Search Legislation

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 724 (Cy.96)

ADDYSG CYMRU

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

Gwnaed

6 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mawrth 2012

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 132, 145 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), wedi ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 132(4) o'r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2012.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “academi” (“academy”) yw ysgol annibynnol yn Lloegr y mae trefniadau academi yn gymwys iddi;

ystyr “addysgu” (“teaching”) yw cyflawni gwaith o fath sydd wedi ei bennu gan reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Ddeddf Addysg 2002(4) ac mae “addysgu” i'w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “coleg dinasol” (“city college”) yw coleg technoleg dinasol neu goleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau;

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth o dan gontract cyflogaeth neu gymryd person ymlaen i ddarparu gwasanaethau mewn modd heblaw o dan gontract cyflogaeth; ac mae cyfeiriadau at fod yn “gyflogedig” i'w dehongli'n unol â hynny;

mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i'w ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf Addysg 2002(5);

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru(6);

ystyr “Cynllun 2006” (“the 2006 Scheme”) yw Cynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth 2006 a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 24 Chwefror 2006(7) yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau 2004, fel y'i diwygiwyd gan Gynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth (Diwygio) 2006 Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Tachwedd 2006(8);

ystyr “Cynllun 2011” (“the 2011 Scheme”) yw Cynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth 2011 a wnaed gan Weinidogion Cymru ar 25 Awst 2011 yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau 2004(9);

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw'r cynllun a ddisgrifir yn rheoliad 8 neu'r cynlluniau a ddisgrifir ym mharagraffau 3 i 5 o Atodlen 1 pan fo'r cyd-destun yn mynnu hynny;

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn Lloegr” (“employment-based teacher training scheme in England”) yw cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliadau a wnaed o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002 lle y caiff person ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig tra bo'n gyflogedig i addysgu;

ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982(10);

ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989(11);

ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993(12);

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(13);

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(14);

ystyr “safonau penodedig” (“specified standards”) yw'r safonau sy'n gymwys ar adeg yr asesiad a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro fel y safonau y mae gofyn i bersonau sy'n ceisio dod yn athrawon cymwysedig eu bodloni;

ystyr “safonau penodedig yn Lloegr” (“specified standards in England”) yw'r safonau sy'n gymwys ar adeg yr asesiad fel a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dro i dro fel y safonau y mae gofyn i bersonau sy'n ceisio ennill statws athro cymwysedig yn Lloegr eu bodloni;

ystyr “sefydliad” (“institution”) oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach neu sefydliad o fewn y sector addysg uwch;

ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7;

ystyr “sefydliad achrededig yn Lloegr” (“accredited institution in England”) yw sefydliad wedi ei gymeradwyo neu ei achredu fel darparwr cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn Lloegr o dan reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002;

ystyr “sefydliad estron” (“foreign institution”) yw unrhyw sefydliad ac eithrio sefydliadau yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom institution”) yw sefydliad a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig, heblaw am un sydd yn, neu'n ffurfio rhan o sefydliad lle y mae'r prif sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu'n gysylltiedig â sefydliad o'r fath;

mae i “trefniadau academi” yr ystyr a roddir i “academy arrangements” gan adran 1 o Ddeddf Academïau 2010(15);

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol neu ysgol arbennig nas cynhelir felly; ac

mae cyfeiriadau at yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol neu'r pedwerydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o Ddeddf Addysg 2002(16).

Dirymu a darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau 2004 wedi eu dirymu.

(2Bydd y darpariaethau arbed a'r darpariaethau trosiannol yn Atodlen 1 yn cael effaith.

Statws Athro Cymwysedig

5.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 11, 12, 13 a 14 o Reoliadau 1999, mae personau yn athrawon cymwysedig os ydynt yn bersonau a grybwyllir—

(a)ym mharagraffau 1 i 7 o Atodlen 2 sydd wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor yn unol â rheoliad 6;

(b)ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2—

(i)y mae Adran Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno datganiad i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor mewn cysylltiad â hwy, eu bod yn bodloni'r gofynion a bennir yn un o'r paragraffau hynny; a

(ii)eu bod wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor yn unol â rheoliad 6;

(c)ym mharagraffau 4 i 10 o Atodlen 2 sydd yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o ran Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002; neu

(ch)ym mharagraffau 11 i 14 o Atodlen 2.

