YR ATODLENManylion ychwanegol ynglŷn â rhai ceisiadau

Rheoliadau 2 a 6

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2004

Ceisiadau sy'n ymwneud â hysbysiadau gwella

1

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn hysbysiad gwella) ac eithrio cais y cyfeirir ato ym mharagraff 2.

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

b

y datganiad o resymau; ac

c

os sail y cais, neu un o'i seiliau, yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai honno yw'r ffordd orau o weithredu.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

2

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 sydd ar y sail a nodir ym mharagraff 11(1) o'r Atodlen honno (sail apêl yn ymwneud â phersonau eraill), neu sy'n cynnwys y sail honno.

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

b

y datganiad o resymau;

c

os un o'r seiliau ar gyfer y cais yw mai ffordd arall o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai dyna'r ffordd orau o weithredu;

ch

enw a chyfeiriad unrhyw berson a ddylai, fel un o berchnogion y fangre, ym marn y ceisydd, weithredu fel sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad gwella neu dalu'r cyfan neu ran o gostau'r gweithredu hwnnw (“y perchennog arall”);

d

prawf bod copi o'r cais wedi ei gyflwyno i'r perchennog arall; ac

dd

datganiad yn cynnwys y manylion canlynol—

i

natur buddiant y perchennog arall yn y fangre;

ii

y rheswm pam y mae'r ceisydd yn tybio y dylai'r perchennog arall weithredu fel sydd dan sylw, neu dalu'r cyfan neu ran o gost gweithredu felly; a

iii

os sail y cais yw y dylai'r perchennog arall dalu'r cyfan neu ran o gost y gweithredu, amcangyfrif o gost y gweithredu a'r gyfran o'r gost honno, ym marn y ceisydd, y dylai'r perchennog arall ei thalu.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

3

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 13(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu hysbysiad gwella).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

b

y datganiad o resymau; ac

c

copi o benderfyniad yr ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu (gan gynnwys unrhyw ddogfennau a ddyroddwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â'i hysbysiad o benderfyniad).

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

4

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—

a

paragraff 11(1) o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn galwad gan yr ATLl am ad-dalu costau a dynnwyd gan yr ATLl wrth weithredu pan fo hysbysiad gwella wedi ei gyflwyno); a

b

y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn galwad gan yr ATLl am ad-dalu costau a dynnwyd wrth gymryd camau adferol brys).

2

Y dogfennu penodedig yw—

a

copi o'r hysbysiad gwella neu (yn ôl y digwydd) yr hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

b

yr hysbysiad o ddatganiad o resymau;

c

copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (hysbysiad ynghylch bwriad ATLl i fynd i mewn i fangre i gymryd camau gweithredu penodol heb gytundeb);

ch

copi o alwad yr ATLl am gostau; a

d

pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir ym mharagraff 11(4) o'r Atodlen honno, manylion y cynnydd y dibynnir ar iddo gael ei wneud tuag at gydymffurfio â'r hysbysiad.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gorchmynion gwahardd

5

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 22(9) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan ATLl i gymeradwyo defnydd penodol o dan adran 22(4)).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

b

y datganiad o resymau; ac

c

hysbysiad o benderfyniad yr ATLl i wrthod caniatáu defnydd penodol o'r cyfan neu ran o'r fangre.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

6

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 34(2) o Ddeddf 2004 (cais gan lesydd neu lesddeiliad am orchymyn yn terfynu neu'n amrywio les pan fo gorchymyn gwahardd wedi dod yn weithredol).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

b

y datganiad o resymau;

c

copi o'r les berthnasol; ac

ch

datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i'r les ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.

7

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gorchymyn gwahardd).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

b

y datganiad o resymau; ac

c

os un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 8(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu a rhesymau'r ceisydd dros farnu mai honno yw'r ffordd orau.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

8

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn gwahardd).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

b

y datganiad o resymau; ac

c

copi o benderfyniad yr ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu (gan gynnwys unrhyw ddogfennau a ddyroddwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â'i hysbysiad o benderfyniad).

