Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 20082

1

Mae Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 20083 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (7).

2

Yn rheoliad 2 (dehongli) —

a

ym mharagraff (1)—

i

yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad a ganlyn—

  • ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/884/EU ar fesurau brys ynghylch reis a addaswyd yn enetig heb awdurdod mewn cynhyrchion reis sy'n tarddu o Tsieina a hwnnw'n Benderfyniad sy'n diddymu Penderfyniad 2008/289/EC4;

ii

hepgorer y diffiniad o “rhoi gyntaf ar y farchnad”;

iii

yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn —

  • mae i “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;

iv

yn y diffiniad o “cynnyrch penodedig”, yn lle “yr Atodiad” rhodder “Atodiad I”; a

b

mewnosoder y paragraff canlynol yn union ar ôl paragraff (2) —

3

Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir ym Mhenderfyniad y Comisiwn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ystyr sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw ym Mhenderfyniad y Comisiwn.

3

Yn lle'r pennawd i reoliad 3 (cyfyngiad ar roi cynhyrchion penodedig gyntaf ar y farchnad) a pharagraff (1) ohono, rhodder y canlynol —

Cyfyngiad ar roi cynhyrchion penodedig ar y farchnad3

1

Gwaherddir rhoi unrhyw gynnyrch penodedig ar y farchnad—

a

oni chydymffurfiwyd ag amodau a bennir yn Erthygl 4 o Benderfyniad y Comisiwn mewn perthynas â'r cynnyrch; a

b

oni bai bod llwyth y cynnyrch penodedig wedi ei rannu yn dilyn rheolaeth swyddogol, a bod copi dilysedig o'r dystysgrif iechyd a'r adroddiad dadansoddiadol yn dod gyda phob rhan o'r llwyth rhanedig.

4

Mae rheoliad 4 (hysbysu am ganlyniadau cadarnhaol) wedi ei hepgor.

5

Yn lle paragraff (4) o reoliad 5 (gorfodi) rhodder y canlynol —

4

Y gofynion yw'r rhai a bennir yn —

a

Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â'r amodau y caniateir i gynhyrchion penodedig gael eu rhoi ar y farchnad odanynt, y rheolaethau swyddogol sydd i'w cyflawni a'r mesurau sydd i'w cymryd parthed llwythi nad ydynt yn cydymffurfio); a

b

brawddeg gyntaf Erthygl 7 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â rheoli rhannu llwythi).

6

Ym mharagraff (b) o reoliad 6 (cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990), yn lle “rhoi gyntaf ar y farchnad” rhodder “rhoi ar y farchnad”.

7

Mewnosoder y rheoliadau canlynol yn union ar ôl rheoliad 6 —

Treuliau sy'n deillio o reolaethau swyddogol7

Bydd treuliau a godir gan awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd ar weithredwr yn unol ag Erthygl 8 o Benderfyniad y Comisiwn yn daladwy gan y gweithredwr ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod.

Darpariaeth drosiannol8

Nid yw'r gwaharddiad yn rheoliad 3(1) yn gymwys mewn perthynas â unrhyw gynnyrch penodedig a adawodd Tsieina cyn 1 Chwefror 2012 ar yr amod —

a

bod y gwaith samplu a dadansoddi wedi ei wneud yn unol ag Erthygl 4(3) o Benderfyniad y Comisiwn; a

b

na fyddai rhoi'r cynnyrch ar y farchnad wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel yr oeddent yn sefyll yn union cyn i Reoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2012 ddod i rym.