Hysbysiad am statws athro cymwysedig

6.—(1Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.

(2Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 4 i 7 o Atodlen 2 nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5(c) gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.

(3Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2—

(a)nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5(c) ar y sail nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o ran Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002; a

(b)y mae Adran Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno datganiad i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor mewn cysylltiad â hwy, eu bod yn bodloni'r gofynion a bennir yn un o'r paragraffau hynny,

gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) i (9), mae personau sy'n derbyn hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraffau (1), (2) neu (3) wedi cymhwyso o'r dyddiad hwnnw a ddarperir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor.

(5Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor beidio â darparu bod y personau hynny yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y mae'r asesiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael ei gwblhau.

(6Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 5 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y cwblhawyd y cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon yn llwyddiannus.

(7Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 6 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y maent yn cofrestru'n llawn fel athrawon ysgol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

(8Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 7 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu bod y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y maent yn cofrestru fel athrawon ysgol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.

(9Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2 rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor beidio â darparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y maent yn cwblhau cyfnod o wasanaeth fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey fel a bennir yn natganiad Adran Addysg Taleithiau Guernsey.

Sefydliadau Achrededig

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru achredu sefydliad fel darparwr cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol.

(2Dim ond os yw'n bodloni'r meini prawf hynny a gaiff eu pennu gan Weinidogion Cymru o dro i dro y caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru achredu sefydliad.

(3Caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru dynnu achrediad sefydliad yn ôl yn unol â'r meini prawf hynny a gaiff eu pennu gan Weinidogion Cymru o dro i dro.

(4Cyn pennu meini prawf o dan baragraffau (2) a (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru sefydlu cynllun lle y caiff personau sydd yn gyflogedig neu wedi cael eu cyflogi mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion(17)) ddod yn athrawon cymwysedig.

(2Enw cynllun a sefydlwyd o dan baragraff (1) fydd cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(3Caiff cynllun o'r fath wneud darpariaeth ar gyfer rhaglen hyfforddiant y mae'n rhaid i bersonau ei gwneud.

(4Caiff cynllun o'r fath ddarparu bod personau yn cael eu hasesu gan sefydliad achrededig er mwyn penderfynu a ydynt yn bodloni'r safonau penodedig heb gael hyfforddiant pellach.

(5Rhaid i unrhyw berson neu gorff sy'n arfer swyddogaeth yn rhinwedd y rheoliad hwn ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno.

Diwygiadau Canlyniadol

9.  Yn rheoliadau 11, 12 ac 13(1) o Reoliadau 1999, yn lle “yn athro cymwysedig yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004” rhodder “yn athro cymwysedig yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012”.

10.  Yn Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005(18) yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 22(c) mewnosoder, ar ôl “yn athro neu athrawes gymwysedig” y geiriau “yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddynt neu”;

(b)yn lle paragraff 22(ch) rhodder—

(ch)wedi ei asesu gan sefydliad sydd wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac wedi bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13.;

(c)ym mharagraff 23(a)—

(i)mewnosoder, ar ôl “yn athro neu athrawes gymwysedig” y geiriau “yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, a pharagraff 7 o Atodlen 2 iddynt neu”; a

(ii)ar ôl “ac a ddaeth” mewnosoder “yn y naill achos neu'r llall”;

(ch)yn lle paragraff 23(b) rhodder—

(b)wedi ei asesu gan sefydliad sydd wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac wedi bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13..

11.  Yn Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(19)

(a)yn rheoliad 2—

(i)hepgorer y diffiniad o “cymhwyster athrawon ysgol” (“school teachers' qualification”);

(ii)yn y man priodol, mewnosoder “ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012”; a

(b)ym mhob un o baragraffau (2), (3) a (4) o reoliad 3—

(i)ar ôl “(os digwydd),” mewnosoder “un ai bod yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau 2012 neu”;

(ii) hepgorer is-baragraff (a).

