xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENManylion ychwanegol ynglŷn â rhai ceisiadau

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 1985

Ceisiadau sy'n ymwneud â gwaith ar fangreoedd anaddas

49.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 318(1)(1) o Ddeddf 1985 (cais gan berson sydd â buddiant mewn mangre am awdurdodiad gan dribiwnlys i gyflawni gwaith ar fangre anaddas, neu waith ar gyfer gwella).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)manylion o'r gwaith y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cyflawni, gan gynnwys—

(i)enwau a chyfeiriadau contractwyr arfaethedig pan fo'n berthnasol;

(ii)amcangyfrif o gostau'r gwaith; a

(iii)amserlen ar gyfer cychwyn a chwblhau'r gwaith;

(b)pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir yn adran 318(1)(b) o Ddeddf 1985, manylion o'r canlynol—

(i)y cynllun gwella neu ailadeiladu y mae'r ceisydd yn dymuno'i gyflawni; a

(ii)y gymeradwyaeth o'r cynllun gan yr ATLl;

(c)datganiad o statws ariannol y ceisydd, gan gynnwys datgeliad o'r cyllid sydd ar gael i ddiwallu costau amcangyfrifedig y gwaith; ac

(ch)pan fo'r cais yn cynnwys cais am orchymyn yn terfynu les a ddelir oddi wrth y ceisydd neu les ddeilliannol, copi o'r les honno.

(3Yr ymatebwyr penodedig yw—

(a)y person sydd â hawl i feddiannu'r fangre;

(b)perchennog y fangre(2).

(1)

Diwygiwyd adran 318 o Ddeddf 1985 gan adran 48 o Ddeddf 2004.

(2)

Gweler adran 322 o Ddeddf 1985, sy'n diffinio “owner” mewn perthynas â mangre.