2012 Rhif 631 (Cy.88)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai (Diddymu) 2012

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921 (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru2.

Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo3 wedi cydsynio i drosglwyddiad eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai4.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf.

Gan hynny, mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai (Diddymu) 2012, a daw i rym ar 1 Ebrill 2012.

Diddymu a throsglwyddo2

Ar 1 Ebrill 2012, diddymir Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai, a throsglwyddir ei heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo, corff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol.

Trosglwyddo staff3

Mae Adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai yn union cyn 1 Ebrill 2012, fel pe bai'r cyfeiriadau yn yr adran honno at—

a

berson y mae'r adran honno'r gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogir fel hynny;

b

y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Ebrill 2012;

c

y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai; ac

ch

y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo.

Leighton AndrewsY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu, yn effeithiol o 1 Ebrill 2012, y gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg y sefydliad addysgol a elwir yn Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Menai. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo'i heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Llandrillo, ac yn diogelu hawliau ei gweithwyr drwy gymhwyso, gydag addasiad, adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).