xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
25.—(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “arbenigwr” (“expert”) yw arbenigwr annibynnol nad yw'n gyflogai unrhyw un o'r partïon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff parti roi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys, ac wrth wneud hynny rhaid iddo—
(a)darparu i'r tribiwnlys grynodeb ysgrifenedig o'r dystiolaeth; a
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (5), cyflenwi copi o'r crynodeb ysgrifenedig hwnnw i bob parti arall, o leiaf 7 diwrnod cyn—
(i)dyddiad y gwrandawiad llafar perthnasol y rhoddwyd hysbysiad ohono mewn perthynas â'r cais o dan reoliad 28; neu
(ii)y dyddiad a hysbyswyd o dan reoliad 21 fel y dyddiad pan benderfynir y cais heb wrandawiad llafar.
(3) Rhaid i grynodeb ysgrifenedig o dystiolaeth yr arbenigwr—
(a)bod wedi'i gyfeirio at y tribiwnlys;
(b)cynnwys manylion o gymwysterau'r arbenigwr;
(c)cynnwys crynodeb o'r cyfarwyddiadau a gafodd yr arbenigwr ar gyfer gwneud yr adroddiad; ac
(ch)cynnwys datganiad bod yr arbenigwr yn deall, ac wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd sydd arno i gynorthwyo'r tribiwnlys ynglŷn â materion sydd o fewn ei arbenigedd, a bod y ddyletswydd honno'n drech nag unrhyw rwymedigaeth i'r person y cafodd yr arbenigwr ei gyfarwyddiadau ganddo neu sy'n ei gyflogi, neu sy'n talu iddo.
(4) Pan fo tribiwnlys, o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o Ddeddf 2004, yn rhoi cyfarwyddyd na chaiff parti roi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys heb ganiatâd y tribiwnlys, caiff bennu, fel amod ar y caniatâd hwnnw—
(a)bod rhaid cyfyngu tystiolaeth yr arbenigwr i'r materion hynny a gyfarwyddir gan y tribiwnlys;
(b)bod rhaid i'r arbenigwr fod yn bresennol mewn gwrandawiad i roi tystiolaeth ar lafar; neu
(c)bod yn rhaid i'r partïon gyfarwyddo'r arbenigwr ar y cyd.
(5) Ceir hepgor neu liniaru'r terfyn amser ym mharagraff (2)(b) os bodlonir y tribiwnlys fod y partïon wedi cael rhybudd digonol.