YR ATODLENManylion ychwanegol ynglŷn â rhai ceisiadau
Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 1983
Ceisiadau sy'n ymwneud â methiant i roi datganiad ysgrifenedig
50
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 1(6) o Ddeddf 1983 (hawl i gael datganiad ysgrifenedig).
2
Y dogfennau penodedig yw unrhyw ddogfennau a roddir gan berchennog y safle i'r meddiannydd, y mae'n ofynnol o dan adran 1(2) o Ddeddf 1983 bod perchennog y safle yn eu rhoi.
3
Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.
Ceisiadau sy'n ymwneud â thelerau goblygedig ychwanegol neu amrywio neu ddileu telerau goblygedig
51
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 2(2) o Ddeddf 1983 (telerau a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig).
2
Y ddogfen benodedig yw datganiad sy'n pennu'r rhesymau pam y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gael unrhyw rai o'r materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig yn y cytundeb rhwng perchennog y safle a'r meddiannydd.
3
Yr ymatebydd penodedig yw—
a
os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a
b
os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.
52
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 2(3)(a) o Ddeddf 1983 (amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb)—
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
copi o'r cytundeb; a
b
datganiad yn pennu—
i
pa un o delerau datganedig y cytundeb y mae'r ceisydd yn gofyn i'r tribiwnlys ei amrywio neu ei ddileu, neu, yn achos un o'r telerau datganedig y mae adran 1(6) o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt, pa un y mae'r ceisydd yn dymuno rhoi effaith lawn iddo; a
ii
y rhesymau pam y mae'r ceisydd yn gwneud cais am amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb, neu, yn achos un o'r telerau datganedig y mae adran 1(6) o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt, y rhesymau dros ddymuno rhoi effaith lawn iddo.
3
Yr ymatebydd penodedig yw—
a
os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a
b
os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.
Ceisiadau sy'n ymwneud ag unrhyw gwestiwn o dan Ddeddf 1983
53
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 4 o Ddeddf 1983 (penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 neu o dan gytundeb y mae'r Ddeddf honno'n gymwys iddo).
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
copi o'r cytundeb; a
b
unrhyw ohebiaeth berthnasol a roddodd neu a gafodd y ceisydd mewn cysylltiad â'r cwestiwn sydd i'w benderfynu.
3
Yr ymatebydd penodedig yw—
a
os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a
b
os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.
Ceisiadau sy'n ymwneud ag effaith niweidiol cartrefi symudol ar amwynder y safle
54
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (penderfyniad gan dribiwnlys ynghylch effaith niweidiol cartref symudol).
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, sy'n hysbysu'r meddiannydd o fwriad perchennog y safle i wneud cais o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;
b
unrhyw adroddiad sydd wedi ei baratoi, sy'n disgrifio cyflwr y cartref symudol; ac
c
unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy'n cefnogi'r cais.
3
Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.
Ceisiadau sy'n ymwneud â therfynu gan berchennog y safle
55
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (terfynu gan berchennog y safle).
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
copi o'r cytundeb;
b
unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, sy'n hysbysu'r meddiannydd o fwriad perchennog y safle i wneud cais o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;
c
yn achos cais o dan baragraff 4 o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, os y toriad honedig yw methiant i dalu'r ffi am y llain, datganiad o'r ffioedd llain a oedd yn ddyledus ac o'r ffioedd a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod dan sylw;
ch
unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy'n cefnogi'r cais; a
d
yn achos cais o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, copi o benderfyniad y tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw.
3
Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.
Ceisiadau sy'n ymwneud â chymeradwyo person wrth werthu neu roi cartrefi symudol
56
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 8(1E) (gwerthu cartref symudol) neu 9(2) (rhoi cartref symudol) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
copi o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i berchennog y safle gan y meddiannydd o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;
b
unrhyw ohebiaeth berthnasol a gafodd y meddiannydd gan berchennog y safle, i'r perwyl nad oedd perchennog y safle yn cymeradwyo'r gwerthiant neu'r rhodd; ac
c
yn achos cais brys o dan baragraff 8 neu 9 o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, unrhyw ddogfennau sy'n cynnwys y dystiolaeth a anfonwyd ynghyd â'r cais o dan baragraff (2) o reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol).
3
Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.
Ceisiadau mewn perthynas ag adleoli cartrefi symudol
57
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol).
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
unrhyw ddogfen sy'n nodi'r rheswm dros ei gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i leoli'r cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod mewn perthynas â llain arall, ac yn darparu disgrifiad, amwynder a maint y llain bresennol yn ogystal â'r llain amgen arfaethedig;
b
copi o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain bresennol a drafft o'r cytundeb arfaethedig mewn perthynas â'r llain amgen; ac
c
yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, ac sy'n nodi bwriad perchennog y safle i wneud cais i'r tribiwnlys o dan baragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol nas cyflwynwyd eisoes i'r tribiwnlys ac sy'n berthnasol i'r cais.
3
Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.
Ceisiadau sy'n ymwneud â dychwelyd cartrefi symudol a adleolwyd
58
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol).
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
unrhyw gais gan y meddiannydd i berchennog y safle am ddychwelyd y cartref symudol i'r llain wreiddiol ac unrhyw ymateb a gafwyd i'r cais hwnnw;
b
copi o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain bresennol ac o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain amgen; ac
c
yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd gan y meddiannydd i berchennog y safle, ac sy'n nodi bwriad y meddiannydd i wneud cais i'r tribiwnlys o dan baragraff 10(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno.
3
Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.
Ceisiadau sy'n ymwneud â'r ffi llain
59
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraffau 16(b), 17(4) ac 17(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain).
2
Y ddogfen benodedig yw'r hysbysiad a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle o dan baragraff 17(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno (pa un a'i cyflwynwyd erbyn yr amser sy'n ofynnol o dan y paragraff hwnnw ai peidio).
3
Yr ymatebydd penodedig yw—
a
os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a
b
os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.
Ceisiadau sy'n ymwneud â gwelliannau sydd i'w cymryd i ystyriaeth yn y ffi llain
60
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 18(1)(a)(iii) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain).
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
datganiad o'r gwaith gwella arfaethedig;
b
amcangyfrif o'r costau;
c
datganiad o ba bryd y bydd y gwaith yn cychwyn ac am ba hyd y bydd yn parhau; a
ch
manylion yr ymgynghori a wnaed gyda'r meddianwyr o dan baragraff 22(e) ac (f) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, a chopïau o'u hymatebion.
3
Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.
Ceisiadau sy'n ymwneud â chymdeithasau preswylwyr cymwys
61
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28(1)(h) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (cymdeithas preswylwyr gymwys).
2
Y dogfennau penodedig yw—
a
unrhyw gais a wnaed gan gadeirydd, ysgrifennydd neu drysorydd y gymdeithas preswylwyr i berchennog y safle am i'r perchennog safle gydnabod y gymdeithas fel cymdeithas preswylwyr gymwys;
b
unrhyw ymateb gan berchennog y safle i'r cais am gydnabod y gymdeithas, y cyfeirir ato ym mharagraff (a);
c
copi o gyfansoddiad y gymdeithas; ac
ch
tystiolaeth o'r nifer o feddianwyr cartrefi symudol ar y safle sy'n berchnogion y cartrefi symudol a feddiennir ganddynt ac sy'n aelodau o'r gymdeithas preswylwyr.
3
Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.