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

6 Mawrth 2012

Rheoliad 4

ATODLEN 1Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol

Achredu sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant cychwynnol athrawon

1.  Mae unrhyw achrediad a roddir at ddibenion rheoliad 7 o Reoliadau 2004, neu i gael effaith fel pe bai'r achrediad wedi ei roi felly, ac a oedd mewn grym yn union cyn dyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn, i gael effaith fel pe bai'r achrediad wedi ei roi at ddibenion rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn.

Personau a ddechreuodd gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru cyn 1 Medi 2008

2.  Nid yw paragraff 1(c) o Atodlen 2 yn gymwys mewn achos personau a ddechreuodd gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru cyn 1 Medi 2008 ac nad ydynt wedi eu hysbysu'n ysgrifenedig eu bod yn athrawon cymwysedig o dan reoliad 6 o Reoliadau 2004 ar 31 Mawrth 2012 neu cyn hynny.

Y cynlluniau hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth a wnaed o dan Reoliadau 2004

3.  Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a nodir yng Nghynllun 2011, mae Cynllun 2006 i barhau mewn grym tan 1 Medi 2012.

4.  Pan fo person yn cwblhau cyfnod o hyfforddiant yn llwyddiannus ar Gynllun 2006 neu'n bodloni gofynion y cynllun hwnnw fel arall, rhaid darllen paragraff 2 o Atodlen 2 fel pe bai, ar ôl “sefydliad achrededig”, y geiriau “neu gan berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn gymwys i asesu cymhwysedd athrawon dan hyfforddiant yn ôl y safonau penodedig yn unol â'r cynllun hwnnw” wedi eu mewnosod.

5.  Bydd Cynllun 2011, sydd yn gymwys mewn perthynas â rhaglenni hyfforddi sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn parhau mewn grym tan yr adeg honno pan fydd cynllun yn cael ei sefydlu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8 o'r Rheoliadau hyn, neu tan y dirymir ef gan Weinidogion Cymru, p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf.

Rheoliadau 5 a 6

ATODLEN 2Gofynion Statws Athro Cymwysedig

1.  Personau sydd—

(a)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwyster arall cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad estron;

(b)wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus mewn sefydliad achrededig yng Nghymru;

(c)wedi gwneud cyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon hwnnw—

(i)yn gyfan gwbl neu'n bennaf mewn ysgol neu sefydliad addysg arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru yr addysgir Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ynddi neu ynddo mewn perthynas â'r cyfnod sylfaen, neu'r ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol neu'r pedwerydd cyfnod allweddol fel y bo'n briodol i'r ysgol neu'r sefydliad; a

(ii)lle y mae'r profiad o addysgu ymarferol yn yr ysgol neu'r sefydliad y cyfeirir atynt ym mharagraff (i) yn cyfateb ac yn briodol i'r cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon hwnnw; a

(ch)wedi eu hasesu gan sefydliad achrededig eu bod yn bodloni'r safonau penodedig.

2.  Personau sydd—

(a)wedi cwblhau cyfnod o hyfforddiant ar gynllun hyfforddiant athrawon ar sail cyflogaeth neu wedi bodloni gofynion y cynllun hwnnw fel arall; a

(b)wedi eu hasesu gan sefydliad achrededig eu bod yn bodloni'r safonau penodedig.

3.  Personau sydd wedi bodloni'r gofynion am dderbyn hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn athrawon cymwysedig o dan Reoliadau 1982, Rheoliadau 1989, Rheoliadau 1993, Rheoliadau 1999 neu Reoliadau 2004, a'r unig reswm pam nad ydynt yn athrawon cymwysedig yw am nad ydynt wedi derbyn yr hysbysiad hwnnw.

4.  Personau sydd â'r hawl, mewn perthynas â'r alwedigaeth fel athrawon ysgol, i ymarfer yn y Deyrnas Unedig yn unol â Rhan 2 o Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007(20), a Phenodau 1, 2 a 4 o Ran 3 iddynt.

5.  Personau sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn llwyddiannus mewn sefydliad addysgol yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

6.  Personau sydd wedi eu cofrestru'n llawn fel athrawon addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

7.  Personau sydd—

(a)wedi eu cofrestru fel athrawon cymwysedig gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon; a

(b)wedi gwneud cyfnod o brofiad addysgu ymarferol y mae ei gyfanswm yn drigain niwrnod o leiaf mewn sefydliad addysgol yng Ngogledd Iwerddon.

8.  Personau sydd wedi cwblhau dwy flwyddyn ysgol o wasanaeth llawnamser, yn llwyddiannus fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey, neu gyfnod cyfatebol, os gwnaed y gwasanaeth yn rhan-amser, a'r hyfforddiant a bennir yn y drwydded.

9.  Personau sydd—

(a)wedi cwblhau, yn llwyddiannus, ddim llai na blwyddyn ysgol o wasanaeth llawnamser, fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey, a'r hyfforddiant a bennir yn y drwydded; a

(b)cyn dyddiad cychwyn y drwydded, wedi eu cyflogi am ddim llai na dwy flynedd fel—

(i)athrawon neu ddarlithwyr mewn ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinasol neu academi) neu sefydliad neu brifysgol yn y Deyrnas Unedig;

(ii)hyfforddwyr neu swyddogion addysg yn Lluoedd Arfog y Goron;

(iii)hyfforddwyr o dan—

(a2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1993;

(b2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999(21);

(c2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

(ch2)paragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Lloegr) 2003(22); neu

(d2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004(23); neu

(iv)person sydd â chymwysterau arbennig neu brofiad arbennig o dan baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010(24),

a heb gael eu diswyddo ar unrhyw sail ac eithrio dileu swydd.

10.  Personau sydd—

(a)wedi cwblhau yn llwyddiannus ddim llai nag un tymor ysgol o wasanaeth fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey, a'r hyfforddiant a gynigir yn yr argymhelliad am drwydded;

(b)wedi cwblhau'n llwyddiannus, cyn dyddiad cychwyn y drwydded, naill ai—

(i)cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol a oedd yn para o leiaf dair blynedd, mewn sefydliad addysgol y tu allan i Gymru a Lloegr; neu

(ii)cwrs gradd gyntaf a chwrs ôl radd hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol mewn sefydliad o'r fath (boed hynny yn yr un sefydliad ai peidio); ac

(c)wedi bod yn gyflogedig am ddim llai na blwyddyn fel athrawon neu ddarlithwyr mewn ysgol, ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinasol neu academi), sefydliad neu brifysgol neu sefydliad addysgol arall naill ai yng Nghymru neu Loegr neu mewn man arall a heb gael eu diswyddo ar unrhyw sail ac eithrio dileu swydd.

11.  Personau sydd—

(a)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwyster arall cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad estron;

(b)wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon, yn llwyddiannus mewn sefydliad achrededig yn Lloegr;

(c)wedi gwneud cyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon hwnnw yn gyfan gwbl neu'n bennaf mewn ysgol, coleg dinasol, academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yn Lloegr, neu mewn ysgol a weinyddir gan Addysg Plant y Lluoedd Arfog(25);

(ch)wedi eu hasesu gan y sefydliad yn is-baragraff (b) ac yn bodloni'r safonau penodedig yn Lloegr; ac

(d)yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002.

12.  Personau sydd—

(a)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwyster arall cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad estron;

(b)wedi eu hasesu gan sefydliad achrededig yn Lloegr a'u bod wedi bodloni'r meini prawf hynny a gaiff eu pennu o dro i dro gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

(c)wedi gwneud cyfnod o brofiad addysgu ymarferol fel bod y person yn cael ei asesu gan y sefydliad yn is-baragraff (b) a'i fod yn bodloni'r safonau penodedig yn Lloegr; a

(ch)yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002.

13.  Personau sydd—

(a)wedi cwblhau cyfnod o hyfforddiant yn llwyddiannus ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn Lloegr;

(b)wedi eu hasesu ac wedi bodloni'r safonau penodedig yn Lloegr; ac

(c)yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002.

14.  Personau sydd yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau 2004.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu darpariaethau yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) gyda rhai darpariaethau diwygiedig yn Atodlen 2 ac, yn gyffredinol, maent yn diweddaru ychydig a gwneud rhai newidiadau drafftio bychain. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaethau arbed a throsiannol a diwygiadau canlyniadol.

Nid yw darpariaethau anarferedig Rheoliadau 2004 wedi eu hailddeddfu.