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gweithredu adferol brys

9

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(1) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 41 o Ddeddf 2004 yn erbyn penderfyniad ATLl i gymryd camau gweithredu adferol brys).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a

b

y datganiad o resymau.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

10

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(2) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gorchymyn gwahardd brys).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r hysbysiad o orchymyn gwahardd brys a wnaed o dan adran 43 o Ddeddf 2004 (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a

b

y datganiad o resymau.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

11

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—

a

paragraff 14 o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn i adennill treuliau a llog oddi wrth berson sy'n elwa o weithredu heb gytundeb); a

b

y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o Ddeddf 2004 (adennill treuliau am weithredu adferol brys)).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r hysbysiad gwella neu, yn ôl fel y digwydd, yr hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

b

y datganiad o resymau;

c

copi o'r galwad am dreuliau a gyflwynwyd o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno;

ch

copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 12 o'r Atodlen honno; a

d

prawf bod yr hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person dan sylw fel y crybwyllir ym mharagraff 14(2) o'r Atodlen honno.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r person y mae'r ATLl yn ceisio adennill treuliau a llog oddi wrtho.

Ceisiadau sy'n ymwneud â thrwyddedu tai amlfeddiannaeth

12

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 62(7) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan ATLl i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r hysbysiad i'r ATLl o dan adran 62(1) o Ddeddf 2004; a

b

copi o'r hysbysiad o benderfyniad yr ATLl o dan adran 62(6) o Ddeddf 2004.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

13

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 73(5) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

pan wneir y cais gan yr ATLl

i

copi o'r hysbysiad o'r bwriad i ddwyn achos o dan adran 73(7) o Ddeddf 2004;

ii

copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn perthynas â'r hysbysiad;

iii

naill ai—

aa

datganiad yn cynnwys y manylion y dibynnir arnynt ar gyfer gwneud yr honiad bod tramgwydd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004 wedi ei chyflawni; neu

bb

pan fo'r ATLl yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 74 o Ddeddf 2004, prawf bod y person priodol wedi'i gael yn euog o dramgwydd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004; a

iv

dogfen sy'n dangos y budd-dal tai a dalwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â meddiant y fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir i dramgwydd o'r fath gael ei chyflawni;

b

pan wneir y cais gan feddiannydd21

i

tystiolaeth bod y person priodol wedi'i gael yn euog o drosedd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004 neu y gwnaed yn ofynnol drwy orchymyn ad-dalu rhent ei fod yn gwneud taliad mewn perthynas â budd-dal tai; a

ii

tystiolaeth bod y meddiannydd wedi talu taliadau cyfnodol mewn perthynas â meddiant o'r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod tramgwydd o'r fath yn cael ei chyflawni.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol22.

14

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 255(9) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i gyflwyno datganiad tŷ amlfeddiannaeth).

2

Y ddogfen benodedig yw copi o'r datganiad tŷ amlfeddiannaeth.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

15

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 256(4) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i wrthod dirymu datganiad tŷ amlfeddiannaeth).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r datganiad tŷ amlfeddiannaeth; a

b

copi o hysbysiad yr ATLl o'i benderfyniad i beidio â dirymu'r datganiad tŷ amlfeddiannaeth.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

16

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31(1) o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 2 o Ddeddf 2004, neu yn erbyn unrhyw un o delerau'r drwydded).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

pan fo'r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu â thelerau trwydded—

i

copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o'r Atodlen honno; a

ii

copi o'r drwydded; a

b

pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 5 ac 8 o'r Atodlen honno.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

17

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl gan ddeiliad trwydded neu unrhyw berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan ATLl ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 14 a 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004;

b

pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 19 a 21 o'r Atodlen honno;

c

pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 22 a 24 o'r Atodlen honno;

ch

pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 26 a 28 o'r Atodlen honno; a

d

ym mhob achos, copi o'r drwydded.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau sy'n ymwneud â thrwyddedu llety preswyl arall yn ddetholus

18

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 86(7) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan yr ATLl i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r hysbysiad i'r ATLl o dan adran 86(1) o Ddeddf 2004; a

b

copi o hysbysiad yr ATLl o'i benderfyniad o dan adran 86(6) o Ddeddf 2004.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

19

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 96(5) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

pan wneir y cais gan yr ATLl

i

copi o'r hysbysiad o'r achos arfaethedig o dan adran 96(7) o Ddeddf 2004;

ii

copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn perthynas â'r hysbysiad;

iii

naill ai—

aa

datganiad sy'n cynnwys y manylion y dibynnir arnynt wrth wneud yr honiad bod tramgwydd wedi ei chyflawni o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004; neu

bb

pan fo'r ATLl yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 97 o Ddeddf 2004, prawf bod y person priodol wedi'i gael yn euog o dramgwydd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004; a

iv

dogfen sy'n dangos y budd-dal tai a dalwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â meddiant y fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod tramgwydd o'r fath wedi ei chyflawni;

b

pan wneir y cais gan feddiannydd—

i

tystiolaeth bod y person priodol wedi ei gael yn euog o dramgwydd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004 neu y gwnaed yn ofynnol drwy orchymyn ad-dalu rhent ei fod yn gwneud taliad mewn perthynas â budd-dal tai; a

ii

tystiolaeth fod y meddiannydd wedi talu taliadau cyfnodol mewn perthynas â meddiant o'r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod tramgwydd o'r fath yn cael ei chyflawni.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol.

20

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad gan ATLl i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 3, neu sy'n ymwneud â thelerau trwydded).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

pan fo'r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu â thelerau trwydded —

i

copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o'r Atodlen honno; a

ii

copi o'r drwydded; a

b

pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 5 ac 8 o'r Atodlen honno.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

21

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o dan Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl gan ddeiliad trwydded neu berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan ATLl ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004;

b

pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 19 a 21 o'r Atodlen honno;

c

pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 22 a 24 o'r Atodlen honno;

ch

pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 26 a 28 o'r Atodlen honno; a

d

ym mhob achos, copi o'r drwydded.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gorchmynion rheoli interim a therfynol

22

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(4) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli interim).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn drafft;

b

datganiad o'r materion sy'n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys o—

i

pa un a yw'r amod iechyd a diogelwch yn adran 104 o Ddeddf 2004 wedi ei fodloni; a

ii

i ba raddau y cydymffurfiwyd ag unrhyw god ymarfer cymwys a gymeradwywyd o dan adran 233 o Ddeddf 2004; a

iii

pan fo'r ATLl yn gofyn am ymdrin â'r cais fel mater brys o dan reoliad 10, datganiad sy'n rhoi manylion digonol i alluogi'r tribiwnlys i ffurfio barn ynglŷn ag a yw'n ymddangos bod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn bodoli.

3

Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl diffiniad “relevant person” ym mharagraffau 8(4) a 35 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004.

23

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(7) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli interim mewn perthynas â thŷ y mae adran 103 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn drafft;

b

datganiad o'r materion sy'n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys ynglŷn ag a yw'r amodau yn adran 103(3) a (4) o Ddeddf 2004 wedi eu bodloni; ac

c

pan fo'r ATLl yn gofyn am ymdrin â'r cais fel mater brys o dan reoliad 10, datganiad sy'n rhoi manylion digonol i alluogi'r tribiwnlys i ffurfio barn ynglŷn ag a yw'n ymddangos bod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn bodoli.

3

Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl diffiniad “relevant person” ym mharagraffau 8(4) a 35 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004.

24

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 105(10) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod gorchymyn rheoli interim yn parhau mewn grym hyd nes byddir wedi penderfynu apêl).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn rheoli interim; a

b

copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli terfynol.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.

25

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 110(7) o Ddeddf 2004 (cais gan landlord perthnasol am orchymyn mewn perthynas â threfniadau ariannol tra bo gorchymyn rheoli interim mewn grym).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn rheoli interim; a

b

copi o'r cyfrifon a gadwyd gan yr ATLl yn unol ag adran 110(6) o Ddeddf 2004.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

26

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 114(7) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod gorchymyn rheoli terfynol sy'n bodoli eisoes i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl yn erbyn gorchymyn rheoli terfynol newydd).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn rheoli terfynol sy'n bodoli eisoes;

b

copi o'r gorchymyn rheoli terfynol newydd a wnaed i ddisodli'r gorchymyn sy'n bodoli eisoes; ac

c

copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud y gorchymyn rheoli terfynol newydd.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.

27

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 120(1) o Ddeddf 2004 (cais gan berson yr effeithir arno am orchymyn bod yr ATLl yn rheoli yn unol â'r cynllun rheoli yn y gorchymyn rheoli terfynol).

2

Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli terfynol sy'n cynnwys y cynllun rheoli y cyfeirir ato yn y cais.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

28

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 126(4) o Ddeddf 2004 (cais am addasu hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â dodrefn a freinir yn yr ATLl tra bo gorchymyn rheoli mewn grym).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn rheoli perthnasol; a

b

datganiad sy'n rhoi manylion am briod hawliau a rhwymedigaethau (gan gynnwys perchnogaeth) pob un o'r personau sydd â buddiant yn y dodrefn.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r person arall sydd â buddiant yn y dodrefn.

29

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 130(9) o Ddeddf 2004 (cais i benderfynu pwy yw “y landlord perthnasol” (“the relevant landlord”) at ddibenion adran 130 pan ddaw'r gorchymyn rheoli i ben).

2

Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r landlord perthnasol arall23.

30

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli, neu yn erbyn amodau'r gorchymyn neu'r cynllun rheoli cysylltiedig).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn rheoli (gan gynnwys y cynllun rheoli);

b

copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004;

c

pan fo'r cais yn ymwneud â thelerau'r gorchymyn rheoli, datganiad sy'n pennu pob un o'r telerau a wrthwynebir, ynghyd â'r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac

ch

pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 24(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004, datganiad o'r materion yn adran 110(5) o Ddeddf 2004 (sy'n ymwneud â thalu rhenti dros ben, etc) sy'n berthnasol i'r sail honno.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

31

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli, neu wrthod newid neu ddirymu gorchymyn rheoli).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004;

b

pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o'r Atodlen honno;

c

pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 17 ac 19 o'r Atodlen honno;

ch

pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 20 a 22 o'r Atodlen honno; a

d

ym mhob achos—

i

copi o'r gorchymyn rheoli; a

ii

copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 7(2)(b) o'r Atodlen honno.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

32

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl gan drydydd parti yn erbyn penderfyniad gan ATLl o dan adran 128 o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r digollediad sy'n daladwy i drydydd partïon).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn rheoli (gan gynnwys y cynllun rheoli);

b

copi o hysbysiad yr ATLl i'r trydydd parti, o benderfyniad yr ATLl yn unol ag adran 128(2) o Ddeddf 2004; ac

c

datganiad sy'n rhoi manylion llawn o'r canlynol—

i

yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i'r gorchymyn rheoli; a

ii

swm y digollediad a hawlir oherwydd yr ymyrraeth honno.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gorchmynion rheoli anheddau gwag

33

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 133(1) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdodiad i wneud GRhAG interim).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r GRhAG interim drafft;

b

datganiad o dystiolaeth—

i

mewn perthynas â'r materion y mae'n rhaid bodloni'r tribiwnlys yn eu cylch o dan adran 134(2) o Ddeddf 2004;

ii

ynglŷn ag ystyriaeth yr ATLl o'r hawliau a'r buddiannau a bennir yn adran 133(4) o Ddeddf 2004; ac

c

pan fo'r ATLl, yn unol ag adran 133(3) o Ddeddf 2004, wedi hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud GRhAG interim, copi o'r hysbysiad hwnnw.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog perthnasol24.

34

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 138(1) o Ddeddf 2004 (cais, tra bo GRhAG interim mewn grym, am orchymyn bod yr ATLl i dalu digollediad i drydydd parti am ymyrryd â'i hawliau).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r GRhAG interim;

b

copi o hysbysiad yr ATLl i'r trydydd parti o benderfyniad yr ATLl, yn unol ag adran 138(4) o Ddeddf 2004; ac

c

datganiad sy'n rhoi manylion llawn o'r canlynol—

i

yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i'r GRhAG interim; a

ii

swm y digollediad a hawlir mewn perthynas â'r ymyrraeth honno.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

35

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 1(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod GRhAG interim i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl o dan baragraff 26 o'r Atodlen honno).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r GRhAG interim; a

b

copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud GRhAG interim.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd a wnaeth yr apêl berthnasol.

36

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 2(3)(d) neu baragraff 10(3)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn o dan baragraff 22 o'r Atodlen honno i derfynu les neu drwydded tra bo GRhAG interim neu derfynol mewn grym).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r GRhAG interim neu derfynol (gan gynnwys unrhyw gynllun rheoli);

b

copi o'r les neu'r drwydded berthnasol, neu os nad oes copi ohoni ar gael, tystiolaeth o fodolaeth y les neu'r drwydded; ac

c

datganiad yn cynnwys y manylion canlynol—

i

enw a chyfeiriad, os ydynt yn hysbys, unrhyw lesydd, lesddeiliad, is-lesydd, is-lesddeiliad, neu drwyddedai;

ii

tystiolaeth o'r materion y mae'n rhaid bodloni'r tribiwnlys yn eu cylch o dan baragraff 22(1)(b) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004; a

iii

swm y digollediad (os oes rhywfaint) y mae'r ATLl yn fodlon ei dalu mewn perthynas â therfynu'r les neu'r drwydded, gan gynnwys manylion o'r modd y cyfrifwyd swm y digollediad hwnnw.

3

Yr ymatebwyr penodedig yw'r partïon i'r les neu'r drwydded.

37

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan berchennog perthnasol am orchymyn mewn cysylltiad â threfniadau ariannol tra bo GRhAG interim mewn grym).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r GRhAG interim; a

b

copi o'r cyfrifon a gedwir gan yr ATLl yn unol â pharagraff 5(6) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

38

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9(8) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod GRhAG terfynol i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl o dan baragraff 26 o'r Atodlen honno).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r GRhAG terfynol; a

b

copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud GRhAG terfynol.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd a wnaeth yr apêl berthnasol.

39

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 14(1) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan berson yr effeithir arno am orchymyn bod ATLl i reoli annedd yn unol â chynllun rheoli mewn GRhAG terfynol).

2

Y ddogfen benodedig yw copi o'r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli).

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

40

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 26(1) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i wneud GRhAG terfynol, neu yn erbyn telerau'r gorchymyn neu'r cynllun rheoli cysylltiedig).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli);

b

pan fo'r cais yn ymwneud â thelerau'r gorchymyn rheoli, datganiad yn pennu pob un o'r telerau a wrthwynebir, ynghyd â'r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac

c

pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 26(1)(c) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004, datganiad o'r materion ym mharagraff 5(5)(a) a (b) o'r Atodlen honno (sy'n ymwneud â thalu rhenti dros ben etc) sy'n berthnasol i'r sail honno.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

41

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 30 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu GRhAG interim neu derfynol, neu wrthod i amrywio neu ddirymu gorchymyn o'r fath).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (fel y'u cymhwysir gan baragraff 17 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno);

b

pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o'r Atodlen honno;

c

pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 17 ac 19 o'r Atodlen honno; ac

ch

pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 20 a 22 o'r Atodlen honno; a

d

ym mhob achos, copi o'r GRhAG interim neu derfynol (yn ôl fel y digwydd).

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

42

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 34(2) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl o dan adran 136(4) neu 138(3) o Ddeddf 2004 mewn perthynas â'r digollediad sy'n daladwy i drydydd partïon am ymyrraeth â'u hawliau o ganlyniad i GRhAG terfynol).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli);

b

pan fo'r trydydd parti wedi gofyn am ei ddigolledu o dan adran 138 o Ddeddf 2004, copi o hysbysiad yr ATLl o'i benderfyniad i'r trydydd parti yn unol ag is-adran (4) o'r adran honno; ac

c

datganiad sy'n rhoi manylion llawn o'r canlynol—

i

yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i'r GRhAG terfynol; a

ii

swm y digollediad a hawlir oherwydd yr ymyrraeth honno.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau mewn perthynas â hysbysiadau gorlenwi

43

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 143(1) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson a dramgwyddwyd gan hysbysiad gorlenwi).

2

Y ddogfen benodedig yw copi o'r hysbysiad gorlenwi, neu ddatganiad gan y ceisydd yn esbonio'r amgylchiadau sydd wedi peri na all y ceisydd ddarparu copi o'r hysbysiad hwnnw.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

44

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 144(2) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gwrthodiad ATLl i ddirymu neu amrywio hysbysiad gorlenwi, neu yn erbyn methiant yr ATLl i ymateb mewn pryd i gais am ddirymu neu amrywio hysbysiad o'r fath).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r hysbysiad gorlenwi; a

b

os gwrthododd yr ATLl amrywio hysbysiad gorlenwi, copi o benderfyniad yr ATLl.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 1985

Ceisiadau sy'n ymwneud â gorchmynion dymchwel

45

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 269(1) o Ddeddf 198525 (apêl gan berson a dramgwyddwyd gan orchymyn dymchwel).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn); a

b

y datganiad o resymau; ac

c

os sail y cais, neu un o'i seiliau, yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir yn adran 269A(2)26 o Ddeddf 1985 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai honno yw'r ffordd orau o weithredu.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

46

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(1) neu (2)(a) o Ddeddf 1985 (cais mewn cysylltiad ag adennill treuliau ATLl wrth gyflawni gorchymyn dymchwel o dan adran 271 o Ddeddf 1985 gan gynnwys penderfynu'r cyfraniadau gan gydberchnogion).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn);

b

y datganiad o resymau; ac

c

datganiad o'r canlynol—

i

y treuliau a dynnwyd gan yr ATLl o dan adran 271 o Ddeddf 1985 (gweithredu gorchymyn dymchwel);

ii

y swm (os oes un) a dderbyniwyd drwy werthu defnyddiau; a

iii

y swm y mae'r ATLl yn ceisio'i adennill oddi wrth unrhyw berchennog y fangre.

3

Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y fangre27.

47

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(2)(b) o Ddeddf 1985 (cais gan un o berchnogion mangre am benderfynu'r cyfraniad i dreuliau ATLl, sydd i'w dalu gan berchennog arall).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn);

b

y datganiad o resymau; ac

c

datganiad o'r canlynol—

i

priod fuddiannau'r perchnogion yn y fangre; a

ii

eu priod rhwymedigaethau ac atebolrwyddau o ran cynnal ac atgyweirio, o dan unrhyw gyfamod neu gytundeb, penodol neu oblygedig.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog y mae'r ceisydd yn ceisio cyfraniad ganddo tuag at dreuliau'r ATLl.

48

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 317(1) o Ddeddf 1985 (cais gan lesydd neu lesddeiliad mangre y daeth gorchymyn dymchwel yn weithredol mewn perthynas â hi, am orchymyn yn amrywio neu'n terfynu les).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn);

b

y datganiad o resymau;

c

copi o'r les berthnasol; ac

ch

datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i'r les, ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gwaith ar fangreoedd anaddas

49

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 318(1)28 o Ddeddf 1985 (cais gan berson sydd â buddiant mewn mangre am awdurdodiad gan dribiwnlys i gyflawni gwaith ar fangre anaddas, neu waith ar gyfer gwella).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

manylion o'r gwaith y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cyflawni, gan gynnwys—

i

enwau a chyfeiriadau contractwyr arfaethedig pan fo'n berthnasol;

ii

amcangyfrif o gostau'r gwaith; a

iii

amserlen ar gyfer cychwyn a chwblhau'r gwaith;

b

pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir yn adran 318(1)(b) o Ddeddf 1985, manylion o'r canlynol—

i

y cynllun gwella neu ailadeiladu y mae'r ceisydd yn dymuno'i gyflawni; a

ii

y gymeradwyaeth o'r cynllun gan yr ATLl;

c

datganiad o statws ariannol y ceisydd, gan gynnwys datgeliad o'r cyllid sydd ar gael i ddiwallu costau amcangyfrifedig y gwaith; ac

ch

pan fo'r cais yn cynnwys cais am orchymyn yn terfynu les a ddelir oddi wrth y ceisydd neu les ddeilliannol, copi o'r les honno.

3

Yr ymatebwyr penodedig yw—

a

y person sydd â hawl i feddiannu'r fangre;

b

perchennog y fangre29.

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 1983

Ceisiadau sy'n ymwneud â methiant i roi datganiad ysgrifenedig

50

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 1(6) o Ddeddf 1983 (hawl i gael datganiad ysgrifenedig).

2

Y dogfennau penodedig yw unrhyw ddogfennau a roddir gan berchennog y safle i'r meddiannydd, y mae'n ofynnol o dan adran 1(2) o Ddeddf 1983 bod perchennog y safle yn eu rhoi.

3

Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau sy'n ymwneud â thelerau goblygedig ychwanegol neu amrywio neu ddileu telerau goblygedig

51

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 2(2) o Ddeddf 1983 (telerau a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig).

2

Y ddogfen benodedig yw datganiad sy'n pennu'r rhesymau pam y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gael unrhyw rai o'r materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig yn y cytundeb rhwng perchennog y safle a'r meddiannydd.

3

Yr ymatebydd penodedig yw—

a

os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a

b

os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.

52

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 2(3)(a) o Ddeddf 1983 (amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb)—

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r cytundeb; a

b

datganiad yn pennu—

i

pa un o delerau datganedig y cytundeb y mae'r ceisydd yn gofyn i'r tribiwnlys ei amrywio neu ei ddileu, neu, yn achos un o'r telerau datganedig y mae adran 1(6) o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt, pa un y mae'r ceisydd yn dymuno rhoi effaith lawn iddo; a

ii

y rhesymau pam y mae'r ceisydd yn gwneud cais am amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb, neu, yn achos un o'r telerau datganedig y mae adran 1(6) o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt, y rhesymau dros ddymuno rhoi effaith lawn iddo.

3

Yr ymatebydd penodedig yw—

a

os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a

b

os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.

Ceisiadau sy'n ymwneud ag unrhyw gwestiwn o dan Ddeddf 1983

53

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 4 o Ddeddf 1983 (penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 neu o dan gytundeb y mae'r Ddeddf honno'n gymwys iddo).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r cytundeb; a

b

unrhyw ohebiaeth berthnasol a roddodd neu a gafodd y ceisydd mewn cysylltiad â'r cwestiwn sydd i'w benderfynu.

3

Yr ymatebydd penodedig yw—

a

os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a

b

os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.

Ceisiadau sy'n ymwneud ag effaith niweidiol cartrefi symudol ar amwynder y safle

54

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (penderfyniad gan dribiwnlys ynghylch effaith niweidiol cartref symudol).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, sy'n hysbysu'r meddiannydd o fwriad perchennog y safle i wneud cais o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;

b

unrhyw adroddiad sydd wedi ei baratoi, sy'n disgrifio cyflwr y cartref symudol; ac

c

unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy'n cefnogi'r cais.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.

Ceisiadau sy'n ymwneud â therfynu gan berchennog y safle

55

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (terfynu gan berchennog y safle).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o'r cytundeb;

b

unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, sy'n hysbysu'r meddiannydd o fwriad perchennog y safle i wneud cais o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;

c

yn achos cais o dan baragraff 4 o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, os y toriad honedig yw methiant i dalu'r ffi am y llain, datganiad o'r ffioedd llain a oedd yn ddyledus ac o'r ffioedd a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod dan sylw;

ch

unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy'n cefnogi'r cais; a

d

yn achos cais o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, copi o benderfyniad y tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.

Ceisiadau sy'n ymwneud â chymeradwyo person wrth werthu neu roi cartrefi symudol

56

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 8(1E) (gwerthu cartref symudol) neu 9(2) (rhoi cartref symudol) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

copi o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i berchennog y safle gan y meddiannydd o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;

b

unrhyw ohebiaeth berthnasol a gafodd y meddiannydd gan berchennog y safle, i'r perwyl nad oedd perchennog y safle yn cymeradwyo'r gwerthiant neu'r rhodd; ac

c

yn achos cais brys o dan baragraff 8 neu 9 o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, unrhyw ddogfennau sy'n cynnwys y dystiolaeth a anfonwyd ynghyd â'r cais o dan baragraff (2) o reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol).

3

Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau mewn perthynas ag adleoli cartrefi symudol

57

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

unrhyw ddogfen sy'n nodi'r rheswm dros ei gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i leoli'r cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod mewn perthynas â llain arall, ac yn darparu disgrifiad, amwynder a maint y llain bresennol yn ogystal â'r llain amgen arfaethedig;

b

copi o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain bresennol a drafft o'r cytundeb arfaethedig mewn perthynas â'r llain amgen; ac

c

yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, ac sy'n nodi bwriad perchennog y safle i wneud cais i'r tribiwnlys o dan baragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol nas cyflwynwyd eisoes i'r tribiwnlys ac sy'n berthnasol i'r cais.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.

Ceisiadau sy'n ymwneud â dychwelyd cartrefi symudol a adleolwyd

58

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

unrhyw gais gan y meddiannydd i berchennog y safle am ddychwelyd y cartref symudol i'r llain wreiddiol ac unrhyw ymateb a gafwyd i'r cais hwnnw;

b

copi o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain bresennol ac o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain amgen; ac

c

yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd gan y meddiannydd i berchennog y safle, ac sy'n nodi bwriad y meddiannydd i wneud cais i'r tribiwnlys o dan baragraff 10(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno.

3

Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau sy'n ymwneud â'r ffi llain

59

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraffau 16(b), 17(4) ac 17(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain).

2

Y ddogfen benodedig yw'r hysbysiad a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle o dan baragraff 17(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno (pa un a'i cyflwynwyd erbyn yr amser sy'n ofynnol o dan y paragraff hwnnw ai peidio).

3

Yr ymatebydd penodedig yw—

a

os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a

b

os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gwelliannau sydd i'w cymryd i ystyriaeth yn y ffi llain

60

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 18(1)(a)(iii) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

datganiad o'r gwaith gwella arfaethedig;

b

amcangyfrif o'r costau;

c

datganiad o ba bryd y bydd y gwaith yn cychwyn ac am ba hyd y bydd yn parhau; a

ch

manylion yr ymgynghori a wnaed gyda'r meddianwyr o dan baragraff 22(e) ac (f) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, a chopïau o'u hymatebion.

3

Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.

Ceisiadau sy'n ymwneud â chymdeithasau preswylwyr cymwys

61

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28(1)(h) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (cymdeithas preswylwyr gymwys).

2

Y dogfennau penodedig yw—

a

unrhyw gais a wnaed gan gadeirydd, ysgrifennydd neu drysorydd y gymdeithas preswylwyr i berchennog y safle am i'r perchennog safle gydnabod y gymdeithas fel cymdeithas preswylwyr gymwys;

b

unrhyw ymateb gan berchennog y safle i'r cais am gydnabod y gymdeithas, y cyfeirir ato ym mharagraff (a);

c

copi o gyfansoddiad y gymdeithas; ac

ch

tystiolaeth o'r nifer o feddianwyr cartrefi symudol ar y safle sy'n berchnogion y cartrefi symudol a feddiennir ganddynt ac sy'n aelodau o'r gymdeithas preswylwyr.

3

Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.