiadau rhesymol;

(vi)a yw'r parti yn dymuno i berson fod yn bresennol fel sylwedydd yn y gwrandawiad ac os felly, enw'r person hwnnw;

(vii)a yw'r parti'n dymuno i unrhyw berson fod yn bresennol yn y gwrandawiad i fynegi safbwyntiau a dymuniadau'r plentyn, ac os felly, enw a chyfeiriad person o'r fath ac, os yw'n berthnasol, cysylltiad y person â'r plentyn;

(b)rhoi gwybod i bob parti—

(i)am effaith rheoliad 43(6) a darpariaeth rheoliad 46(2); a

(ii)os digwydd i ateb i unrhyw un o'r ymholiadau o dan is-baragraff (a) newid ar ôl i barti ymateb i'r ymholiadau hynny, bod rhaid i'r parti dan sylw roi gwybod ar unwaith i Ysgrifennydd y Tribiwnlys mewn ysgrifen.

Methiant i ymateb i ymholiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

27.—(1Caiff y Llywydd orchymyn—

(a)bod y cais apêl neu'r cais hawlio yn cael ei ddileu ar y sail bod methiant yr apelydd neu'r hawlydd i gydymffurfio ag ymholiadau, a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reoliad 26, yn rhagfarnu neu'n oedi gwrandawiad teg o'r apêl neu'r hawliad;

(b)na chaiff yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gymryd unrhyw gam pellach yn yr apêl neu'r hawliad na bod yn bresennol yn y gwrandawiad na chael ei gynrychioli yno ar y sail bod methiant yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol i gydymffurfio ag ymholiadau, a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reoliad 26, yn rhagfarnu neu'n oedi gwrandawiad teg o'r apêl neu'r hawliad.

(2Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1), rhaid i'r Llywydd roi hysbysiad i'r parti y bwriada'r Llywydd wneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i'r Llywydd ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd sylwadau roi gwybod i'r parti y caiff, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar;

(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—

(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os gwneir hwy o fewn y cyfnod penodedig; a

(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw'r parti sy'n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.

(4Os dilëir cais apêl neu gais hawlio o dan baragraff (1)(a), ystyrir bod yr achos y mae'r apêl neu'r hawliad yn ymwneud ag ef wedi ei derfynu.

Pwerau rheoli'r Tribiwnlys

Pwerau cyffredinol

28.—(1Caiff y Llywydd wneud cyfarwyddiadau ymarfer.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr “cyfarwyddiadau ymarfer” (“practice directions”) yw cyfarwyddiadau ymarfer a ddyroddir gan y Llywydd i roi cyngor ymarferol ar sut i ddehongli'r Rheoliadau hyn.

(3Mae pŵer y Llywydd i wneud cyfarwyddiadau ymarfer o dan baragraff (1) yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r cyfarwyddiadau ymarfer.

(4Rhaid i'r Llywydd gyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer a wnaed o dan baragraff (1), ac unrhyw amrywiad neu ddirymiad o gyfarwyddiadau ymarfer, yn y modd sy'n briodol ym marn y Llywydd.

Pŵer i ddileu'r apêl neu'r hawliad

29.—(1Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam mewn apêl neu hawliad, os gwneir cais gan yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol neu os cyfarwyddir felly gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, gyflwyno hysbysiad i'r apelydd neu'r hawlydd sy'n datgan bod cynnig wedi ei wneud i ddileu'r cyfan neu ran o'r apêl neu'r hawliad, ar un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (2) neu oherwydd diffyg erlyniad.

(2Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod yr apêl neu'r hawliad—

(a)wedi ei wneud rywfodd ac eithrio'n unol â'r Rheoliadau hyn;

(b)heb fod o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys, neu nad yw bellach o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys;

(c)heb ddatgelu seiliau rhesymol;

(ch)yn camddefnyddio proses y Tribiwnlys.

(3Rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (1) wahodd yr apelydd neu'r hawlydd i wneud sylwadau.

(4At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd sylwadau roi gwybod i'r apelydd neu'r hawlydd y caiff yr apelydd neu'r hawlydd, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar;

(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—

(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os gwneir hwy o fewn y cyfnod penodedig; a

(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw'r parti sy'n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.

(5Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan yr apelydd neu'r hawlydd, orchymyn dileu'r cyfan neu ran o'r apêl neu'r hawliad, ar un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (2) neu oherwydd diffyg erlyniad.

(6Ceir gwneud gorchymyn o dan baragraff (5) heb gynnal gwrandawiad, oni fydd yr apelydd neu'r hawlydd yn gofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar.

(7Os gwneir sylwadau llafar yn unol â pharagraff (6), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried y sylwadau llafar ar ddechrau'r gwrandawiad o sylwedd yr apêl neu'r hawliad.

(8Os dilëir y cyfan o'r cais apêl neu'r cais hawlio o dan baragraff (5), tybir bod yr achos y mae'r apêl neu'r hawliad yn ymwneud ag ef wedi ei derfynu.

Gorchymyn i ddiwygio datganiad achos

30.—(1Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, os yr ystyrir yn briodol gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam o'r apêl neu'r hawliad, orchymyn diwygio datganiad achos parti ar y sail nad yw'n datgelu seiliau rhesymol dros wneud yr apêl neu'r hawliad neu oherwydd ei fod yn camddefnyddio proses y Tribiwnlys.

(2Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1), rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi hysbysiad i'r parti y mae'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd sylwadau roi gwybod i'r parti y caiff, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar;

(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—

(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os gwneir hwy o fewn y cyfnod a bennir felly; a

(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw'r parti sy'n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod a bennir felly.

Tystiolaeth a chyflwyniadau

31.—(1Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi cyfarwyddiadau ar—

(a)y materion y mae'n ofynnol cael tystiolaeth neu gyflwyniadau yn eu cylch;

(b)natur y dystiolaeth neu'r cyflwyniadau sy'n ofynnol;

(c)pa un a ganiateir i'r partïon ddarparu tystiolaeth arbenigol ai peidio, neu a yw'n ofynnol iddynt wneud hynny, ac os felly, a oes raid i'r partïon ar y cyd benodi un arbenigwr i ddarparu tystiolaeth o'r fath;

(ch)y modd y darperir unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau, a chaiff hynny gynnwys cyfarwyddyd i'w rhoi—

(i)ar lafar mewn gwrandawiad; neu

(ii)fel cyflwyniadau ysgrifenedig neu ddatganiad tyst ysgrifenedig; a

(d)yr amser erbyn pryd y darperir unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau.

(2Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gyfarwyddo, mewn perthynas ag apêl—

(a)rhiant y plentyn i roi'r plentyn ar gael i'w archwilio neu'i asesu gan berson proffesiynol sydd â chymhwyster addas; neu

(b)y person sy'n gyfrifol am ysgol neu leoliad addysgol i ganiatáu i berson proffesiynol sydd â chymhwyster addas gael mynediad i'r ysgol neu'r lleoliad addysgol at y diben o asesu'r plentyn neu'r ddarpariaeth a wneir, neu sydd i'w gwneud, ar gyfer y plentyn.

(3Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried bod methiant person, sy'n barti yn yr apêl, i gydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (2), yn absenoldeb unrhyw reswm da dros fethiant o'r fath, yn fethiant i gydweithredu â'r Tribiwnlys.

(4Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys—

(a)derbyn tystiolaeth, pa un a fyddai'r dystiolaeth yn dderbyniadwy ai peidio mewn treial sifil yng Nghymru neu Loegr;

(b)allgáu tystiolaeth a fyddai, fel arall, yn dderbyniadwy—

(i)os na ddarparwyd y dystiolaeth o fewn yr amser a ganiateid gan gyfarwyddyd;

(ii)os darparwyd y dystiolaeth rywfodd arall mewn modd nad oedd yn cydymffurfio â chyfarwyddyd; neu

(iii)os byddai'n annheg rywfodd arall pe derbynnid y dystiolaeth.