Mae rheoliad 4 yn dirymu Rheoliadau 2004 ac yn gwneud y darpariaethau arbed a throsiannol a nodir yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn pennu'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni cyn i bersonau fod yn athrawon cymwysedig yng Nghymru a thrwy hynny yn derbyn statws athro cymwysedig.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod Gweinidogion Cymru neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn hysbysu personau penodol sydd yn bodloni'r gofynion yn Atodlen 2 o'r ffaith eu bod yn athrawon cymwysedig ac yn nodi'r dyddiad pan fydd yr hysbysiad hwnnw'n dechrau cael effaith.

Mae rheoliad 7 yn galluogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i achredu sefydliadau sy'n darparu cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ac yn bodloni'r meini prawf a bennir gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 8 yn caniatáu i Weinidogion Cymru sefydlu cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth sy'n galluogi personau i hyfforddi i fod yn athrawon tra bônt yn gyflogedig. O dan y cynllun, caiff personau eu hasesu gan sefydliadau achrededig er mwyn penderfynu os ydynt yn bodloni'r safonau penodedig heb hyfforddiant pellach. Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar y cynllun, ac mae'n rhaid i bersonau sy'n arfer swyddogaethau o dan y cynllun roi ystyriaeth iddynt. Mae darpariaethau arbed yn Atodlen 1 yn darparu bod cynlluniau hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth a sefydlwyd o dan Reoliadau 2004 yn parhau, er gwaethaf dirymu Rheoliadau 2004.

Mae rheoliadau 9 i 11 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau eraill gan roi cyfeiriadau at y Rheoliadau hyn, mewn rhai achosion, yn lle'r cyfeiriadau at Reoliadau 2004. Mae rheoliad 10 hefyd yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 i ddarparu y caiff asesiadau penodol eu cynnal gan sefydliadau achrededig.

(1)

2002 p.32. Ystyr “Regulations” yn adrannau 132 a 145 yw rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 212(1)). Mae diwygiadau i adran 145 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

1998 p.30. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(4)

Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010, O.S. 2010/2710 (Cy.227), yw'r rheoliadau sydd mewn grym ar yr adeg y gwnaed y Rheoliadau hyn.

(5)

Diwygiwyd adran 102 gan Fesur Dysgu a Medrau (Cymru) 2009 (mccc 1), adran 47 a Mesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5), adran 21.

(6)

Mae adran 8 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30) yn darparu ar gyfer sefydlu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru drwy Orchymyn, ac mae O.S. 1998/2911 yn cyfeirio ato.

(7)

2006 Rhif 8.

(8)

2006 Rhif 74.

(9)

2011 Rhif 32.

(10)

O.S. 1982/106, a ddiwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329. Dirymwyd O.S. 1982/106 gan O.S. 1989/1319.

(11)

O.S. 1989/1319, a ddiwygiwyd gan O.S. 1989/1541, 1990/1561, 1991/1134, 1991/1840, 1991/2240 a 1992/1809. Dirymwyd O.S. 1989/1319 gan O.S. 1993/543 gydag arbedion trosiannol.

(12)

O.S. 1993/543, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/368, 1997/2679 a 1998/1584. Dirymwyd O.S. 1993/543 yn rhannol o ran Cymru gan O.S. 1999/2817 (Cy.18) gyda'r darpariaethau a oedd ar ôl yn cael eu dirymu gan O.S. 2000/2419 ac O.S. 2000/2906 (Cy.186).

(15)

2010 p.32.

(16)

Diwygiwyd adran 103 gan Fesur Dysgu a Medrau (Cymru) 2009 (mccc 1), adran 47 a Mesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5), adran 21.

(17)

Caiff unedau cyfeirio disgyblion eu sefydlu a'u cynnal o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56).

(21)

O.S. 1999/2166, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2704, 2001/1391, 2001/2896, 2001/3737, 2002/1434 a 2003/107. Dirymwyd O.S. 1999/2166 yn rhannol gan O.S. 2003/1662 gyda'r darpariaethau a oedd ar ôl yn cael eu dirymu gan O.S. 2003/3139.

(25)

Asiantaeth a berthyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn yw Addysg Plant y Lluoedd Arfog.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources