RHAN 2GWEITHDREFNAU TRIBIWNLYS EIDDO PRESWYL
Y prif amcan a dyletswydd y partïon i gydweithredu â'r tribiwnlys3
1
Pan fo tribiwnlys—
a
yn arfer unrhyw bŵer o dan y Rheoliadau hyn; neu
b
yn dehongli unrhyw reoliad,
rhaid i'r tribiwnlys geisio rhoi effaith i'r prif amcan o ymdrin yn deg a chyfiawn â'r ceisiadau sydd i'w penderfynu ganddo.
2
Mae ymdrin yn deg a chyfiawn â chais yn cynnwys—
a
ymdrin â'r cais mewn ffyrdd sy'n gymesur â chymhlethdod y materion sy'n codi ynddo ac ag adnoddau'r partïon;
b
sicrhau, hyd y bo'n ymarferol, fod y partïon ar yr un gwastad â'i gilydd o safbwynt y weithdrefn ac y gallant gymryd rhan gyflawn yn yr achos;
c
cynorthwyo unrhyw barti gyda chyflwyno achos y parti hwnnw heb argymell pa lwybr y dylai'r parti hwnnw ei ddilyn;
ch
defnyddio arbenigedd neilltuol y tribiwnlys yn effeithiol; a
d
osgoi oedi, i'r graddau y mae hynny'n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i'r materion dan sylw.
3
Rhaid i'r partïon—
a
cynorthwyo'r tribiwnlys i hyrwyddo'r prif amcan; a
b
cydweithredu â'r tribiwnlys yn gyffredinol.
Gofyn am estyn yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais4
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn gofyn i dribiwnlys am ganiatâd i wneud cais ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn Neddf 2004 neu Ddeddf 1983 fel y cyfnod mae'n rhaid gwneud y cais oddi mewn iddo.
2
Yn achos cais am estyniad y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid—
a
gwneud y cais am estyniad mewn ysgrifen;
b
rhoi'r rhesymau pam na wnaed y cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw ac esbonio unrhyw oedi pellach a ddigwyddodd ers hynny;
c
cynnwys datganiad bod y person sy'n gwneud y cais am estyniad yn credu bod yr holl ffeithiau a fynegir yn y cais am estyniad yn wir; ac
ch
dyddio a llofnodi'r cais am estyniad.
3
Pan wneir cais am estyniad fel y crybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i'r ceisydd ar yr un pryd anfon at y tribiwnlys y cais cyflawn y gofynnir am yr estyniad mewn perthynas ag ef.
4
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel9 ganiatáu neu wrthod cais am estyniad a wneir o dan baragraff (1).
Terfyn ar nifer y lleiniau, cartrefi symudol neu gyfeiriadau mewn cais unigol o dan Ddeddf 19835
1
Pan fo cais i dribiwnlys ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 yn ymwneud â mwy nag un llain neu gartref symudol, ni chaiff y cais gyfeirio at fwy nag un ddarpariaeth o Ddeddf 1983.
2
Ni chaiff cais, a wneir i dribiwnlys ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983, ymwneud â mwy nag 20 o leiniau neu gartrefi symudol.
Manylion cais6
1
Rhaid i gais fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol—
a
enw a chyfeiriad y ceisydd;
b
enw a chyfeiriad yr ymatebydd, os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r ceisydd, neu, os nad ydynt yn hysbys, disgrifiad o gysylltiad yr ymatebydd â'r fangre;
c
cyfeiriad y fangre;
ch
cysylltiad y ceisydd â'r fangre;
d
rhesymau'r ceisydd dros wneud y cais, gan gynnwys pa rwymedi a geisir;
dd
os ydynt yn hysbys i'r ceisydd, enw a chyfeiriad unrhyw berson â buddiant;
e
datganiad bod y ceisydd yn credu bod y ffeithiau a fynegir yn y cais yn wir;
f
llofnod y ceisydd a'r dyddiad; ac
ff
mewn perthynas â phob cais y mae paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo, y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) o'r paragraff hwnnw.
2
Ceir hepgor unrhyw rai o'r gofynion ym mharagraff (1) neu eu lliniaru os bodlonir y tribiwnlys—
a
bod y manylion a'r dogfennau a gynhwysir gyda chais yn ddigonol i ddangos bod y cais yn un y caniateir ei wneud i dribiwnlys; a
b
na fyddid yn rhagfarnu, neu nad yw'n debygol y byddid yn rhagfarnu, unrhyw barti i'r cais o ganlyniad i hepgor neu liniaru felly.
3
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).
Ceisiadau yn dilyn trosglwyddo cais a wnaed o dan Ddeddf 1983 o'r llys i dribiwnlys7
1
Pan fo llys yn trosglwyddo i dribiwnlys unrhyw fater sy'n codi o gais a wnaed i'r llys o dan Ddeddf 1983, rhaid i'r ceisydd, yn ychwanegol at gydymffurfio â'r gofynion a gynhwysir yn rheoliad 6(1), gynnwys yn y cais gopi o'r gorchymyn llys a drosglwyddodd y mater.
2
Caiff y tribiwnlys hepgor neu liniaru unrhyw rai o'r gofynion a gynhwysir ym mharagraff (1) os bodlonir y tribiwnlys ei fod wedi cael manylion a dogfennau digonol gan y llys i ddangos bod y cais yn un y caniateir ei wneud i dribiwnlys.
3
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).
Cydnabod derbyn cais a hysbysu ynghylch cais gan dribiwnlys8
1
Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael y cais, rhaid i'r tribiwnlys—
a
anfon at y ceisydd i gydnabod bod y cais wedi dod i law; a
b
anfon copi o'r cais ac o bob dogfen a gyflwynwyd gyda'r cais at yr ymatebydd.
2
Ac eithrio mewn achos y mae rheoliad 10 neu 11 yn gymwys iddo, rhaid i'r tribiwnlys anfon hefyd hysbysiad at yr ymatebydd sydd—
a
yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i'r ymatebydd anfon yr ateb a grybwyllir yn rheoliad 9;
b
yn pennu bod rhaid i unrhyw ymateb gynnwys—
i
datganiad pa un a yw'r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu'r cais ai peidio;
ii
os na chynhwyswyd hwy eisoes yn y cais, enwau a chyfeiriadau pob person â buddiant sy'n hysbys i'r ymatebydd; a
iii
y cyfeiriad lle dylid anfon dogfennau at ddibenion yr achos; ac
c
yn rhybuddio'r ymatebydd, os na fydd yr ymatebydd yn ateb erbyn y dyddiad penodedig, a chyda'r wybodaeth benodedig, y caiff y tribiwnlys—
i
rhagdybio nad yw'r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu'r cais; a
ii
mynd ymlaen â'r mater mewn unrhyw ffordd a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys o dan amgylchiadau'r achos.
3
Ni chaiff y dyddiad penodedig yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) fod yn llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y gwnaed yr hysbysiad.
Ateb gan yr ymatebydd9
1
Pan fo ymatebydd yn cael yr hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 8(2), rhaid i'r ymatebydd, erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, anfon ateb ysgrifenedig at y tribiwnlys, yn cydnabod iddo gael y copïau o'r dogfennau a anfonwyd yn unol â rheoliad 8(1)(b) ac yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan reoliad 8(2).
2
Os yw'r ymatebydd yn peidio ag ateb erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 8(2) neu'n peidio â darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan y paragraff hwnnw, caiff y tribiwnlys fynd ymlaen â'r mater mewn unrhyw ffordd a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys o dan amgylchiadau'r achos.
Ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI10
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r ATLl yn gofyn i dribiwnlys ymdrin â chais am awdurdodiad GRhI fel mater brys.
2
Os yw'n ymddangos i'r tribiwnlys, ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, rhaid i'r tribiwnlys orchymyn cynnal gwrandawiad llafar (“gwrandawiad llafar brys”).
3
Yr amgylchiadau eithriadol yw'r canlynol—
a
bod bygythiad di-oed i iechyd a diogelwch meddianwyr y tŷ neu i bersonau sy'n meddiannu, neu sydd ag ystad neu fuddiant mewn, unrhyw fangre yng nghyffiniau'r tŷ; a
b
byddai gwneud y gorchymyn rheoli interim cyn gynted ag y bo modd (ynghyd, pan fo'n gymwys, â pha bynnag fesurau eraill y bwriada'r ATLl eu cymryd) yn galluogi'r ATLl i gymryd camau priodol yn ddi-oed i atal y bygythiad neu leihau'r bygythiad yn sylweddol.
4
Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r partïon, a phob person â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r tribiwnlys, o'r canlynol—
a
yr ymdrinnir â'r cais fel mater brys o dan y rheoliad hwn;
b
y rhesymau pam y mae'n ymddangos i'r tribiwnlys fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli;
c
unrhyw ofyniad sydd i'w fodloni gan barti cyn y gwrandawiad; ac
ch
y dyddiad pan gynhelir y gwrandawiad llafar brys.
5
Ni chaiff dyddiad y gwrandawiad fod yn llai na 4 diwrnod, nac yn fwy na 10 diwrnod, ar ôl y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o'r gwrandawiad llafar brys.
6
Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i'r tribiwnlys—
a
os bodlonir y tribiwnlys, ar ôl clywed tystiolaeth, fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli, penderfynu'r cais; neu
b
os na fodlonir y tribiwnlys felly—
i
gohirio'r gwrandawiad; a
ii
rhoi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
7
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel—
a
arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2); a
b
penderfynu dyddiad y gwrandawiad llafar brys.
8
Pan fo'r tribiwnlys yn gorchymyn cynnal gwrandawiad llafar brys o dan baragraff (2), nid yw'r darpariaethau hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—
a
rheoliad 24(5) (hysbysu ynghylch archwiliad); a
b
rheoliad 28(2) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).
Ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol11
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisydd yn gofyn i dribiwnlys, fel mater brys—
a
ymdrin â chais o dan baragraff 8(1E) (gwerthu cartref symudol) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) (gwerthu neu roi cartref symudol) o'r Bennod honno; neu
b
penderfynu, o dan adran 4(2) (awdurdodaeth tribiwnlys) o Ddeddf 1983, y cwestiwn pa un a oedd yn rhesymol i'r perchennog wrthod cymeradwyo person at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.
2
Os bodlonir tribiwnlys, ar sail tystiolaeth a anfonwyd ynghyd â'r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, rhaid i'r tribiwnlys orchymyn cynnal gwrandawiad llafar (“gwrandawiad llafar brys”).
3
Yr amgylchiadau eithriadol yw'r canlynol—
a
naill ai—
i
nad yw perchennog y safle wedi ymateb i'r hysbysiad a gyflwynwyd i berchennog y safle ar gyfer cymeradwyo person o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o'r Bennod honno; neu
ii
nad yw perchennog y safle wedi rhoi ei gymeradwyaeth at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 ac mae'r ceisydd o'r farn bod gwrthodiad perchennog y safle yn afresymol;
b
bod y person y gofynnodd y ceisydd i berchennog y safle ei gymeradwyo o dan baragraff 8 neu 9 yn barod, yn fodlon ac yn abl i fod yn feddiannydd y cartref symudol;
c
bodlonwyd y tribiwnlys y cwblheir pryniant y cartref symudol, neu y caiff ei roi a'i aseinio i'r person hwnnw gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd, os rhoddir cymeradwyaeth o dan baragraff 8 neu 9; ac
ch
bod y ceisydd wedi darparu tystiolaeth i'r tribiwnlys, sy'n dynodi—
i
bod perchennog y safle, yn flaenorol, wedi gwrthod yn afresymol rhoi cymeradwyaeth o dan baragraff 8 neu 9 mewn perthynas â chartref symudol ar safle a ddiogelir a oedd yn eiddo i'r perchennog safle hwnnw; neu
ii
bod person, yn flaenorol, wedi peidio â mynd ymlaen â phrynu neu roi cartref symudol ar y safle a ddiogelir y lleolir y cartref symudol arno, a hynny o ganlyniad i weithredoedd neu eiriau perchennog y safle.
4
Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r partïon, a phob person â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r tribiwnlys, o'r canlynol—
a
yr ymdrinnir â'r cais fel mater brys o dan y rheoliad hwn;
b
y rhesymau pam y mae'n ymddangos i'r tribiwnlys fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli;
c
unrhyw ofyniad sydd i'w fodloni gan barti cyn y gwrandawiad; ac
ch
y dyddiad pan gynhelir y gwrandawiad llafar brys.
5
Rhaid pennu dyddiad y gwrandawiad llafar brys cyntaf ddim llai na 4 diwrnod, a dim mwy na 10 diwrnod, ar ôl y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o'r gwrandawiad llafar brys.
6
Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i'r tribiwnlys—
a
os bodlonir y tribiwnlys, ar ôl clywed tystiolaeth, fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli, penderfynu'r cais; neu
b
os na fodlonir y tribiwnlys felly—
i
gohirio'r gwrandawiad; a
ii
rhoi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
7
Os gohirir gwrandawiad llafar brys a bennwyd o dan baragraff (5), ni chaiff y dyddiad nesaf a bennir ar gyfer unrhyw wrandawiad dilynol fod yn ddiweddarach na 7 diwrnod ar ôl dyddiad y gohiriad blaenorol.
8
Pan fo'r tribiwnlys yn gorchymyn cynnal gwrandawiad llafar brys, nid yw'r darpariaethau hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—
a
rheoliad 24(5) (hysbysu ynghylch archwiliad); a
b
rheoliad 28(2) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).
9
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel—
a
arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2); a
b
penderfynu dyddiad y gwrandawiad llafar brys.
Ceisiadau o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas ag effaith niweidiol cartrefi symudol ar amwynder y safle12
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan wneir cais gan berchennog safle am benderfyniad gan dribiwnlys o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 fod cartref symudol, o ystyried ei gyflwr, yn cael effaith niweidiol ar amwynder y safle.
2
Os yw'r tribiwnlys, yn ystod gwrandawiad, o'r farn bod y cartref symudol yn cael effaith niweidiol ar amwynder y safle ond y byddai'r cartref symudol yn peidio â chael effaith niweidiol o'r fath pe gwneid atgyweiriadau penodol i'r cartref symudol, rhaid i'r tribiwnlys—
a
rhoi gwybod i berchennog y safle a'r meddiannydd pa atgyweiriadau, ym marn y tribiwnlys, y dylid eu gwneud;
b
gwahodd meddiannydd y cartref symudol a pherchennog y safle i ddynodi, mewn perthynas â'r atgyweiriadau hynny—
i
yr amser y byddai ei angen i'w cyflawni; a
ii
y gost o'u cyflawni; ac
c
gwahodd meddiannydd y cartref symudol i ddynodi a fyddai'n fodlon cyflawni'r atgyweiriadau hynny ai peidio.
3
Rhaid i'r tribiwnlys, gan ystyried unrhyw ddynodiadau a roddir o dan baragraff (2)(b) ac (c), naill ai—
a
gwneud penderfyniad o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983; neu
b
os yw paragraff 5A(4) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno yn gymwys, gwneud gorchymyn interim sy'n gwneud yn ofynnol bod meddiannydd y cartref symudol yn cyflawni atgyweiriadau o'r fath o fewn y cyfryw amser a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys.
4
Pan fo'r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan baragraff (3)(b), rhaid iddo ohirio'r gwrandawiad a phennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad newydd, na chaiff fod yn ddiweddarach na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad a bennir yn y gorchymyn fel y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cwblhau'r atgyweiriadau.
5
Wrth bennu dyddiad newydd ar gyfer gwrandawiad o dan baragraff (4), rhaid i'r tribiwnlys—
a
rhoi i'r partïon ddim llai na 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad; a
b
gwahodd perchennog y safle a'r meddiannydd i ddynodi, ddim hwyrach na 4 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad newydd, pa un a yw'r atgyweiriadau a ddisgrifir yn y gorchymyn (yn eu barn hwy) wedi eu cwblhau ai peidio.
6
Yn y gwrandawiad newydd—
a
os yw'r tribiwnlys wedi ei hysbysu, gan feddiannydd y cartref symudol a hefyd gan berchennog y safle, fod yr atgyweiriadau a orchmynnwyd o dan baragraff (3)(b) wedi eu cwblhau, rhaid i'r tribiwnlys wrthod y cais;
b
os nad yw'r tribiwnlys wedi ei hysbysu felly, rhaid iddo wahodd unrhyw barti sy'n bresennol i wneud sylwadau pellach ynghylch maint yr atgyweiriadau sy'n aros heb eu cwblhau a'r amser y byddai ei angen i'w cyflawni; ac
c
ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o'r fath, rhaid i'r tribiwnlys naill ai gwneud gorchymyn interim pellach o dan baragraff (3)(b) o'r rheoliad hwn neu wneud penderfyniad o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen i Ddeddf 1983.
Cais gan berson am gael ei drin fel ceisydd neu ymatebydd13
1
Caiff person (“y parti posibl”) wneud cais i'r tribiwnlys am gael ymuno fel parti i'r achos.
2
Yn achos unrhyw gais am gael ymuno o dan baragraff (1)—
a
caniateir ei wneud heb roi rhybudd;
b
rhaid iddo fod mewn ysgrifen;
c
rhaid iddo gynnwys rhesymau dros wneud y cais am gael ymuno; ac
ch
rhaid iddo bennu pa un a yw'r parti posibl yn dymuno cael ei drin—
i
fel ceisydd; neu
ii
fel ymatebydd.
3
Caiff tribiwnlys wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1) os na fodlonir y tribiwnlys fod y parti posibl yn berson â buddiant neu'n berson sydd â buddiant digonol yng nghanlyniad yr achos.
4
Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd ei benderfyniad naill ai i ganiatáu neu wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys—
a
hysbysu'r parti posibl ynghylch y penderfyniad a'r rhesymau drosto; a
b
anfon copi o'r hysbysiad at y partïon a oedd eisoes wedi eu cynnwys yn yr achos.
5
Rhaid trin unrhyw barti posibl, y caniateir ei gais am gael ymuno o dan baragraff (1), fel ceisydd neu ymatebydd at ddibenion y Rheoliadau hyn.
6
Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at geisydd neu ymatebydd fel pe bai'n cynnwys person a drinnir fel y cyfryw o dan y rheoliad hwn, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at barti fel pe bai'n cynnwys unrhyw berson o'r fath.
7
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel ganiatáu neu wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1).
Penderfynu ceisiadau ar y cyd14
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisiadau, sydd wedi eu gwneud ar wahân, ym marn y tribiwnlys—
a
yn achos ceisiadau a wnaed o dan Ddeddf 2004—
i
yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â'r un fangre; neu
ii
wedi eu gwneud mewn perthynas â dwy neu ragor o fangreoedd sydd â'r un person yn eu rheoli, a'r un ATLl naill ai'n geisydd neu'n ymatebydd mewn perthynas â phob un o'r mangreoedd;
b
yn achos ceisiadau a wnaed o dan Ddeddf 1983—
i
yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â'r un safle a ddiogelir; neu
ii
wedi eu gwneud mewn perthynas â dau neu ragor o safleoedd a ddiogelir sydd â'r un perchennog safle.
2
Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff y tribiwnlys orchymyn bod—
a
rhai neu bob un o'r ceisiadau hynny; neu
b
materion penodol neu ystyriaethau sy'n codi yn y ceisiadau hynny,
i gael eu penderfynu ar y cyd.
3
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).
Talu ffioedd15
Os na fydd ffi'n sy'n daladwy o dan Ran 3 o'r Rheoliadau hyn wedi ei thalu o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafwyd y cais, rhaid trin y cais fel pe bai wedi ei dynnu'n ôl oni fodlonir y tribiwnlys fod sail resymol dros beidio â gwneud hynny.
Cynrychiolwyr16
1
Mae'r rheoliad hwn—
a
yn gymwys pan fo parti, person â buddiant, neu gynrychiolydd parti neu berson â buddiant, yn gwneud cais ysgrifenedig i'r tribiwnlys am gyflenwi gwybodaeth neu ddogfennau i gynrychiolydd y parti neu'r person â buddiant, ond
b
mae'n peidio â bod yn gymwys pan fo'r tribiwnlys yn cael hysbysiad ysgrifenedig bod y cynrychiolydd wedi peidio â chynrychioli'r parti neu'r person â buddiant hwnnw.
2
Rhaid i gais am gyflenwi gwybodaeth neu ddogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) gynnwys enw a chyfeiriad y cynrychiolydd.
3
Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, bodlonir unrhyw ddyletswydd sydd ar y tribiwnlys o dan y Rheoliadau hyn, i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfen i'r parti neu'r person â buddiant, os anfonir yr wybodaeth neu'r ddogfen at y cynrychiolydd, neu os rhoddir yr wybodaeth neu'r ddogfen iddo.
Cyflenwi gwybodaeth a dogfennau i bersonau â buddiant.17
1
Pan hysbysir y tribiwnlys o enw a chyfeiriad person â buddiant, rhaid iddo sicrhau cyn gynted ag y bo'n ymarferol y cyflenwir i'r person hwnnw—
a
copi o'r cais;
b
esboniad o'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gael ymuno fel ceisydd neu ymatebydd; ac
c
unrhyw wybodaeth neu ddogfen arall a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
2
Caiff y tribiwnlys sicrhau y cyflenwir yr wybodaeth neu'r dogfennau o dan baragraff (1) drwy—
a
cyflenwi'r wybodaeth neu'r dogfennau i'r person â buddiant, gan y tribiwnlys ei hunan;
b
cyflenwi'r wybodaeth neu'r dogfennau i gynrychiolydd y person â buddiant, gan y tribiwnlys ei hunan; neu
c
gwneud yn ofynnol, drwy orchymyn a wneir o dan reoliad 23, fod parti yn cyflenwi'r wybodaeth neu'r dogfennau i'r person â buddiant, neu i gynrychiolydd y person â buddiant.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—
a
os cyflenwir gwybodaeth a dogfennau i berson â buddiant yn unol â pharagraff (1); a
b
os caiff y tribiwnlys gais gan y person â buddiant hwnnw, i barhau i gyflenwi gwybodaeth a dogfennau i'r person â buddiant,
rhaid i'r tribiwnlys barhau i sicrhau y cyflenwir i'r person â buddiant hwnnw unrhyw wybodaeth neu ddogfen ynglŷn â'r mater y mae'r achos yn ymwneud ag ef, ac a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
4
Bydd y ddyletswydd ar dribiwnlys o dan baragraff (3) yn dod i ben os yw'r person â buddiant yn ymuno fel parti yn yr achos o dan reoliad 13, neu os yw'r person â buddiant yn rhoi hysbysiad i'r perwyl nad yw bellach yn dymuno cael yr wybodaeth neu'r dogfennau.
Cyflenwi dogfennau gan dribiwnlys18
1
Cyn penderfynu ynghylch cais, rhaid i'r tribiwnlys gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cyflenwir i bob un o'r partïon—
a
copi o unrhyw ddogfen sy'n berthnasol i'r achos (neu ddetholiadau digonol o'r ddogfen, neu fanylion y ddogfen) a gafwyd gan unrhyw barti arall neu berson â buddiant (ac eithrio dogfen sydd eisoes ym meddiant y parti, neu ddogfen y cyflwynwyd copi ohoni iddo'n flaenorol); a
b
copi o unrhyw ddogfen sy'n ymgorffori canlyniadau unrhyw ymchwiliadau perthnasol a wnaed gan neu ar ran y tribiwnlys at ddibenion yr achos.
2
Mewn gwrandawiad, os nad yw parti wedi cael dogfen berthnasol, neu gopi o ddogfen berthnasol, neu ddetholiadau digonol neu fanylion o ddogfen berthnasol yn flaenorol, yna oni fydd—
a
y person hwnnw'n cydsynio i'r gwrandawiad barhau; neu
b
y tribiwnlys o'r farn y caiff y person hwnnw gyfle digonol i ymdrin â'r materion y mae'r ddogfen yn ymwneud â hwy heb ohirio'r gwrandawiad,
rhaid i'r tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad am gyfnod a fydd, ym marn y tribiwnlys, yn rhoi cyfle digonol i'r person hwnnw ymdrin â'r materion hynny.
Cyflenwi gwybodaeth a dogfennau gan bartïon19
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod parti'n cyflenwi i'r tribiwnlys unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae o fewn pŵer y parti hwnnw i'w cyflenwi, ac a bennir, neu sydd o ddisgrifiad a bennir, yn y gorchymyn.
2
Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod parti'n cyflenwi i barti arall neu i berson â buddiant gopïau o unrhyw ddogfennau a gyflenwyd, neu sydd i'w cyflenwi, i'r tribiwnlys o dan baragraff (1).
3
Rhaid i barti sy'n ddarostyngedig i orchymyn a wnaed o dan baragraff (1) neu (2) ddarparu'r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu gopïau erbyn pa bynnag amser a bennir yn y gorchymyn neu a benderfynir yn unol â'r gorchymyn.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn bresennol mewn gwrandawiad llafar, i roi tystiolaeth ac i ddangos unrhyw ddogfennau a bennir yn y gorchymyn, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn, ac sydd o fewn pŵer y person hwnnw i'w dangos.
5
Nid yw paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen na ellid gorfodi person i'w dangos mewn treial o achos mewn llys barn yng Nghymru a Lloegr.
6
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (1), (2) neu (4) sydd—
a
yn rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu
b
yn rhagarweiniol i benderfyniad, neu'n gysylltiedig â phenderfyniad.
Methiant i gydymffurfio â gorchymyn i gyflenwi gwybodaeth a dogfennau20
Os yw parti wedi peidio â chydymffurfio â gorchymyn a wnaed o dan reoliad 19(1), (2) neu (4), caiff y tribiwnlys—
a
dynnu pa bynnag gasgliadau y tybia'n briodol; neu
b
gwneud gorchymyn sy'n gwrthod neu'n caniatáu'r cyfan neu ran o'r cais.
Penderfynu heb wrandawiad21
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (7) caiff y tribiwnlys benderfynu cais heb wrandawiad llafar os bydd wedi hysbysu'r partïon mewn ysgrifen, ddim llai na 14 diwrnod ymlaen llaw, o'i fwriad i wneud hynny.
2
Ar unrhyw adeg cyn penderfynu'r cais—
a
caiff y ceisydd neu'r ymatebydd ofyn am wrandawiad llafar; neu
b
caiff y tribiwnlys hysbysu'r partïon ei fod yn bwriadu cynnal gwrandawiad llafar.
3
Pan wneir cais am wrandawiad neu pan roddir hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd o wrandawiad yn unol â rheoliad 28.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ceir gwneud penderfyniad heb wrandawiad llafar yn absenoldeb unrhyw sylwadau gan yr ymatebydd.
5
Mewn perthynas â chais a wneir o dan baragraffau 4, 5, 5A neu 10 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983, ni chaniateir gwneud penderfyniad heb wrandawiad llafar ac eithrio—
a
pan fo'r ymatebydd wedi hysbysu'r tribiwnlys nad yw'r ymatebydd yn gwrthwynebu'r cais; neu
b
pan fo'r partïon i gyd wedi hysbysu'r tribiwnlys eu bod yn cydsynio i'r cais gael ei benderfynu heb wrandawiad.
6
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel benderfynu pa un a yw gwrandawiad llafar yn briodol ai peidio ar gyfer penderfynu cais.
7
Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gais y mae rheoliad 10 (ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI) neu reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol) yn gymwys iddo.
Gorchmynion interim22
1
Caiff tribiwnlys wneud gorchymyn ar sail interim (“gorchymyn interim”) sydd—
a
yn atal, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, effaith unrhyw benderfyniad, hysbysiad, gorchymyn neu drwydded sy'n destun achos ger ei fron; neu
b
yn caniatáu dros dro unrhyw rwymedi y byddai gan y tribiwnlys bŵer i'w ddyfarnu yn ei benderfyniad terfynol.
2
Pan fo'r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim heb yn gyntaf ganiatáu cyfle i'r partïon wneud sylwadau ynghylch gwneud y gorchymyn, caiff parti ofyn am i'r gorchymyn interim gael ei amrywio neu ei ddiddymu.
3
Ceir gwneud unrhyw gais o'r fath am amrywio neu ddiddymu—
a
ar lafar mewn gwrandawiad;
b
mewn ysgrifen; neu
c
drwy unrhyw ddull arall a ganiateir gan y tribiwnlys.
4
Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn interim, ddarparu i bob un o'r partïon hysbysiad o'r gorchymyn interim; a rhaid i'r hysbysiad, ac eithrio yn achos gorchymyn a wneir gyda chydsyniad pob un o'r partïon, roi'r rhesymau dros y penderfyniad i wneud y gorchymyn.
5
Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gais y mae rheoliad 10 (ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI) neu reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol) yn gymwys iddo.
Cyfarwyddiadau23
1
Caiff parti ofyn i'r tribiwnlys roi cyfarwyddyd drwy wneud gorchymyn o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o Ddeddf 2004.
2
Caiff parti y cyfeirir cyfarwyddyd gweithdrefnol ato ofyn i'r tribiwnlys i amrywio'r cyfarwyddyd neu ei osod o'r neilltu.
3
Ceir gwneud unrhyw gais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2)—
a
ar lafar mewn cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;
b
mewn ysgrifen; neu
c
drwy unrhyw ddull arall a ganiateir gan y tribiwnlys.
4
Rhaid i barti sy'n gwneud cais am gyfarwyddyd o dan baragraff (1) bennu pa gyfarwyddiadau gweithdrefnol a geisir, a'r rhesymau dros eu ceisio.
5
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel roi cyfarwyddyd gweithdrefnol ynglŷn ag unrhyw fater sydd—
a
yn rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu
b
yn rhagarweiniol i benderfyniad, neu'n gysylltiedig â phenderfyniad.
6
Ym mharagraffau (2), (4) a (5), ystyr “cyfarwyddyd gweithdrefnol” (“procedural direction”) yw unrhyw gyfarwyddyd ac eithrio cyfarwyddyd fel a bennir ym mharagraffau (a) i (e) o adran 230(5) neu baragraffau (a) i (d) o adran 230(5A) o Ddeddf 2004.
Archwilio mangreoedd a'u cyffiniau24
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y tribiwnlys archwilio—
a
y fangre;
b
unrhyw fangre arall y gallai ei harchwilio gynorthwyo'r tribiwnlys i benderfynu'r cais;
c
yr ardal o amgylch y fangre.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3)—
a
rhaid i'r tribiwnlys roi cyfle i'r partïon fod yn bresennol yn ystod archwiliad; a
b
caiff aelod o'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd sy'n gweithredu yn rhinwedd y swydd honno fod yn bresennol yn ystod unrhyw archwiliad.
3
Mae gwneud archwiliad, a bod yn bresennol mewn archwiliad, yn ddarostyngedig i unrhyw ganiatâd y mae'n ofynnol ei gael.
4
Pan gynhelir gwrandawiad llafar, ceir cyflawni archwiliad cyn, yn ystod, neu ar ôl y gwrandawiad.
5
Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r tribiwnlys roi i'r partïon dim llai na 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad, amser a lleoliad yr archwiliad.
6
Ceir hepgor neu liniaru'r gofyniad i roi hysbysiad ym mharagraff (5) os bodlonir y tribiwnlys fod y partïon wedi cael rhybudd digonol.
7
Os cynhelir archwiliad ar ôl cau gwrandawiad llafar, caiff y tribiwnlys ailagor y gwrandawiad oherwydd unrhyw fater sy'n codi o'r archwiliad, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol i'r partïon ynglŷn â dyddiad amser a lleoliad y gwrandawiad a ail agorir.
8
Os yw cais i gael ei benderfynu gan aelod cymwysedig unigol o'r panel, caiff yr aelod hwnnw arfer swyddogaethau'r tribiwnlys o dan y rheoliad hwn.
Tystiolaeth arbenigol25
1
Yn y rheoliad hwn, ystyr “arbenigwr” (“expert”) yw arbenigwr annibynnol nad yw'n gyflogai unrhyw un o'r partïon.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff parti roi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys, ac wrth wneud hynny rhaid iddo—
a
darparu i'r tribiwnlys grynodeb ysgrifenedig o'r dystiolaeth; a
b
yn ddarostyngedig i baragraff (5), cyflenwi copi o'r crynodeb ysgrifenedig hwnnw i bob parti arall, o leiaf 7 diwrnod cyn—
i
dyddiad y gwrandawiad llafar perthnasol y rhoddwyd hysbysiad ohono mewn perthynas â'r cais o dan reoliad 28; neu
ii
y dyddiad a hysbyswyd o dan reoliad 21 fel y dyddiad pan benderfynir y cais heb wrandawiad llafar.
3
Rhaid i grynodeb ysgrifenedig o dystiolaeth yr arbenigwr—
a
bod wedi'i gyfeirio at y tribiwnlys;
b
cynnwys manylion o gymwysterau'r arbenigwr;
c
cynnwys crynodeb o'r cyfarwyddiadau a gafodd yr arbenigwr ar gyfer gwneud yr adroddiad; ac
ch
cynnwys datganiad bod yr arbenigwr yn deall, ac wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd sydd arno i gynorthwyo'r tribiwnlys ynglŷn â materion sydd o fewn ei arbenigedd, a bod y ddyletswydd honno'n drech nag unrhyw rwymedigaeth i'r person y cafodd yr arbenigwr ei gyfarwyddiadau ganddo neu sy'n ei gyflogi, neu sy'n talu iddo.
4
Pan fo tribiwnlys, o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o Ddeddf 2004, yn rhoi cyfarwyddyd na chaiff parti roi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys heb ganiatâd y tribiwnlys, caiff bennu, fel amod ar y caniatâd hwnnw—
a
bod rhaid cyfyngu tystiolaeth yr arbenigwr i'r materion hynny a gyfarwyddir gan y tribiwnlys;
b
bod rhaid i'r arbenigwr fod yn bresennol mewn gwrandawiad i roi tystiolaeth ar lafar; neu
c
bod yn rhaid i'r partïon gyfarwyddo'r arbenigwr ar y cyd.
5
Ceir hepgor neu liniaru'r terfyn amser ym mharagraff (2)(b) os bodlonir y tribiwnlys fod y partïon wedi cael rhybudd digonol.
Cynhadledd rheoli achos26
1
Caiff y tribiwnlys gynnal cynhadledd rheoli achos.
2
Rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd i'r partïon o ddim llai na 7 diwrnod ynglŷn â dyddiad, amser a lleoliad y gynhadledd rheoli achos.
3
Yn y gynhadledd rheoli achos, caiff y tribiwnlys orchymyn y partïon i gymryd pa bynnag gamau, neu wneud pa bynnag bethau sy'n ymddangos i'r tribiwnlys yn angenrheidiol neu'n ddymunol, er mwyn sicrhau y penderfynir cais mewn modd cyfiawn, prydlon a darbodus.
4
Caiff y tribiwnlys ohirio cynnal cynhadledd rheoli achos, neu ei gohirio ar ei chanol.
5
Mae hawl gan barti i gael ei gynrychioli mewn cynhadledd rheoli achos.
6
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1), (3) neu (4).
Pwerau rheoli achos eraill27
1
Caiff y tribiwnlys—
a
cwtogi'r amser a bennir gan neu o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, os yw pob un o'r partïon yn cytuno i'r cwtogiad sydd dan sylw;
b
estyn yr amser a bennir gan neu o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, hyd yn oed pan fo'r amser a bennwyd wedi dod i ben, os—
i
na fyddai'n rhesymol disgwyl i'r person dan sylw gydymffurfio, neu fod wedi cydymffurfio, o fewn yr amser hwnnw; neu
ii
byddai peidio ag estyn yr amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol;
c
caniatáu defnyddio teleffon, cyswllt fideo, neu unrhyw ddull cyfathrebu arall—
i
i wneud sylwadau gerbron y tribiwnlys; neu
ii
at ddibenion cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;
ch
gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys gyda'r dystiolaeth honno ddatganiad llofnodedig bod y person yn credu bod y ffeithiau a ddatgenir yn y dystiolaeth yn wir;
d
cymryd unrhyw gam arall neu wneud unrhyw benderfyniad arall sydd, ym marn y tribiwnlys, yn angenrheidiol neu'n ddymunol at y diben o reoli'r achos.
2
Caiff y tribiwnlys arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn wrth ymateb i gais am iddo wneud hynny, neu ar gymhelliad ei hunan.
3
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pwerau o dan y rheoliad hwn ynglŷn ag unrhyw fater sy'n rhagarweiniol i—
a
gwrandawiad llafar; neu
b
penderfyniad sydd i'w wneud heb wrandawiad llafar.
Hysbysu ynghylch gwrandawiad28
1
Rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r partïon o ddyddiad, amser a lleoliad unrhyw wrandawiad.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid rhoi hysbysiad o'r gwrandawiad ddim llai nag 21 diwrnod cyn y dyddiad penodedig.
3
Mewn amgylchiadau eithriadol, caiff y tribiwnlys, heb gytundeb y partïon, roi llai nag 21 diwrnod o rybudd o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad; ond rhaid rhoi hysbysiad o'r fath cyn gynted ag y bo'n ymarferol cyn y dyddiad penodedig, a rhaid i'r hysbysiad ddatgan beth yw'r amgylchiadau eithriadol.
4
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer ym mharagraff (3).
Gohirio gwrandawiad29
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad llafar.
2
Rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd rhesymol i'r partïon o'r amser a'r dyddiad pan gynhelir gwrandawiad gohiriedig.
3
Os gofynnwyd am ohiriad gan un o'r partïon, rhaid i'r tribiwnlys beidio â gohirio'r gwrandawiad onid yw o'r farn y byddai'n rhesymol gwneud hynny, o ystyried—
a
sail y cais am ohirio;
b
yr adeg y gwneir y cais am ohirio; ac
c
cyfleustra'r partïon.
4
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer swyddogaethau'r tribiwnlys o dan y rheoliad hwn.
Y gwrandawiad30
1
Mewn gwrandawiad—
a
rhaid i'r tribiwnlys (yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn) benderfynu ar weithdrefn y gwrandawiad a'r modd y'i cynhelir;
b
caiff unrhyw berson sy'n ymddangos gerbron y tribiwnlys wneud hynny naill ai'n bersonol neu drwy gynrychiolydd;
c
mae hawl gan y partïon—
i
i roi tystiolaeth berthnasol;
ii
i alw tystion;
iii
i holi unrhyw dyst; a
iv
i annerch y tribiwnlys ynglŷn â'r dystiolaeth a'r gyfraith ac yn gyffredinol ar bwnc y cais; a
ch
caiff y tribiwnlys gymryd tystiolaeth o unrhyw faith neu unrhyw farn sy'n ymddangos i'r tribiwnlys yn berthnasol, hyd yn oed os na fyddai'r dystiolaeth neu'r farn honno'n dderbyniadwy mewn achos gerbron llys barn, ac ni chaiff y tribiwnlys wrthod cymryd unrhyw dystiolaeth neu farn a gyflwynir mewn da bryd os yw'n dderbyniadwy o dan y gyfraith ac yn berthnasol ac angenrheidiol, ac os nad yw wedi ei chael mewn ffordd amhriodol.
2
Mewn gwrandawiad, os bodlonir tribiwnlys ei bod yn gyfiawn a rhesymol gwneud hynny, caiff y tribiwnlys ganiatáu i barti ddibynnu ar resymau nas datganwyd o'r blaen ac ar dystiolaeth nad oedd ar gael o'r blaen neu na roddwyd gerbron o'r blaen.
3
Caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad, ond os gwneir hynny ar gais un o'r partïon, rhaid i'r tribiwnlys fod o'r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny o ystyried—
a
sail y cais am ohirio;
b
yr adeg y gwneir y cais am ohirio; ac
c
cyfleustra'r partïon.
Gwrandawiad cyhoeddus neu breifat31
1
Rhaid i wrandawiad fod yn gyhoeddus ac eithrio pan fodlonir y tribiwnlys, yn amgylchiadau'r achos ac yn ddarostyngedig i'r prif amcan a ddisgrifir yn rheoliad 3, y dylid cynnal y gwrandawiad yn breifat.
2
Caiff y tribiwnlys benderfynu o dan baragraff (1)—
a
bod rhaid cynnal rhan yn unig o'r gwrandawiad yn breifat; neu
b
bod rhaid peidio â chyhoeddi unrhyw un o'r materion canlynol—
i
gwybodaeth am yr achos sydd gerbron y tribiwnlys;
ii
enwau a manylion adnabod personau sy'n ymwneud â'r achos; neu
iii
tystiolaeth benodedig a roddir yn yr achos.
Personau sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat32
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae gan y personau canlynol hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ac i fod yn bresennol yn ystod trafodaethau'r tribiwnlys ynglŷn â phenderfynu'r cais—
a
llywydd neu gadeirydd neu aelod arall o'r panel, nad yw'n rhan o'r tribiwnlys at ddiben y gwrandawiad;
b
aelod o'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd sy'n gweithredu yn rhinwedd y swydd honno;
c
staff y tribiwnlys;
ch
unrhyw berson arall a ganiateir gan y tribiwnlys, gyda chydsyniad y partïon.
2
Ni chaiff yr un o'r personau a bennir ym mharagraff (1) gymryd unrhyw ran yn y gwrandawiad nac yn y cyfryw drafodaethau.
3
Caiff y tribiwnlys ganiatáu i bersonau fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ar ba bynnag delerau ac amodau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
Methiant parti i ymddangos mewn gwrandawiad33
Os yw parti yn methu ag ymddangos mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys fynd ymlaen â'r gwrandawiad—
a
os yw'r tribiwnlys wedi ei fodloni bod y parti hwnnw wedi ei hysbysu o'r gwrandawiad yn unol â'r Rheoliadau hyn; a
b
nad yw'r tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da pam y methodd ymddangos.
Penderfyniadau tribiwnlys wrth ddyfarnu ynghylch ceisiadau34
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad sy'n dyfarnu ynghylch cais.
2
Os cynhaliwyd gwrandawiad, ceir cyhoeddi'r penderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad.
3
Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad sy'n dyfarnu'n derfynol ynglŷn â chais, ddarparu i bob un o'r partïon hysbysiad sy'n datgan penderfyniad y tribiwnlys (“dogfen penderfyniad”).
4
Rhaid i'r ddogfen penderfyniad—
a
bod wedi ei llofnodi a'i dyddio gan berson priodol;
b
nodi—
i
y penderfyniad a wnaed gan y tribiwnlys;
ii
y rhesymau pam y cyrhaeddwyd y penderfyniad hwnnw;
iii
dyddiad y penderfyniad;
iv
unrhyw gamau y mae'n rhaid i unrhyw barti yn yr achos eu cymryd, ac erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cymryd y camau hynny; ac
c
rhoi esboniad o hawl parti i apelio yn erbyn y penderfyniad.
5
Caiff person priodol, drwy gyfrwng tystysgrif wedi ei llofnodi a'i dyddio gan y person priodol, gywiro unrhyw wallau clerigol mewn dogfen penderfyniad neu unrhyw wallau neu amwyseddau sy'n digwydd ynddi oherwydd llithriad neu hepgoriad damweiniol.
6
Rhaid anfon copi at bob un o'r partïon, o unrhyw gywiriad a ardystir o dan baragraff (5).
7
Yn y rheoliad hwn ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—
a
Cadeirydd y tribiwnlys; neu
b
yn absenoldeb neu analluogrwydd Cadeirydd y tribiwnlys, aelod arall o'r tribiwnlys.
Penderfynu ynghylch costau35
1
Rhaid i'r tribiwnlys beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004 mewn perthynas â pharti heb yn gyntaf roi cyfle i'r parti hwnnw gyflwyno sylwadau i'r tribiwnlys.
2
Pan benderfynir cais gan aelod cymwysedig sengl o'r panel, caiff yr aelod hwnnw wneud penderfyniad ynghylch costau, mewn perthynas â pharti i'r achos ynghylch y cais hwnnw.
Tynnu cais yn ôl36
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ceisydd (“y parti sy'n tynnu'n ôl”) (“the withdrawing party”) dynnu'n ôl y cyfan neu ran o'r cais a wnaed gan y ceisydd hwnnw, yn unol â pharagraff (2)—
a
ar unrhyw adeg cyn i'r tribiwnlys ddechrau ystyried y dystiolaeth ynglŷn â'r cais (pa un ai mewn gwrandawiad llafar ai peidio); a
b
ar unrhyw adeg wedi i'r tribiwnlys ddechrau ystyried y dystiolaeth ynglŷn â'r cais (pa un ai mewn gwrandawiad llafar ai peidio), ar yr amod—
i
y bodlonir y tribiwnlys fod y partïon eraill yn cydsynio â thynnu'r cais yn ôl; a
ii
bod y tribiwnlys yn cydsynio â thynnu'r cais yn ôl.
2
Rhaid i'r parti sy'n tynnu'n ôl hysbysu ei fod yn tynnu'r cais yn ôl drwy gyflwyno i'r tribiwnlys hysbysiad wedi ei lofnodi a'i ddyddio, sy'n—
a
rhoi manylion digonol i alluogi adnabod y cais neu'r rhan o'r cais a dynnir yn ôl;
b
datgan a oes unrhyw ran o'r cais yn weddill ac eto i'w benderfynu, ac os felly, pa ran; ac
c
cadarnhau bod copi o'r hysbysiad bod y cais wedi ei dynnu'n ôl wedi ei gyflenwi i bob un o'r partïon eraill, a'i fod yn nodi'r dyddiad y gwnaed hynny.
3
Os bydd unrhyw un o'r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn bodoli, ni fydd tynnu'r cais yn ôl yn cael effaith hyd nes cyflawnir un o'r ffyrdd o weithredu ym mharagraff (6).
4
Yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—
a
bod y tribiwnlys wedi gwahodd y partïon yn yr achos—
i
i gyflwyno sylwadau i'r tribiwnlys ynglŷn ag a ddylid gwneud ad-daliad i unrhyw barti ar ffurf digollediad, iawndal, costau neu ad-daliad ffioedd; a
ii
i ymateb i unrhyw sylwadau a gafwyd gan y tribiwnlys o dan baragraff (i);
ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wnaed i'r tribiwnlys gan unrhyw barti o dan yr is-baragraff hwn, bod y tribiwnlys wedi gwneud pa bynnag orchymyn, o ran talu digollediad, iawndal, costau neu ad-daliad ffioedd, y dylid ei wneud, ym marn resymol y tribiwnlys, ar ôl ystyried holl amgylchiadau'r achos;
b
bod gorchymyn interim er budd un o'r partïon wedi ei wneud; neu
c
bod parti wedi rhoi ymrwymiad i'r tribiwnlys.
5
Wrth wahodd sylwadau gan y partïon o dan is-baragraff (4)(a), caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddyd i'r partïon ynglŷn â'r amser a ganiateir ar gyfer darparu sylwadau o'r fath.
6
Y ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—
a
bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi anfon at y tribiwnlys ddatganiad ysgrifenedig, a lofnodwyd gan bob un o'r partïon eraill, sy'n pennu'r modd yr ymdrinnir ag unrhyw orchymyn a wnaed o dan baragraff (4)(a), unrhyw orchymyn interim a wnaed o dan baragraff (4)(b) neu unrhyw ymrwymiad a roddwyd o dan baragraff (4)(c), sy'n gymwys i'r achos; neu
b
bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi rhoi hysbysiad o'r bwriad i dynnu'n ôl i bob un o'r partïon, ac—
i
bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi gofyn i'r tribiwnlys roi cyfarwyddiadau ynghylch o dan ba amodau y ceir tynnu'r cais yn ôl; a
ii
bod y tribiwnlys wedi rhoi cyfarwyddiadau o'r fath.
7
Wrth roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (6)(b)(ii) caiff y tribiwnlys osod pa bynnag amodau a ystyria'n briodol.
8
Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (4)(b), neu roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (5) neu (6)(b)(ii).
Gorfodi37
Ceir gorfodi unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlys, gyda chaniatâd y llys sirol, yn yr un modd ag y gorfodir gorchmynion gan lys o'r fath.
Caniatâd i apelio38
1
Yn y rheoliad hwn, ystyr “apelio” (“to appeal”) yw gwneud apêl yn erbyn penderfyniad gan y tribiwnlys i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd), ac mae ystyr cyfatebol i “apelydd” (“appellant”).
2
Pan fo parti'n gwneud cais i'r tribiwnlys am ganiatâd i apelio, caiff wneud y cais—
a
ar lafar yn y gwrandawiad lle cyhoeddir y penderfyniad gan y tribiwnlys; neu
b
yn ddiweddarach i swyddfa'r tribiwnlys, mewn ysgrifen.
3
Rhaid gwneud cais am ganiatâd i apelio o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o'r penderfyniad fel y dyddiad y rhoddwyd y penderfyniad.
4
Pan wneir y cais am ganiatâd i apelio mewn ysgrifen, rhaid i'r cais am ganiatâd gael ei lofnodi gan yr apelydd neu gynrychiolydd yr apelydd a rhaid iddo—
a
nodi enw a chyfeiriad yr apelydd ac enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd yr apelydd;
b
nodi pa benderfyniad a pha dribiwnlys y mae'r cais am ganiatâd i apelio yn cyfeirio atynt; ac
c
datgan ar ba seiliau y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu yn yr apêl.
5
Rhaid i'r tribiwnlys, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y mae'r tribiwnlys yn cael y cais am ganiatâd i apelio—
a
anfon copi o'r cais am ganiatâd i apelio at y parti arall i'r cais sy'n destun y cais am ganiatâd i apelio; a
b
os yw'r apelydd yn tynnu'n ôl y cais am ganiatâd i apelio, rhoi gwybod i'r parti arall fod y cais am ganiatâd i apelio wedi ei dynnu'n ôl.
6
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ynghylch cais am ganiatâd i apelio, rhaid i'r tribiwnlys anfon hysbysiad sy'n cynnwys rhesymau dros y penderfyniad, at yr apelydd ac at y partïon eraill i'r cais sy'n destun yr apêl
7
Rhaid trin penderfyniad neu orchymyn interim gan dribiwnlys o dan reoliad 12(3) fel penderfyniad y tribiwnlys at ddibenion y rheoliad hwn.
8
Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (6) gynnwys datganiad o unrhyw ddarpariaeth statudol, rheol neu ganllawiau perthnasol, mewn perthynas ag unrhyw gais pellach i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) am ganiatâd i apelio, ac o'r amser a'r lle ar gyfer gwneud y cais pellach am ganiatâd neu ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.
Cymorth i gyfranogwyr39
1
Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfranogwr” (“participant”) yw unrhyw geisydd neu barti neu dyst neu berson arall sy'n cymryd rhan mewn achos sy'n ymwneud â chais, neu y cyfeirir ato orchymyn gan y tribiwnlys.
2
Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i'r tribiwnlys na all y cyfranogwr ddarllen, siarad na deall yr iaith Gymraeg na'r iaith Saesneg, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu i'r cyfranogwr, yn ddi-dâl, y cyfieithiadau a'r cymorth gan gyfieithydd ar y pryd, sy'n angenrheidiol i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.
3
Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i'r tribiwnlys na all y cyfranogwr ddarllen Cymraeg na Saesneg oherwydd ei fod yn ddall neu'n rhannol ddall, dros dro neu'n barhaol, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i'r cyfranogwr hwnnw yn ddi-dâl, (caiff hyn gynnwys darparu dogfennau mewn Braille neu brint bras, neu ddarllenwr dogfennau, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny) i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.
4
Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i'r tribiwnlys y gall y cyfranogwr siarad Cymraeg neu Saesneg, ond na all ddarllen nac ysgrifennu Cymraeg na Saesneg, rhaid i'r tribiwnlys ddarparu i'r cyfranogwr wasanaeth person ar gyfer darllen ac esbonio natur a chynnwys unrhyw ddogfennau, ac ysgrifennu unrhyw ddogfennau ar ran y cyfranogwr, fel y bo'n ofynnol yn rhesymol gan y cyfranogwr, er mwyn ei alluogi i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.
5
Nid yw'r gofyniad bod y tribiwnlys yn darparu i gyfranogwr wasanaeth person ar gyfer darllen, ysgrifennu neu esbonio natur a chynnwys dogfennau o dan baragraff (4) yn cynnwys gofyniad bod y tribiwnlys yn rhoi unrhyw gyngor cyfreithiol, ond mae'n cynnwys gofyniad i esbonio'r camau gweithdrefnol yn yr achos.
6
Os yw cyfranogwr yn analluog i glywed na siarad, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu i'r cyfranogwr hwnnw, yn ddi-dâl, wasanaeth dehonglydd iaith arwyddion, gwefuslefarydd neu balanteipydd, i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.
7
Mae gan gyfranogwr hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn pa un a gynrychiolir y cyfranogwr gan rywun arall ai peidio.
8
Rhaid i gyfranogwr y mae arno angen cymorth o dan y rheoliad hwn ond sydd heb ei dderbyn, hysbysu'r tribiwnlys o'r angen hwnnw am gymorth cyn gynted ag y bo modd.
9
Nid yw'r rheoliad hwn yn cyfyngu mewn unrhyw fodd ar brif amcan tribiwnlys fel y'i disgrifir yn rheoliad 3.
Gofynion ynghylch darparu hysbysiadau a dogfennau40
1
Ystyrir bod unrhyw ddogfen neu hysbysiad y mae'r Rheoliadau hyn yn awdurdodi neu'n gwneud yn ofynnol ei darparu neu'i ddarparu i unrhyw berson, corff neu awdurdod, wedi ei darparu neu'i ddarparu'n briodol i'r person, corff neu awdurdod hwnnw—
a
os anfonir y ddogfen neu hysbysiad i gyfeiriad priodol y person, corff neu awdurdod hwnnw drwy'r post dosbarth cyntaf, neu drwy ddanfoniad arbennig, neu drwy ddanfoniad cofnodedig;
b
os danfonir y ddogfen neu hysbysiad drwy unrhyw ddull arall i gyfeiriad priodol y person, corff neu awdurdod hwnnw;
c
os, gyda chydsyniad ysgrifenedig y person, corff neu awdurdod, anfonir y ddogfen neu hysbysiad at y person, corff neu awdurdod—
i
drwy ffacs, e-bost neu gyfathrebiad electronig arall sy'n cynhyrchu testun y gellir ei gael mewn ffurf ddarllenadwy; neu
ii
drwy wasanaeth danfon dogfennau preifat.
2
Y cyfeiriad priodol at ddibenion paragraff (1) yw—
a
yn achos y tribiwnlys, cyfeiriad swyddfa'r tribiwnlys;
b
yn achos cwmni corfforedig neu gorff arall a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig, cyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni neu'r corff;
c
yn achos unrhyw berson, corff neu awdurdod arall, ei gyfeiriad arferol neu ei gyfeiriad olaf sy'n hysbys.
3
Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
a
yn achos derbynnydd arfaethedig dogfen neu hysbysiad—
i
pan na ellir dod o hyd iddo ar ôl gwneud pob ymholiad dyfal;
ii
os fu farw ac nad oes ganddo gynrychiolydd personol; neu
iii
os yw y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
b
os, am unrhyw reswm arall, na ellir yn rhwydd ddarparu hysbysiad neu ddogfen arall yn unol â'r Rheoliadau hyn.
4
Pan fo paragraff (3) yn gymwys, caiff y tribiwnlys —
a
hepgor darparu'r hysbysiad neu'r ddogfen arall; neu
b
rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer dull amgen o gyflwyno, ym mha ffurf neu ddull bynnag arall (drwy hysbysebu mewn papur newydd neu fel arall) a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.
5
Pan yw'n ofynnol, o dan Ddeddf 2004, Deddf 1985, Deddf 1983 neu'r Rheoliadau hyn, bod parti'n darparu tystiolaeth ei fod wedi cyflenwi dogfen i unrhyw berson, caiff y parti fodloni'r gofyniad hwnnw drwy ddarparu tystysgrif, wedi ei llofnodi gan y parti, yn cadarnhau bod y ddogfen wedi ei chyflwyno yn unol â gofynion y rheoliad hwn.
Amser41
1
Pan fo'r amser a bennir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred yn dod i ben ar ddydd Sadwrn, neu ddydd Sul neu ar ŵyl gyhoeddus, ystyrir ei fod yn dod i ben ar y diwrnod dilynol nesaf nad yw'n ddydd Sadwrn, neu'n ddydd Sul neu'n ŵyl gyhoeddus.
2
Ystyr gŵyl gyhoeddus yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 197110.
Ceisiadau gwacsaw a blinderus etc.42
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw'n ymddangos i'r tribiwnlys fod cais yn—
a
wacsaw;
b
blinderus; neu
c
yn camddefnyddio proses y tribiwnlys,
caiff y tribiwnlys wrthod y cais yn gyfan gwbl neu'n rhannol.
2
Cyn gwrthod cais o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r ceisydd o'i fwriad i wneud hynny, yn unol â pharagraff (3).
3
Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) ddatgan—
a
bod y tribiwnlys â'i fryd ar wrthod y cais;
b
ar ba sail y rhoddodd ei fryd ar wrthod y cais;
c
bod hawl gan y ceisydd i gael ei glywed gan y tribiwnlys ar y cwestiwn pa un a ddylid gwrthod y cais; ac
ch
y dyddiad olaf pan gaiff y ceisydd ofyn am gael ei glywed gan y tribiwnlys, sef dyddiad nad yw'n llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.
4
Ni cheir gwrthod cais o dan baragraff (1) ac eithrio—
a
pan nad yw'r ceisydd wedi gofyn i'r tribiwnlys, cyn y dyddiad a grybwyllir ym mharagraff (3)(c), am gael ei glywed gan y tribiwnlys; neu
b
pan fo'r ceisydd wedi gofyn am gael ei glywed gan y tribiwnlys a'r tribiwnlys wedi clywed y ceisydd a'r ymatebydd, neu'r cyfryw rai ohonynt a oedd bresennol yn y gwrandawiad, ar y cwestiwn pa un a ddylid gwrthod y cais.
Afreoleidd-dra43
Nid fydd unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant gan barti i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, neu fethiant i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan y tribiwnlys cyn bo'r tribiwnlys wedi penderfynu'r cais, ohono'i hunan yn gwneud yr achos yn ddi-rym.
Llofnodi dogfennau44
Pan fo'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod dogfen yn cael ei llofnodi, bodlonir y gofyniad hwnnw os yw—
a
y llofnod naill ai wedi ei ysgrifennu neu wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur neu ddull mecanyddol arall; a
b
enw'r llofnodwr yn ymddangos o dan y llofnod mewn modd sy'n galluogi adnabod y llofnodwr.