- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
50.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 1(6) o Ddeddf 1983 (hawl i gael datganiad ysgrifenedig).
(2) Y dogfennau penodedig yw unrhyw ddogfennau a roddir gan berchennog y safle i'r meddiannydd, y mae'n ofynnol o dan adran 1(2) o Ddeddf 1983 bod perchennog y safle yn eu rhoi.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.
51.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 2(2) o Ddeddf 1983 (telerau a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig).
(2) Y ddogfen benodedig yw datganiad sy'n pennu'r rhesymau pam y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gael unrhyw rai o'r materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig yn y cytundeb rhwng perchennog y safle a'r meddiannydd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw—
(a)os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a
(b)os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.
52.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 2(3)(a) o Ddeddf 1983 (amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb)—
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r cytundeb; a
(b)datganiad yn pennu—
(i)pa un o delerau datganedig y cytundeb y mae'r ceisydd yn gofyn i'r tribiwnlys ei amrywio neu ei ddileu, neu, yn achos un o'r telerau datganedig y mae adran 1(6) o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt, pa un y mae'r ceisydd yn dymuno rhoi effaith lawn iddo; a
(ii)y rhesymau pam y mae'r ceisydd yn gwneud cais am amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb, neu, yn achos un o'r telerau datganedig y mae adran 1(6) o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt, y rhesymau dros ddymuno rhoi effaith lawn iddo.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw—
(a)os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a
(b)os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.
53.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 4 o Ddeddf 1983 (penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 neu o dan gytundeb y mae'r Ddeddf honno'n gymwys iddo).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r cytundeb; a
(b)unrhyw ohebiaeth berthnasol a roddodd neu a gafodd y ceisydd mewn cysylltiad â'r cwestiwn sydd i'w benderfynu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw—
(a)os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a
(b)os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.
54.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (penderfyniad gan dribiwnlys ynghylch effaith niweidiol cartref symudol).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, sy'n hysbysu'r meddiannydd o fwriad perchennog y safle i wneud cais o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;
(b)unrhyw adroddiad sydd wedi ei baratoi, sy'n disgrifio cyflwr y cartref symudol; ac
(c)unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy'n cefnogi'r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.
55.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (terfynu gan berchennog y safle).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r cytundeb;
(b)unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, sy'n hysbysu'r meddiannydd o fwriad perchennog y safle i wneud cais o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;
(c)yn achos cais o dan baragraff 4 o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, os y toriad honedig yw methiant i dalu'r ffi am y llain, datganiad o'r ffioedd llain a oedd yn ddyledus ac o'r ffioedd a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod dan sylw;
(ch)unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy'n cefnogi'r cais; a
(d)yn achos cais o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, copi o benderfyniad y tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.
56.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 8(1E) (gwerthu cartref symudol) neu 9(2) (rhoi cartref symudol) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i berchennog y safle gan y meddiannydd o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;
(b)unrhyw ohebiaeth berthnasol a gafodd y meddiannydd gan berchennog y safle, i'r perwyl nad oedd perchennog y safle yn cymeradwyo'r gwerthiant neu'r rhodd; ac
(c)yn achos cais brys o dan baragraff 8 neu 9 o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, unrhyw ddogfennau sy'n cynnwys y dystiolaeth a anfonwyd ynghyd â'r cais o dan baragraff (2) o reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.
57.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)unrhyw ddogfen sy'n nodi'r rheswm dros ei gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i leoli'r cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod mewn perthynas â llain arall, ac yn darparu disgrifiad, amwynder a maint y llain bresennol yn ogystal â'r llain amgen arfaethedig;
(b)copi o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain bresennol a drafft o'r cytundeb arfaethedig mewn perthynas â'r llain amgen; ac
(c)yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, ac sy'n nodi bwriad perchennog y safle i wneud cais i'r tribiwnlys o dan baragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol nas cyflwynwyd eisoes i'r tribiwnlys ac sy'n berthnasol i'r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.
58.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)unrhyw gais gan y meddiannydd i berchennog y safle am ddychwelyd y cartref symudol i'r llain wreiddiol ac unrhyw ymateb a gafwyd i'r cais hwnnw;
(b)copi o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain bresennol ac o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain amgen; ac
(c)yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd gan y meddiannydd i berchennog y safle, ac sy'n nodi bwriad y meddiannydd i wneud cais i'r tribiwnlys o dan baragraff 10(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.
59.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraffau 16(b), 17(4) ac 17(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain).
(2) Y ddogfen benodedig yw'r hysbysiad a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle o dan baragraff 17(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno (pa un a'i cyflwynwyd erbyn yr amser sy'n ofynnol o dan y paragraff hwnnw ai peidio).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw—
(a)os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a
(b)os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.
60.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 18(1)(a)(iii) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)datganiad o'r gwaith gwella arfaethedig;
(b)amcangyfrif o'r costau;
(c)datganiad o ba bryd y bydd y gwaith yn cychwyn ac am ba hyd y bydd yn parhau; a
(ch)manylion yr ymgynghori a wnaed gyda'r meddianwyr o dan baragraff 22(e) ac (f) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, a chopïau o'u hymatebion.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.
61.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28(1)(h) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (cymdeithas preswylwyr gymwys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)unrhyw gais a wnaed gan gadeirydd, ysgrifennydd neu drysorydd y gymdeithas preswylwyr i berchennog y safle am i'r perchennog safle gydnabod y gymdeithas fel cymdeithas preswylwyr gymwys;
(b)unrhyw ymateb gan berchennog y safle i'r cais am gydnabod y gymdeithas, y cyfeirir ato ym mharagraff (a);
(c)copi o gyfansoddiad y gymdeithas; ac
(ch)tystiolaeth o'r nifer o feddianwyr cartrefi symudol ar y safle sy'n berchnogion y cartrefi symudol a feddiennir ganddynt ac sy'n aelodau o'r gymdeithas preswylwyr.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: