Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai (Diddymu) 2012

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 631 (Cy.88)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai (Diddymu) 2012

Gwnaed

29 Chwefror 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Mawrth 2012

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru(2).

Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo(3) wedi cydsynio i drosglwyddiad eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai(4).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf.

Gan hynny, mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

(1)

1992 p.13; diwygiwyd adran 27 gan O.S. 2005/3238 (Cy. 243), erthygl 9 ac Atodlen 1, paragraffau 13 ac 16; a chan O.S. 2010/1080, erthygl 2 ac Atodlen 1, paragraffau 18 a 19.

(2)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

Y'i sefydlwyd fel Coleg Technegol Llandrillo gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097). Cafodd yr enw ei newid yn Goleg Llandrillo yn effeithiol o 1 Awst 1994.

(4)

Y'i sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1994 (O.S. 1994/1449).