Cyfarwyddiadau wrth baratoi ar gyfer gwrandawiad

32.—(1Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, pan wneir cais gan barti neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei hunan, roi pa bynnag gyfarwyddiadau i barti ar unrhyw fater sy'n codi mewn perthynas â'r apêl neu'r hawliad ac a ystyrir yn briodol gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, gan gynnwys y cyfryw gyfarwyddiadau a ddarperir yn rheoliadau 34 a 35, i alluogi'r partïon i baratoi ar gyfer y gwrandawiad neu gynorthwyo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys i benderfynu'r materion.

(2Rhaid i gais gan barti am gyfarwyddiadau gael ei wneud yn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys.

(3Rhaid i barti sy'n cyflwyno cais am gyfarwyddiadau i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, oni chyflwynir y cais ynghyd â chydsyniad ysgrifenedig y parti arall, gyflwyno copi o'r cais i'r parti arall.

(4Os bydd y parti arall yn gwrthwynebu'r cyfarwyddiadau a geisir, rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried y gwrthwynebiad, ac os yw'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys o'r farn bod angen hynny ar gyfer penderfynu'r cais, rhaid rhoi cyfle i'r partïon wneud sylwadau.

(5Os, ym marn y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, na cheid amser rhesymol cyn gwrandawiad y rhoddwyd hysbysiad ohono o dan reoliad 41(1), i gydymffurfio â chyfarwyddyd y gwneir cais amdano gan barti, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys—

(a)os bodlonwyd ef y gallai cydymffurfio â'r cyfarwyddyd gynorthwyo'r panel tribiwnlys i benderfynu'r materion, ohirio'r gwrandawiad cyn ei gychwyn o dan reoliad 51; neu

(b)gwrthod y cais.

(6Rhaid i gyfarwyddyd—

(a)cynnwys datganiad o'r canlyniadau posibl i'r apêl neu'r hawliad fel y'u darperir gan reoliad 36, pe bai parti'n methu â chydymffurfio â'r cyfarwyddyd o fewn yr amser a ganiateir gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys;

(b)oni fydd y person y cyfeirir y cyfarwyddyd ato wedi cael cyfle i wrthwynebu'r cyfarwyddyd, neu wedi cydsynio mewn ysgrifen i'r cais am y cyfarwyddyd, cynnwys datganiad i'r perwyl y caiff y person hwnnw wneud cais i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys o dan reoliad 33 am amrywio'r cyfarwyddyd neu'i osod o'r neilltu.

(7Pan fo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys, yn unol â rheoliad 38(1), yn gorchymyn—

(a)bod apêl i'w chlywed ar y cyd â hawliad, caiff y cyfarwyddiadau a roddir o dan baragraff (1), ymwneud â'r apêl yn unig;

(b)bod hawliad i'w glywed ar y cyd ag apêl, caiff y cyfarwyddiadau a roddir o dan baragraff (1), ymwneud â'r hawliad yn unig.

(8Pan fo paragraff (7)(a) yn gymwys, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried a fyddai'n fuddiol, o ran penderfynu'r apêl a'r hawliad yn effeithlon ac er budd y partïon, pe rhoddid yr un cyfarwyddiadau, neu gyfarwyddiadau tebyg, mewn perthynas â'r apêl ag a roddwyd yn yr hawliad.

(9Pan fo paragraff (7)(b) yn gymwys, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried a fyddai'n fuddiol, o ran penderfynu'r hawliad a'r apêl yn effeithlon ac er budd y partïon, pe rhoddid yr un cyfarwyddiadau, neu gyfarwyddiadau tebyg, mewn perthynas â'r hawliad ag a roddwyd yn yr apêl.

(10Os yw'n ymddangos i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys fod mater yn codi mewn apêl neu hawliad y mae'n rhaid ei benderfynu cyn y gwrandawiad ar sylwedd yr apêl neu'r hawliad, ac na ellir ei benderfynu'n briodol drwy roi cyfarwyddiadau, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wysio'r partïon i ymddangos gerbron y Llywydd neu'r panel tribiwnlys at y diben hwnnw, a chaiff roi unrhyw gyfarwyddiadau angenrheidiol mewn perthynas â'u hymddangosiad.

Amrywio cyfarwyddiadau neu'u gosod o'r neilltu

33.—(1Os na chafodd parti y cyfeirir cyfarwyddyd ato gyfle i wrthwynebu rhoi'r cyfarwyddyd hwnnw, ac nad oedd wedi cydsynio mewn ysgrifen â'r cais am y cyfarwyddyd hwnnw, caiff y parti hwnnw wneud cais i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar unrhyw adeg drwy hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, am i'r cyfarwyddyd gael ei amrywio neu'i osod o'r neilltu.

(2Rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys beidio ag amrywio'r cyfarwyddyd na'i osod o'r neilltu heb yn gyntaf hysbysu'r partïon ac ystyried unrhyw sylwadau a wneir ganddynt.

Manylion a datganiadau atodol

34.  Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti yn darparu, naill ai yn natganiad achos y parti hwnnw neu ynghyd â'r datganiad achos, pa bynnag fanylion neu ddatganiadau atodol y gofynnir amdanynt yn rhesymol ar gyfer penderfynu'r apêl neu'r hawliad.

Datgelu dogfennau a deunydd arall

35.—(1Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys—

(a)cyfarwyddo parti i gyflwyno i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys erbyn dyddiad penodedig unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall y gofynnir amdani neu amdano gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ac sydd o fewn gallu'r parti hwnnw i'w chyflwyno neu gyflwyno;

(b)rhoi cyfarwyddyd ar—

(i)unrhyw fater y mae'n ofynnol datgelu tystiolaeth yn eu cylch;

(ii)natur a maint y datgeliad;

(iii)y modd y mae'r ddogfen neu dystiolaeth arall i'w darparu i'r Tribiwnlys; a

(iv)allgáu unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall sy'n amherthnasol, yn ddiangen neu a gaffaelwyd yn amhriodol.

(2Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys osod amod ar gyflenwi copi o unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall a gyflwynir wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1), bod rhaid i'r parti sy'n ei gael ddefnyddio'r copi at ddibenion yr apêl neu'r hawliad yn unig.

(3Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ofyn am ymgymeriad ysgrifenedig yr ufuddheir i'r amod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) cyn cyflenwi copi.

(4Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ganiatáu gorchymyn i barti ar gyfer y math o ddatgelu neu archwilio dogfennau (gan gynnwys cymryd copïau) y gellid ei ganiatáu o dan Reolau'r Weithdrefn Sifil 1998(6).

(5Rhaid i orchymyn o dan baragraff (4) gynnwys cyfeiriad—

(a)mewn perthynas ag apêl, bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â'r gofynion ynglŷn â datgelu neu archwilio dogfennau, yn atebol o dan adran 336 o Ddeddf 1996, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol;

(b)mewn perthynas â hawliad, bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â'r gofynion ynglŷn â datgelu neu archwilio dogfennau, yn atebol o dan baragraff 6(8) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Methiant i gydymffurfio â chyfarwyddiadau

36.—(1Os na fydd parti wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan y Rheoliadau hyn o fewn yr amser a bennir yn y cyfarwyddyd, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys—

(a)os yr apelydd neu'r hawlydd yw'r parti diffygiol, wrthod yr apêl neu'r hawliad heb wrandawiad;

(b)os yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol, yw'r parti diffygiol, benderfynu'r apêl neu'r hawliad heb wrandawiad;

(c)cynnal gwrandawiad—

(i)heb hysbysu'r parti diffygiol, lle na fydd y parti diffygiol yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli; neu

(ii)pan fo'r partïon wedi eu hysbysu o'r gwrandawiad yn unol â rheoliad 41(1), a rhoi cyfarwyddyd nad oes hawl gan y parti diffygiol, nac unrhyw berson sy'n bwriadu cynrychioli'r parti hwnnw neu roi tystiolaeth ar ei ran, i fod yn bresennol yn y gwrandawiad.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “y parti diffygiol” (“the party in default”) yw'r parti a fethodd â chydymffurfio â'r cyfarwyddyd.

Cyfuno apelau neu hawliadau

37.—(1Os oes mwy nag un apêl yn ymwneud â'r un plentyn, neu'n galw am benderfyniad ar yr un mater i raddau sylweddol, caiff y Llywydd orchymyn bod yr apelau i'w clywed ar y cyd.

(2Os oes mwy nag un hawliad yn ymwneud â'r un plentyn, neu'n galw am benderfyniad ar yr un mater i raddau sylweddol, caiff y Llywydd orchymyn bod yr hawliadau i'w clywed ar y cyd.

(3Caiff y Llywydd wneud gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu gorchymyn cynharach a wnaed o dan baragraffau (1) neu (2).

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y Llywydd ddyroddi gorchymyn o dan y rheoliad hwn yn dilyn cais ysgrifenedig gan y naill barti neu'r llall neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan.

(5Rhaid peidio â gwneud gorchymyn o dan y rheoliad hwn onid yw'n ymddangos, ym marn y Llywydd, yn deg ac yn gyfiawn gwneud hynny, a chyn gwneud gorchymyn, rhaid rhoi cyfle i bob parti, ym mhob un o'r apelau neu'r hawliadau yr effeithir arnynt, gael ei glywed.

Cyfuno hawliadau gydag apelau

38.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo hawliad yn ymwneud â'r un plentyn a naill ai'n tarddu o'r un amgylchiadau neu'n gofyn am benderfyniad ar yr un mater, i raddau sylweddol, ag apêl, caiff y Llywydd orchymyn bod yr hawliad i'w glywed ar y cyd â'r apêl.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) sy'n caniatáu i'r Llywydd wneud gorchymyn os nad yw'r person wedi gwneud apêl o fewn y terfyn amser ar gyfer apelau o'r fath a ddarperir gan reoliad 12(1) neu gan unrhyw estyniad amser a ganiateir o dan y Rheoliadau hyn.

(3Ni chaiff y Llywydd wneud gorchymyn o dan baragraff (1) ac eithrio pan na fyddai gwneud y gorchymyn yn achosi oedi gormodol cyn penderfynu'r apêl, a chan gydymffurfio yn ogystal â gofynion paragraff (6).

(4Caiff y Llywydd wneud gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu gorchymyn cynharach a wnaed o dan baragraff (1).

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff y Llywydd ddyroddi gorchymyn o dan y rheoliad hwn, yn dilyn cais ysgrifenedig gan y naill barti neu'r llall neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan.

(6Rhaid peidio â gwneud gorchymyn o dan y rheoliad hwn onid yw gwneud hynny yn ymddangos yn deg ac yn gyfiawn, ym marn y Llywydd, a chyn gwneud gorchymyn, rhaid rhoi cyfle i bob parti, ym mhob un o'r hawliadau neu'r apelau yr effeithir arnynt, gael ei glywed.

Ychwanegu ac amnewid partïon

39.—(1Caiff person wneud cais am ei gysylltu fel parti i'r apêl neu'r hawliad.

(2Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wneud gorchymyn i gysylltu person fel parti i'r apêl neu'r hawliad—

(a)os gwneir cais ysgrifenedig o dan baragraff (1); neu

(b)ar gymhelliad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei hunan, pan nad oes cais ysgrifenedig wedi ei wneud, ond y person yn cydsynio i gael ei gysylltu fel parti i'r apêl neu'r hawliad.

(3Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wneud gorchymyn i amnewid parti—

(a)os yw person anghywir wedi ei enwi'n barti; neu

(b)os oes angen yr amnewid oherwydd newid yn yr amgylchiadau er pan gychwynnwyd yr apêl neu'r hawliad.

(4Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (2) neu (3) caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wneud pa bynnag gyfarwyddiadau canlyniadol, neu ymholiadau o dan reoliad 26, a ystyrir yn briodol gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys.

(5Oni fydd y Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn cyfarwyddo'n wahanol, rhaid trin person a benodir neu a amnewidir o dan y rheoliad hwn fel parti at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn sy'n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno neu anfon dogfen, neu roi hysbysiad, i neu at barti yn yr apêl neu'r hawliad.

Trosglwyddo apêl

40.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i achosion mewn perthynas ag apêl a wnaed gan apelydd ac eithrio apelydd sydd â hawl i wneud apêl o dan reoliadau a wnaed o dan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y Llywydd gyfeirio achos mewn perthynas ag apêl i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf os oes awdurdodaeth gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf mewn perthynas â'r achos.

(3Rhaid peidio â chyfeirio o dan baragraff (2) oni fydd hysbysiad wedi ei roi i'r partïon.

(4Os trosglwyddir achos mewn perthynas ag apêl i'r Tribiwnlys gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, caiff y Tribiwnlys barhau â'r achos os oes awdurdodaeth gan y Tribiwnlys mewn perthynas â'r achos hwnnw.

Gwrandawiadau a phenderfyniadau

Hysbysu dyddiad, lleoliad ac amser gwrandawiadau

41.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2) a rheoliad 42, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, ar ôl ymgynghori â'r partïon, bennu dyddiad, lleoliad ac amser y gwrandawiad ac anfon hysbysiad sy'n nodi dyddiad, lleoliad ac amser y gwrandawiad at bob parti.

(2Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi gofyn i barti ddarparu manylion o'r adegau y byddai ar gael i fod yn bresennol mewn gwrandawiad, a'r parti hwnnw heb gydymffurfio â'r cais, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys fynd ymlaen i restru'r apêl neu'r hawliad ar gyfer gwrandawiad heb ymgynghori ymhellach.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r hysbysiad o wrandawiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei anfon—

(a)mewn perthynas â gwrandawiad o dan reoliadau 25, 27, 29, 56 neu 57, ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer gwrandawiad;

(b)mewn unrhyw achos arall, ddim hwyrach na 10 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad; neu

(c)mewn unrhyw achos, o fewn cyfnod o amser byrrach cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad yn is-baragraffau (3)(a) neu (3)(b), fel a gytunir rhwng y partïon.

(4Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gynnwys yn yr hysbysiad o wrandawiad, neu gyda'r hysbysiad o wrandawiad—

(a)gwybodaeth a chanllawiau, mewn ffurf a gymeradwyir gan y Llywydd, ynglŷn â phresenoldeb y partïon a'r tystion yn y gwrandawiad, dod â dogfennau, a'r hawl i gynrychiolaeth neu gymorth fel a ddarperir gan reoliad 53; a

(b)datganiad sy'n esbonio'r canlyniadau posibl os methir â bod yn bresennol, a'r hawl sydd gan y canlynol i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig—

(i)yr apelydd neu'r hawlydd os na fydd yr apelydd neu'r hawlydd yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli;

(ii)yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol os na chynrychiolir ef ac os cyflwynodd ddatganiad o'i achos, oni fydd wedi datgan mewn ysgrifen nad yw'n gwrthwynebu'r apêl neu'r hawliad, neu wedi tynnu'n ôl ei wrthwynebiad i'r apêl neu'r hawliad.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys newid lleoliad ac amser unrhyw wrandawiad, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi i'r partïon ddim llai na 5 niwrnod gwaith (neu gyfnod llai fel a gytunir rhwng y partïon) o rybudd ynghylch lleoliad ac amser newydd y gwrandawiad.

(6Os yw'r partïon yn bresennol pan fydd y Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn cyhoeddi lleoliad ac amser newydd y gwrandawiad, ni fydd yn ofynnol rhoi hysbysiad pellach.

(7Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (5) sy'n gosod rhwymedigaeth ar Ysgrifennydd y Tribiwnlys i ymgynghori ag unrhyw berson nad oes hawl ganddo i'w gynrychioli yn y gwrandawiad, nac anfon hysbysiad at unrhyw berson o'r fath.

Pŵer i benderfynu apêl neu hawliad heb wrandawiad

42.—(1Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys benderfynu'r apêl neu'r hawliad neu unrhyw fater penodol heb wrandawiad—

(a)os yw'r partïon yn cytuno felly mewn ysgrifen; neu

(b)yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 25 (methiant i gyflwyno datganiad achos ac absenoldeb gwrthwynebiad) neu 36 (methiant i gydymffurfio â chyfarwyddiadau).

(2Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i'r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd eisoes gan y partïon, (at ddibenion y rheoliad hwn, trinnir y cais apêl neu'r cais hawlio a datganiadau achos y partïon fel pe baent yn sylwadau ysgrifenedig).

Gwrandawiadau cyhoeddus a phreifat: trefniadau ac eithriadau

43.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid cynnal pob un o wrandawiadau'r Tribiwnlys yn breifat.

(2Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wneud gorchymyn bod gwrandawiad neu ran o wrandawiad i'w gynnal yn gyhoeddus os yw'r partïon yn cydsynio i gael gwrandawiad cyhoeddus ac os bodlonir y Llywydd neu'r panel tribiwnlys na fyddai gwrandawiad cyhoeddus—

(a)yn rhagfarnu lles neu fuddiannau'r plentyn; a

(b)yn caniatáu gwrandawiad teg o'r apêl neu'r hawliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae hawl gan y personau canlynol i fod yn bresennol mewn gwrandawiad er gwaethaf ei gynnal yn breifat—

(a)y partïon;

(b)cynrychiolwyr y partïon;

(c)tystion y partïon; ac

(ch)unrhyw berson sydd wedi cyflwyno datganiad o addasrwydd i'r Tribiwnlys yn unol â rheoliad 66 er mwyn gweithredu fel cyfaill achos.

(4Mae hawl gan y personau canlynol hefyd i fod yn bresennol mewn gwrandawiad er gwaethaf ei gynnal yn breifat—

(a)y plentyn pan nad yw'r plentyn yn barti i'r apêl neu'r hawliad;

(b)rhiant y plentyn, pan nad yw'r rhiant yn barti i'r apêl neu'r hawliad;

(c)y clerc i'r panel tribiwnlys ac Ysgrifennydd y Tribiwnlys;

(ch)y Llywydd, Cadeirydd neu aelod o'r panel addysg (pan nad yw'n eistedd fel aelod o'r panel tribiwnlys);

(d)person sy'n cael ei hyfforddi fel Cadeirydd, aelod o'r panel addysg neu glerc i'r panel tribiwnlys;

(dd)person sy'n gweithredu ar ran y Llywydd i hyfforddi neu oruchwylio clercod i banelau tribiwnlys;

(e)dehonglwr;

(f)unrhyw berson sy'n rhoi cymorth angenrheidiol arall i berson sy'n eistedd fel aelod o'r panel tribiwnlys neu sydd â hawl i fod yn bresennol yn y gwrandawiad o ganlyniad i'r rheoliad hwn;

(ff)unrhyw berson a enwyd gan yr apelydd neu'r hawlydd wrth ymateb i'r ymholiad o dan reoliad 26(a)(vii) oni fydd y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wedi penderfynu rhaid i unrhyw berson o'r fath beidio â bod yn bresennol yn y gwrandawiad ac wedi hysbysu'r apelydd neu'r hawlydd yn unol â hynny.

(5Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, gyda chydsyniad y partïon neu'u cynrychiolwyr sy'n bresennol mewn gwirionedd, ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat.

(6Heb ragfarnu unrhyw bwerau eraill a allai fod ganddo, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys allgáu o wrandawiad, neu o ran ohono—

(a)person y mae ei ymddygiad, ym marn y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, wedi amharu, neu'n debygol o amharu ar y gwrandawiad;

(b)person y mae ei bresenoldeb, ym marn y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, wedi gwneud neu'n debygol o'i gwneud yn anodd i unrhyw berson roi tystiolaeth, neu wneud sylwadau sy'n angenrheidiol ar gyfer cynnal y gwrandawiad yn briodol;

(c)cynrychiolydd neu dyst nad oedd parti wedi ei enwi, heb esgus rhesymol, wrth ymateb i'r ymholiad gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reoliad 26.

(7Ac eithrio fel a ddarperir yn rheoliad 46(3) a (4) ni chaiff unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraffau (4) neu (5), ac eithrio yn achos y personau a bennir yn is-baragraffau (c), (e), ac (f) o baragraff (4) i'r graddau y mae'u priod ddyletswyddau'n mynnu, gymryd unrhyw ran yn y gwrandawiad nac ychwaith (pan fo ganddynt hawl neu ganiatâd i aros) yn ystyriaethau'r panel tribiwnlys.

Gorchmynion sy'n cyfyngu ar adrodd

44.—(1Pan fo gwneud hynny'n ymddangos yn briodol, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n cyfyngu ar gyhoeddi, neu'n gwahardd cyhoeddi, unrhyw ddeunydd sy'n debygol o arwain aelodau o'r cyhoedd at adnabod yr apelydd, yr hawlydd, plentyn neu berson arall, os tybir na ddylent gael eu hadnabod.

(2Yn y rheoliad hwn mae “cyhoeddi” (“publishing”), heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr ymadrodd hwnnw, yn cynnwys—

(a)cyhoeddi unrhyw ddeunydd mewn gwasanaeth rhaglenni, fel y diffinnir “programme service” gan adran 201 o Ddeddf Darlledu 1990(7); a

(b)peri cyhoeddi unrhyw ddeunydd.

(3Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wneud gorchymyn o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chyfnod cyfyngedig, ac amrywio neu ddirymu gorchymyn a wneir o dan y rheoliad hwn.

Y weithdrefn mewn gwrandawiad

45.—(1Ar ddechrau'r gwrandawiad rhaid i'r Cadeirydd esbonio'r drefn y mae'r panel tribiwnlys yn bwriadu ei mabwysiadu ar gyfer yr achos.

(2Rhaid i'r panel tribiwnlys gynnal y gwrandawiad mewn modd yr ystyria'n briodol er mwyn egluro'r materion a thrin yr achos yn deg a chyfiawn, gan osgoi ffurfioldeb diangen yn yr achos, i'r graddau yr ystyria'n briodol.

(3Rhaid i'r panel tribiwnlys benderfynu ym mha drefn y clywir y partïon a pha faterion sydd i'w penderfynu.

(4Caiff y panel tribiwnlys, os bodlonir ef fod gwneud hynny'n deg a chyfiawn, ganiatáu—

(a)i'r apelydd neu'r hawlydd ddibynnu ar seiliau nas datganwyd yn y cais apêl neu'r cais hawlio nac yn y datganiad achos, a rhoi tystiolaeth nas cyflwynwyd i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol, cyn nac ar y pryd y gwnaed y penderfyniad a herir;

(b)i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol ddibynnu ar seiliau nas pennwyd yn ei ddatganiad achos.

(5Os yw aelod o'r panel tribiwnlys ac eithrio'r Cadeirydd yn absennol, ar ddechrau'r gwrandawiad neu ar ôl hynny—

(a)caiff y ddau aelod arall, gyda chydsyniad y partïon, gynnal y gwrandawiad, ac os digwydd hynny mae'r panel tribiwnlys i'w ystyried wedi ei gyfansoddi'n briodol, a chaiff y ddau aelod hynny wneud penderfyniad y panel tribiwnlys;

(b)rhaid i'r aelod sy'n absennol beidio ag ailymuno â'r gwrandawiad.

Tystiolaeth mewn gwrandawiad

46.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 43(6), mae hawl gan y partïon yng nghwrs y gwrandawiad i roi tystiolaeth, galw tystion, holi unrhyw dyst ac annerch y panel tribiwnlys ar y dystiolaeth, gan gynnwys y dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd cyn y gwrandawiad, yn ogystal ag yn gyffredinol ar destun yr apêl neu'r hawliad.

(2Nid oes hawl gan barti i alw mwy na dau dyst i roi tystiolaeth ar lafar (yn ychwanegol at unrhyw dyst y mae ei bresenoldeb yn ofynnol yn unol â pharagraff (6)).

(3Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ganiatáu i'r personau canlynol roi tystiolaeth ac annerch y panel tribiwnlys ar destun yr apêl neu'r hawliad—

(a)y plentyn, pan nad yw'r plentyn yn barti i'r apêl neu'r hawliad;

(b)rhiant y plentyn, pan nad yw'r rhiant yn barti i'r apêl neu'r hawliad;

(c)person sydd wedi cyflwyno datganiad o addasrwydd i'r Tribiwnlys yn unol â rheoliad 66 er mwyn gweithredu fel cyfaill achos.

(4Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ganiatáu—

(a)i'r person, os oes un, a enwyd mewn ymateb i ymholiad o dan reoliad 26(a)(vii) roi tystiolaeth ac annerch y panel tribiwnlys ar safbwyntiau a dymuniadau'r plentyn;

(b)i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol i holi'r person a bennir yn is-baragraff (a) ynglŷn ag unrhyw dystiolaeth neu anerchiad a wnaed i'r panel tribiwnlys.

(5Ceir rhoi tystiolaeth gerbron y panel tribiwnlys naill ai—

(a)ar lafar; neu

(b)drwy ddatganiad ysgrifenedig os cyflwynir y cyfryw dystiolaeth ynghyd â'r cais apêl neu'r cais hawlio neu'r datganiad achos neu'n unol â rheoliad 50.

(6Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam o'r apêl neu'r hawliad, bennu bod presenoldeb personol unrhyw wneuthurwr o unrhyw ddatganiad ysgrifenedig yn ofynnol.

(7Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gymryd tystiolaeth ynghylch unrhyw ffaith sy'n ymddangos yn berthnasol i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys.

(8Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti neu dyst yn rhoi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhad, ac at y diben hwnnw ceir gweinyddu llw neu gadarnhad yn y ffurf gywir, neu ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw dystiolaeth a roddir drwy ddatganiad ysgrifenedig yn cael ei rhoi drwy ddatganiad o wirionedd.

Newid tyst

47.—(1Ceir newid y person a enwyd gan barti fel tyst ar ei ran, wrth ymateb i ymholiad a wnaed o dan reoliad 26, gan y parti hwnnw, os bydd Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi cael hysbysiad ysgrifenedig, a chopi o'r hysbysiad wedi ei gyflwyno i'r parti arall ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.

(2Rhaid i unrhyw gais i newid tyst, a wneir llai na 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, gael ei benderfynu gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys.

Gwysio tyst

48.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, pan wneir cais gan barti neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei hunan, ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs bresenoldeb unrhyw berson fel tyst mewn gwrandawiad, ar y cyfryw adeg ac yn y cyfryw le a bennir yn y wŷs ac mewn unrhyw ohiriad o'r gwrandawiad hwnnw neu o weddill y gwrandawiad hwnnw, ac yn y gwrandawiad, ei fod yn ateb unrhyw gwestiynau neu'n dangos unrhyw ddogfennau neu ddeunydd arall a gedwir gan, neu sydd o dan reolaeth, y person hwnnw ac sy'n ymwneud ag unrhyw fater dan sylw yn yr apêl neu'r hawliad.

(2Rhaid peidio â gorfodi unrhyw berson i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall, na ellid gorfodi'r person i'w rhoi neu i'w dangos mewn treial o achos mewn llys barn.

(3Wrth arfer y pŵer a roddir gan y rheoliad hwn, rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys gymryd i ystyriaeth yr angen i ddiogelu unrhyw fater sy'n ymwneud ag amgylchiadau personol agos neu amgylchiadau ariannol, neu sy'n cynnwys gwybodaeth a fynegwyd neu a gafwyd yn gyfrinachol.

(4Ni cheir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs bod person yn bresennol oni roddwyd o leiaf 5 niwrnod gwaith o rybudd o'r gwrandawiad i'r person hwnnw, neu, os rhoddwyd llai na 5 niwrnod gwaith, oni fydd y person wedi rhoi gwybod i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys fod y person yn derbyn y rhybudd a roddwyd.

(5Ni cheir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs bod person yn bresennol ac yn rhoi tystiolaeth neu'n dangos unrhyw ddogfen, oni fydd swm o arian wedi ei dalu neu'i gynnig, sy'n rhesymol ddigonol i dalu treuliau angenrheidiol presenoldeb y person hwnnw.

(6Rhaid i barti sy'n gofyn am wŷs tyst wneud cais ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, o leiaf 8 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, neu'n ddiweddarach os yw'r person y cyfeirir y wŷs ato yn cydsynio mewn ysgrifen.

(7Rhaid i wŷs tyst gynnwys—

(a)mewn perthynas ag apêl, datganiad bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod yn bresennol i roi tystiolaeth ac, os gofynnir am hynny yn y wŷs, i ddangos dogfennau, yn atebol o dan adran 336 o Ddeddf 1996, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol;

(b)mewn perthynas â hawliad, datganiad bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod yn bresennol i roi tystiolaeth ac, os gofynnir am hynny yn y wŷs, i ddangos dogfennau, yn atebol o dan baragraff 6(8) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol; a

(c)datganiad o effaith paragraff (8).

(8Caiff person y cyfeirir gwŷs tyst ato wneud cais i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys, drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, i amrywio'r wŷs neu'i gosod o'r neilltu.

(9Rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys beidio ag amrywio na gosod o'r neilltu wŷs tyst heb yn gyntaf hysbysu'r parti a wnaeth gais am ddyroddi'r wŷs tyst ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y parti hwnnw.

Tystiolaeth dros y teleffon, cyswllt fideo neu ddulliau eraill

49.  Caiff y Llywydd, naill ai pan wneir cais gan barti neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei hunan, ganiatáu i barti neu i dyst roi tystiolaeth dros y teleffon, drwy gyswllt fideo neu drwy unrhyw ddull arall o gyfathrebu, os bodlonir ef na fyddai hynny'n rhagfarnu ar gyrraedd amcan gor-redol y Rheoliadau hyn.

Tystiolaeth ysgrifenedig sy'n hwyr

50.—(1Ar ddechrau'r gwrandawiad, caiff parti gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig bellach ar gyfer ei derbyn—

(a)os yw'r partïon yn cytuno i dderbyn y dystiolaeth bellach; neu

(b)os yw'r dystiolaeth yn bodloni'r amodau a bennir ym mharagraff (2).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—

(a)nad oedd y dystiolaeth ar gael ac nad oedd modd, yn rhesymol, iddi fod ar gael i'r parti hwnnw cyn diwedd y cyfnod datganiad achos; a

(b)y cyflwynwyd copi o'r dystiolaeth i Ysgrifennydd y Tribiwnlys a chyflwynwyd copi o'r dystiolaeth i'r parti arall o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.

(3Ni cheir derbyn tystiolaeth ysgrifenedig bellach a gyflwynir yn unol â pharagraff (1)(b) ac eithrio, yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys o'r farn, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau gan y parti arall, nad yw maint a ffurf y dystiolaeth honno'n debygol o rwystro cynnal y gwrandawiad yn effeithlon.

(4Rhaid peidio â derbyn tystiolaeth ysgrifenedig bellach os byddai ei derbyn, ym marn y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, yn groes i fuddiannau cyfiawnder.

(5Pan na fodlonir yr amodau ym mharagraff (2), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi caniatâd i barti gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig bellach yn y gwrandawiad os yw'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys o'r farn yr achosid risg ddifrifol o ragfarn yn erbyn y parti sy'n ceisio dibynnu ar y dystiolaeth honno pe na dderbynnid hi.

Gohirio gwrandawiad cyn ei gychwyn

51.—(1Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, naill ai ar gymhelliad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei hunan neu ar gais parti, mewn amgylchiadau eithriadol, wneud gorchymyn i ohirio gwrandawiad cyn ei gychwyn.

(2Rhaid i gais gan barti o dan baragraff (1)—

(a)cael ei wneud mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau yn llawn;

(b)dod i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a chael ei gyflwyno gan y ceisydd i'r parti arall, o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.

(3Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (1), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi i'r partïon ddim llai na 5 niwrnod gwaith (neu ba bynnag gyfnod byrrach a gytunir gan y partïon) o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad newydd.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3) sy'n gosod rhwymedigaeth ar Ysgrifennydd y Tribiwnlys i ymgynghori ag unrhyw berson nad oes hawl ganddo i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, nac anfon hysbysiad at unrhyw berson o'r fath.

Gohiriadau ar ôl cychwyn a chyfarwyddiadau

52.—(1Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ohirio gwrandawiad ar ôl ei gychwyn.

(2Pan ohirir gwrandawiad ar ôl ei gychwyn—

(a)caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi cyfarwyddiadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy cyn ailgychwyn y gwrandawiad neu yn y gwrandawiad ar ôl ailgychwyn;

(b)caiff y Cadeirydd gyhoeddi casgliadau dros dro a gyrhaeddwyd gan y panel tribiwnlys. Nid yw'r casgliadau dros dro yn benderfyniad y panel tribiwnlys.

(3Caiff cyfarwyddyd o dan baragraff (2)(a) ei gwneud yn ofynnol bod parti'n darparu pa bynnag fanylion, tystiolaeth neu ddatganiadau y gofynnir amdanynt yn rhesymol ar gyfer penderfynu'r apêl neu'r hawliad.

(4Os yw parti'n methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (2)(a), caiff y panel tribiwnlys gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu'r apêl neu'r hawliad neu wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn ar gyfer costau.

(5Os cyhoeddir lleoliad ac amser gwrandawiad a ohiriwyd ar ôl ei gychwyn, yn y gwrandawid cyn ei ohirio felly, ni fydd unrhyw hysbysiad pellach yn ofynnol.

Cynrychioli mewn gwrandawiad

53.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn unrhyw wrandawiad neu ran o wrandawiad—

(a)caiff yr apelydd neu'r hawlydd gynnal yr apêl neu hawliad (gyda chymorth gan un person os yw'r apelydd neu'r hawlydd yn dymuno), neu caiff ymddangos a chael ei gynrychioli gan un person, pa un a oes cymwysterau cyfreithiol gan y person hwnnw ai peidio;

(b)caiff yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol ymddangos a chael ei gynrychioli gan un person, pa un a oes cymwysterau cyfreithiol gan y person hwnnw ai peidio.

(2Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi caniatâd—

(a)i'r apelydd neu'r hawlydd gael cymorth neu gael ei gynrychioli gan fwy nag un person;

(b)i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gael ei gynrychioli gan fwy nag un person.

(3Os nad yw parti'n bwriadu bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, caiff y parti hwnnw, ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, anfon at Ysgrifennydd y Tribiwnlys sylwadau ysgrifenedig ychwanegol i gefnogi achos y parti hwnnw.

Methiant i fod yn bresennol mewn gwrandawiad

54.—(1Os yw parti'n peidio â bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad yr hysbyswyd y parti hwnnw ohono, caiff y panel tribiwnlys—

(a)oni fodlonir y panel tribiwnlys fod rheswm digonol dros y cyfryw absenoldeb, glywed a phenderfynu'r apêl neu'r hawliad yn absenoldeb y parti hwnnw; neu

(b)gohirio'r gwrandawiad cyn ei gychwyn neu ei ohirio ar ôl ei gychwyn fel y bo'n briodol.

(2Cyn penderfynu apêl neu hawliad yn absenoldeb parti, rhaid i'r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y parti hwnnw wrth ymateb i'r hysbysiad o wrandawiad, ac at ddibenion y rheoliad hwn mae'r cais apêl neu'r cais hawlio a datganiadau achos y partïon i'w trin fel pe baent yn sylwadau ysgrifenedig.

Penderfyniad y panel tribiwnlys

55.—(1At y diben o gyrraedd ei benderfyniad rhaid i'r panel tribiwnlys, ac at y diben o drafod mater gweithdrefnol caiff y panel tribiwnlys, er gwaethaf unrhyw beth a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, orchymyn i bob person adael yr eisteddiad o'r panel tribiwnlys ac eithrio aelodau'r panel tribiwnlys ac unrhyw rai o'r personau a grybwyllir yn rheoliad 43(4)(c) i (dd), neu, fel y mynno'u priod ddyletswyddau, rheoliad 43(4)(e) ac (f).

(2Caiff y panel tribiwnlys wneud penderfyniad drwy fwyafrif, a phan gyfansoddir y panel tribiwnlys o ddau aelod o dan reoliad 45(5) bydd gan y Cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(3Ceir naill ai roi penderfyniad y panel tribiwnlys ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad neu ohirio'r penderfyniad, ac ym mhob achos, pa un a gynhaliwyd gwrandawiad ai peidio, rhaid cofnodi'r penderfyniad ar unwaith mewn dogfen y mae'n rhaid cynnwys ynddi neu fel atodiad iddi hefyd, ac eithrio mewn achos a benderfynir drwy gydsyniad, ddatganiad o'r rhesymau (mewn ffurf gryno) dros benderfyniad y panel tribiwnlys, a rhaid i ddogfen o'r fath gael ei llofnodi a'i dyddio gan y Cadeirydd.

(4Ni chaiff penderfyniad a roddir ar lafar na'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys unrhyw gyfeiriad at wneud y penderfyniad drwy fwyafrif (os dyna a ddigwyddodd) nac at unrhyw farn lleiafrif.

(5Rhaid cofnodi pob penderfyniad y panel tribiwnlys yn y Gofrestr.

(6Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3), cyn gynted ag y bo'n ymarferol, at bob parti ynghyd â chanllawiau, mewn ffurf a gymeradwyir gan y Llywydd, ar yr amgylchiadau pan fo hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y panel tribiwnlys ac ar y weithdrefn sydd i'w dilyn.

(7Pan fo rheoliadau 15(11)(a) neu 67(2) yn gymwys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o'r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) at yr apelydd neu'r hawlydd yn ogystal ag at y cynrychiolydd neu'r cyfaill achos.

(8Mae pob penderfyniad i'w drin fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad yr anfonir copi o'r ddogfen sy'n ei gofnodi at yr apelydd neu'r hawlydd (pa un a gyhoeddwyd y penderfyniad yn gynharach ar ddiwedd y gwrandawiad ai peidio).

Ar ôl y gwrandawiad

Cais neu gynnig ar gyfer adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys

56.—(1Caiff parti wneud cais i Ysgrifennydd y Tribiwnlys am i benderfyniad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gael ei adolygu ar y seiliau—

(a)bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghywir oherwydd gwall pwysig ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys;

(b)bod gan barti a oedd â hawl i gael ei glywed yn y gwrandawiad, ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros beidio ag ymddangos;

(c)bod gwall amlwg a phwysig yn y penderfyniad; neu

(ch)bod buddiannau cyfiawnder yn gwneud hynny'n ofynnol.

(2Rhaid i gais am adolygu penderfyniad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gael ei wneud—

(a)mewn ysgrifen gan ddatgan y seiliau;

(b)ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.

(3Caiff y Llywydd—

(a)ar gais parti neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan, adolygu a gosod o'r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Llywydd, ar un o'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1);

(b)gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y Llywydd yn unol â pharagraff (6).

(4Caiff y Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos—

(a)ar gais parti neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r Cadeirydd ei hunan, adolygu a gosod o'r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wnaed gan y panel tribiwnlys ar un o'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1);

(b)gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y panel tribiwnlys yn unol â pharagraff (6).

(5Caiff Cadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos orchymyn cynnal ail wrandawiad, gerbron yr un panel tribiwnlys neu gerbron panel tribiwnlys sydd wedi'i gyfansoddi'n wahanol.

(6Caiff Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos wrthod y cyfan neu ran o gais am adolygiad os, ym marn y Llywydd neu'r Cadeirydd, nad oes siawns resymol i'r cais cyfan hwnnw neu'r rhan honno lwyddo.

(7Oni fydd cais am adolygiad wedi ei wrthod yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r adolygiad gael ei benderfynu, ar ôl rhoi cyfle i'r partïon gael eu clywed—

(a)gan y Llywydd, os gwnaed y penderfyniad gan y Llywydd;

(b)os gwnaed y penderfyniad gan banel tribiwnlys, gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad neu gan banel tribiwnlys arall a benodir gan y Llywydd.

(8Os yw Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos, ar gymhelliad y Llywydd neu'r Cadeirydd ei hunan, yn cynnig y dylid adolygu penderfyniad—

(a)rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad i'r partïon ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon; a

(b)rhaid rhoi cyfle i'r partïon gael eu clywed.

(9Wrth benderfynu cais neu gynnig ar gyfer adolygiad o dan baragraffau (3), (4) neu (7), caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd roi cyfarwyddiadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy, cyn neu yn ystod y gwrandawiad o'r adolygiad.

(10Os yw parti'n methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (9), caiff y panel tribiwnlys gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu'r adolygiad neu benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn ar gyfer costau.

(11Caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd, os gwneir cais gan barti, roi caniatâd i'r parti hwnnw newid tyst at ddibenion y gwrandawiad o'r adolygiad.

(12Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (11), ddod i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a rhaid i'r ceisydd gyflwyno'r cais i'r parti arall, ddim hwyrach na 14 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad o'r adolygiad.

(13Rhaid i'r Llywydd neu'r Cadeirydd roi cyfle i'r partïon gael eu clywed ynglŷn ag unrhyw gais a wneir o dan baragraff (11).

(14Os gosodir penderfyniad o'r neilltu neu os amrywir penderfyniad yn dilyn adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr a rhaid iddo hysbysu'r partïon yn unol â hynny.

Adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys i beidio ag estyn y cyfnod a ganiateir ar gyfer cychwyn achos

57.—(1Pan wneir penderfyniad gan y Llywydd i beidio ag estyn yr amser a ganiateir o dan reoliad 16 ar gyfer cyflwyno cais apêl, ceir adolygu'r penderfyniad hwnnw o dan reoliad 56, ar gais person, fel pe bai'r person hwnnw'n barti i'r apêl.

(2Pan fo'r Llywydd yn penderfynu peidio ag ystyried hawliad y tu allan i'r amser, o dan baragraff 4(3) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, ceir adolygu'r penderfyniad hwnnw o dan reoliad 56, ar gais person, fel pe bai'r person hwnnw'n barti i'r hawliad.

(3Os gwneir cais am adolygiad o dan baragraffau (1) neu (2), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno copi o'r cais i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol a rhoi i'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol hysbysiad yn gwahodd sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod penodedig.

Ystyried cais am ganiatâd i apelio i'r Uwch Dribiwnlys

58.—(1Pan ddaw cais i'w law o dan reoliad 39A o Reoliadau'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig 2001, neu reoliad 39A o Reoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (Darpariaethau Cyffredinol a Gweithdrefn Hawliadau Anabledd) 2002 am ganiatâd i apelio i'r Uwch Dribiwnlys, rhaid i Lywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos ystyried yn gyntaf, gan gymryd i ystyriaeth yr amcan gor-redol yn rheoliad 6, a ddylai adolygu penderfyniad y Tribiwnlys yn unol â rheoliad 56 ai peidio, oni fydd y Llywydd neu'r Cadeirydd eisoes wedi adolygu'r penderfyniad, neu wedi penderfynu peidio ag adolygu'r penderfyniad.

(2Pan fo'r Llywydd neu'r Cadeirydd yn penderfynu peidio ag adolygu'r penderfyniad, neu'n adolygu'r penderfyniad ac yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â'r penderfyniad, neu ran ohono, rhaid i'r Llywydd neu'r Cadeirydd ystyried wedyn a ddylai roi caniatâd i apelio mewn perthynas â'r penderfyniad, neu'r rhan honno ohono.

Pŵer i atal dros dro benderfyniad y Tribiwnlys

59.  Caiff Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos, ar gais, neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r Cadeirydd ei hunan, wneud gorchymyn i atal dros dro effaith penderfyniad y panel tribiwnlys tra'n disgwyl am benderfyniad gan y Llywydd neu'r Cadeirydd neu'r Uwch Dribiwnlys ar gais am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac unrhyw apêl neu adolygiad ohono.

Gorchmynion yr Uwch Dribiwnlys neu'r Llys

60.—(1Os caiff unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys ei osod o'r neilltu, ei amrywio neu'i newid mewn unrhyw ffordd gan orchymyn yr Uwch Dribiwnlys neu'r Llys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr i gyfateb i'r gorchymyn hwnnw, a rhaid iddo hysbysu'r partïon yn unol â hynny.

(2Os dychwelir yr apêl neu'r hawliad, drwy orchymyn yr Uwch Dribiwnlys neu'r Llys, i'w hailglywed neu i'w ailglywed gan y Tribiwnlys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu'r partïon y caiff pob parti, yn ystod cyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach a gytunir rhwng y partïon) gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.

(3Os caiff gorchymyn i ddileu'r cais apêl neu'r cais hawlio ei ddiddymu neu'i osod o'r neilltu gan yr Uwch Dribiwnlys neu'r Llys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu'r partïon—

(a)mewn achos pan nad oedd y cyfnod datganiad achos wedi dod i ben cyn i'r gorchymyn i ddileu gael effaith—

(i)y bydd cyfnod datganiad achos newydd yn dechrau; a

(ii)y caiff y partïon, o fewn y cyfnod datganiad achos newydd, gyflwyno'r ddogfennaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) mewn perthynas â datganiad achos neu dystiolaeth a gyflwynwyd cyn i'r dileu gael effaith; neu

(b)pan nad yw is-baragraff (a) yn gymwys, bod gan bob parti gyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach a gytunir rhwng y partïon) i gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.

(4Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o'r holl ddatganiadau achos a thystiolaeth ysgrifenedig a geir gan barti yn ystod y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3)(b) at y parti arall.

Cydymffurfiaeth

Cydymffurfio â gorchmynion y panel tribiwnlys — apelau

61.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw'r panel tribiwnlys, yn dilyn ei benderfyniad mewn perthynas ag apêl, yn gwneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn cyflawni gweithred y cyfeirir ati ym mharagraff (2) rhaid i'r awdurdod lleol gyflawni'r weithred honno o fewn y cyfnod amser a bennir ym mharagraff (2).

(2Yn achos gorchymyn—

(a)i wneud asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu—

(i)y rhiant, bod rhaid iddo wneud asesiad o dan adran 323(4) neu 329A(7) o Ddeddf 1996, yn ôl fel y digwydd, o fewn 5 wythnos; a

(ii)os y plentyn oedd yr apelydd, y plentyn, bod rhaid iddo wneud asesiad o dan adran 329A(7) o Ddeddf 1996 o fewn 5 wythnos;

(b)i wneud a chynnal datganiad, rhaid i'r awdurdod lleol wneud datganiad o fewn 5 wythnos;

(c)sy'n anfon achos yn ôl at yr awdurdod lleol o dan adran 325(3)(c) o Ddeddf 1996, rhaid i'r awdurdod lleol, o fewn 2 wythnos, gyflwyno i'r rhiant ac i'r plentyn gopi o'r datganiad arfaethedig a hysbysiad o dan baragraffau 2(1) a 2B(2), yn eu trefn, o Atodlen 27 i Ddeddf 1996, neu roi hysbysiad i'r rhiant ac i'r plentyn—

(i)o dan adran 325(1) o Ddeddf 1996 ei fod wedi penderfynu peidio â gwneud datganiad;

(ii)o'i resymau am y penderfyniad hwnnw;

(iii)o hawl y rhiant a'r plentyn i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw; a

(iv)o'r terfyn amser y mae'n rhaid gwneud apêl i'r Tribiwnlys oddi mewn iddo;

(ch)i ddiwygio datganiad, rhaid i'r awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad diwygio i'r rhiant ac i'r plentyn o dan baragraff 2A o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 o fewn 5 wythnos;

(d)i barhau i gynnal datganiad, rhaid i'r awdurdod lleol barhau i gynnal y datganiad gydag effaith ar unwaith;

(dd)i barhau i gynnal ac i ddiwygio datganiad, rhaid i'r awdurdod lleol barhau i gynnal y datganiad gydag effaith ar unwaith a rhaid iddo gyflwyno i'r rhiant ac i'r plentyn hysbysiad diwygio o dan baragraff 2A o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 o fewn 5 wythnos;

(e)i osod enw ysgol a bennir gan y rhiant neu'r plentyn yn lle enw ysgol neu sefydliad arall a bennir yn natganiad y plentyn, rhaid i'r awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i baragraff (3) bennu'r ysgol a bennir gan y rhiant neu'r plentyn o fewn 2 wythnos; ac

(f)sy'n gwrthod apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chynnal datganiad, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chynnal y datganiad hwnnw ar unwaith neu ar ddyddiad a gynigiwyd gan yr awdurdod lleol, pa un bynnag yw'r diweddaraf.

(3Os yw gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r ddau is-baragraff (ch) ac (e) o baragraff (2), neu'r ddau is-baragraff (dd) ac (e), o baragraff (2), rhaid i'r awdurdod lleol bennu'r ysgol a bennir gan y rhiant neu'r plentyn o fewn 5 wythnos.

(4Ym mhob achos ym mharagraffau (2) a (3), mae'r cyfnod yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl gwneud y gorchymyn.

(5Nid oes raid i'r awdurdod lleol gydymffurfio â'r cyfnodau amser y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) os yw gwneud hynny yn anymarferol oherwydd—

(a)amgylchiadau personol eithriadol sy'n effeithio ar y rhiant neu, os y plentyn oedd yr apelydd, y plentyn yn ystod y cyfnod o amser;

(b)bod y rhiant neu, os y plentyn oedd yr apelydd, y plentyn, yn absennol o ardal yr awdurdod lleol am gyfnod parhaol o ddim llai na 2 wythnos, neu pan fo paragraff (3) yn gymwys, dim llai na 5 wythnos, yn ystod y cyfnod o amser;

(c)bod y rhiant yn dynodi bod y rhiant yn dymuno cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch yr hyn a gynhwysir yn y datganiad, o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 ar ôl diwedd y cyfnod o 15 niwrnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o'r fath, a ddarperir ym mharagraff 4(4) o'r Atodlen honno;

(ch)bod cyfarfod rhwng y rhiant a swyddog o'r awdurdod lleol wedi ei gynnal o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996, a'r rhiant, o dan baragraff 4(2) o'r Atodlen honno, wedi ei gwneud yn ofynnol bod cyfarfod arall o'r fath, neu gyfarfod gyda'r person priodol, yn cael ei drefnu; neu

(d)bod yr awdurdod lleol wedi anfon cais ysgrifenedig at Weinidogion Cymru i ofyn am eu cydsyniad o dan adran 347(5) o Ddeddf 1996 i'r plentyn gael ei addysgu mewn ysgol annibynnol nas cymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, ac nad oedd yr awdurdod lleol wedi cael y cyfryw gydsyniad o fewn 3 wythnos o'r diwrnod yr anfonwyd y cais.

Cydymffurfio â chais apelydd pan fo awdurdod lleol yn ildio apêl

62.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os trinnir apêl i'r Tribiwnlys, o dan adran 326A(2) o Ddeddf 1996, fel pe bai wedi ei phenderfynu o blaid yr apelydd, rhaid i'r awdurdod lleol—

(a)yn achos apêl o dan adran 325 o Ddeddf 1996, wneud datganiad o fewn 5 wythnos;

(b)yn achos apêl o dan adran 328, 329 neu 329A o Ddeddf 1996, wneud asesiad o fewn 5 wythnos; ac

(c)yn achos apêl o dan baragraff 8(3) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 yn erbyn penderfyniad i beidio â chydymffurfio â chais yr apelydd i roi enw ysgol a gynhelir yn lle enw'r ysgol neu'r sefydliad a bennir yn y datganiad, gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn 2 wythnos.

(2Ym mhob achos ym mharagraff (1), mae'r cyfnod yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf wedi i'r awdurdod lleol hysbysu'r Tribiwnlys nad yw'n gwrthwynebu'r apêl.

(3Nid oes raid i'r awdurdod lleol gydymffurfio â'r terfynau amser y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) os yw gwneud hynny yn anymarferol oherwydd—

(a)amgylchiadau personol eithriadol sy'n effeithio ar y rhiant neu, os y plentyn oedd yr apelydd, y plentyn yn ystod y cyfnod perthnasol o amser;

(b)bod y rhiant neu, os y plentyn oedd yr apelydd, y plentyn, yn absennol o ardal yr awdurdod lleol am gyfnod parhaol o ddim llai na 2 wythnos yn ystod y cyfnod perthnasol o amser;

(c)bod y rhiant wedi dynodi bod y rhiant yn dymuno cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch yr hyn a gynhwysir yn y datganiad, o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 ar ôl diwedd y cyfnod o 15 niwrnod ar gyfer gwneud sylwadau o'r fath a ddarperir ym mharagraff 4(4) o'r Atodlen honno;

(ch)bod cyfarfod rhwng y rhiant a swyddog o'r awdurdod lleol wedi ei gynnal o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996, a'r rhiant, o dan baragraff 4(2) o'r Atodlen honno, wedi ei gwneud yn ofynnol bod cyfarfod arall o'r fath, neu gyfarfod gyda'r person priodol, yn cael ei drefnu, neu

(d)bod yr awdurdod lleol wedi anfon cais ysgrifenedig at Weinidogion Cymru i ofyn am eu cydsyniad o dan adran 347(5) o Ddeddf 1996 i'r plentyn gael ei addysgu mewn ysgol annibynnol nas cymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, ac nad oedd yr awdurdod lleol wedi cael y cyfryw gydsyniad o fewn 3 wythnos o'r diwrnod yr anfonwyd y cais.

(1)

Gweler Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 2002, rheoliad 5 (cyflwyno dogfennau) (O.S. 2002/152).

(2)

Mewnosodwyd adran 332BA gan adran 5 o Fesur Addysg (Cymru) 2009.

(3)

Mae paragraff 4(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn pennu o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud hawliad i'r Tribiwnlys. Mae is-baragraff (2) yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag achosion, neu achosion arfaethedig, pan gyfeirir yr anghydfod ar gyfer cymodi.

(4)

Mewnosodwyd paragraff 6C yn Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 gan O.S. 2011/1651.

(5)

2006 p.3; amnewidiwyd adran 27(1) gan baragraff 16 o Atodlen 26 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010; ail-rifwyd paragraff 16 fel paragraff 71 o Atodlen 26 gan baragraff 1(c) o Atodlen 1 i O.S. 2010/2279; diwygiwyd adran 27(1) yn ddiweddarach gan O.S. 2011/1060.

(6)

O.S. 1998/3132 — Rhan 31.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources