45.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 269(1) o Ddeddf 1985(1) (apêl gan berson a dramgwyddwyd gan orchymyn dymchwel).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn); a
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)os sail y cais, neu un o'i seiliau, yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir yn adran 269A(2)(2) o Ddeddf 1985 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai honno yw'r ffordd orau o weithredu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
46.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(1) neu (2)(a) o Ddeddf 1985 (cais mewn cysylltiad ag adennill treuliau ATLl wrth gyflawni gorchymyn dymchwel o dan adran 271 o Ddeddf 1985 gan gynnwys penderfynu'r cyfraniadau gan gydberchnogion).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)datganiad o'r canlynol—
(i)y treuliau a dynnwyd gan yr ATLl o dan adran 271 o Ddeddf 1985 (gweithredu gorchymyn dymchwel);
(ii)y swm (os oes un) a dderbyniwyd drwy werthu defnyddiau; a
(iii)y swm y mae'r ATLl yn ceisio'i adennill oddi wrth unrhyw berchennog y fangre.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y fangre(3).
47.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(2)(b) o Ddeddf 1985 (cais gan un o berchnogion mangre am benderfynu'r cyfraniad i dreuliau ATLl, sydd i'w dalu gan berchennog arall).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)datganiad o'r canlynol—
(i)priod fuddiannau'r perchnogion yn y fangre; a
(ii)eu priod rhwymedigaethau ac atebolrwyddau o ran cynnal ac atgyweirio, o dan unrhyw gyfamod neu gytundeb, penodol neu oblygedig.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog y mae'r ceisydd yn ceisio cyfraniad ganddo tuag at dreuliau'r ATLl.
48.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 317(1) o Ddeddf 1985 (cais gan lesydd neu lesddeiliad mangre y daeth gorchymyn dymchwel yn weithredol mewn perthynas â hi, am orchymyn yn amrywio neu'n terfynu les).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn);
(b)y datganiad o resymau;
(c)copi o'r les berthnasol; ac
(ch)datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i'r les, ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.
Diwygiwyd adrannau 269, 272 a 317 o Ddeddf 1985 gan adran 48 o Ddeddf 2004.
Mewnosodwyd adran 269A o Ddeddf 1985 gan baragraff 15 o Atodlen 15 i Ddeddf 2004.
Gweler adran 322 o Ddeddf 1985, sy'n diffinio “owner” mewn perthynas â mangre. Diwygiwyd adran 322 gan adran 65(1) o Ddeddf 2004 a pharagraff 26 o Atodlen 15 i'r Ddeddf honno.