- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gwnaed
15 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Mawrth 2012
Yn dod i rym
6 Ebrill 2012
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygu Digollediad Tir (Cymru) 2012 a daw i rym ar 6 Ebrill 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(4) (dehongli'n gyffredinol); ac
ystyr “Gorchymyn 1974” (“1974 Order”) yw Gorchymyn Datblygu Digollediad Tir 1974(5).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Neddf Digollediad Tir 1961(6).
(3) Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio gan berson i wneud cais am dystysgrif o dan adran 17 i, neu erchi am wybodaeth o dan erthygl 5 oddi wrth, awdurdod cynllunio lleol, ac yn y paragraffau hynny ystyr “y derbynnydd” yw'r awdurdod cynllunio lleol hwnnw.
(4) Ni chymerir bod y cais neu'r archiad wedi ei wneud oni bai bod y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfathrebiad electronig—
(a)yn gallu cael ei chyrchu gan y derbynnydd;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac
(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen ar gael i'r derbynnydd o leiaf i'r un graddau â phe bai wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(6) Os derbynnir cyfathrebiad electronig gan y derbynnydd y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, cymerir ei fod wedi ei dderbyn ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
(7) Bydd gofyniad yn y Gorchymyn hwn fod rhaid i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei gyflawni os bydd y ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), ac mae'r ymadrodd “ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
3.—(1) Rhaid i gais i awdurdod cynllunio lleol am dystysgrif o dan adran 17—
(a)bod yn ysgrifenedig;
(b)cynnwys plan neu fap sy'n ddigonol i nodi'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef; ac
(c)cydymffurfio â gofynion adran 17(3).
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 17(4), bydd y cyfnod amser y mae tystysgrif i'w dyroddi ynddo gan awdurdod cynllunio lleol yn ddau fis ar ôl i gais o'r fath gael ei dderbyn ganddo ef.
(3) Os bydd awdurdod cynllunio lleol yn dyroddi tystysgrif nad yw ar gyfer y datblygiad a ddisgrifir yn y cais a wnaed iddo ef, neu yn groes i'r sylwadau ysgrifenedig a wnaed iddo gan barti sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r mater(7), rhaid iddo gynnwys yn y dystysgrif honno ddatganiad ysgrifenedig yn nodi ei resymau dros wneud hynny ac yn rhoi manylion am y modd y caniateir i apêl gael ei gwneud a'r cyfnod amser y caniateir iddi gael ei gwneud ynddo o dan adran 18.
4. Os gwneir archiad ysgrifenedig i awdurdod cynllunio lleol gan unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo fod ganddo fuddiant yn y tir sy'n destun tystysgrif o dan adran 17 am—
(a)enw a chyfeiriad y sawl a wnaeth gais am y dystysgrif a dyddiad y cais, a
(b)copi o'r dystysgrif,
rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol roi'r wybodaeth honno a chopi o'r dystysgrif, os yw ar gael, i'r person hwnnw.
5. Os gwneir cais am dystysgrif o dan adran 17 neu archiad am wybodaeth o dan erthygl 4 yn electronig, cymerir bod y person sy'n gwneud y cais neu'r archiad (yn ôl y digwydd) wedi cytuno—
(a)i'r awdurdod cynllunio lleol ddefnyddio cyfathrebiad o'r fath er mwyn ymateb i'r archiad hwnnw, gan gynnwys dyroddi tystysgrif (os yw'n gymwys);
(b)mai'r cyfeiriad at y dibenion hyn yw'r cyfeiriad sydd wedi ei ymgorffori yn yr archiad hwnnw, neu sydd wedi ei gysylltu'n rhesymegol ag ef; ac
(c)y bydd y cytundeb tybiedig o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes i'r person sy'n gwneud y cais neu'r archiad hysbysu yn ysgrifenedig—
(i)yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw; neu
(ii)yn dirymu'r cytundeb tybiedig,
a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol ac yn dod yn weithredol ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person, ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
6.—(1) Mae Gorchymyn 1974 wedi ei ddirymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru ar yr amod y bydd unrhyw gais am dystysgrif, neu unrhyw archiad am wybodaeth ynglŷn â thystysgrif, o dan adran 17, na phenderfynwyd arno erbyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ac ymdrinnir ag ef o dan ac yn unol â darpariaethau'r Gorchymyn hwn.
(2) Os, pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, bydd apêl wedi ei gwneud o dan adran 18 ac erthygl 4 o Orchymyn 1974 ac na fydd y cyfnod ar gyfer darparu dogfennau o dan erthygl 4(3) o Orchymyn 1974 wedi dod i ben eto, bydd darpariaethau erthyglau 4(3) a 4(4) o Orchymyn 1974 yn parhau mewn grym o ran yr apêl honno.
John Griifths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
15 Mawrth 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Datblygu Digollediad Tir 1974 (“Gorchymyn 1974”).
Mae erthygl 3 yn rhagnodi'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am dystysgrifau a'u dyroddi o dan adran 17 o Ddeddf Digollediad Tir 1961.
Mae erthygl 4 yn rhagnodi'r weithdrefn i'r rheini sydd â buddiant yn y tir perthnasol gael gwybodaeth am dystysgrifau o'r fath.
Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer cyfathrebu electronig mewn perthynas â cheisiadau am dystysgrifau ac archiadau am wybodaeth.
Mae erthygl 6 yn dirymu Gorchymyn 1974 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru ac yn darparu y bydd unrhyw gais am dystysgrif neu archiad am wybodaeth na phenderfynwyd arno, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud neu wedi ei drin o dan y Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 6 hefyd yn cynnwys arbediad os yw apêl wedi ei gwneud cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym ac os nad yw'r terfyn amser ar gyfer darparu gwybodaeth a gynhwysir yn erthygl 4(3) o Orchymyn 1974 wedi dod i ben eto. Yn yr achosion hyn, bydd erthyglau 4(3) a (4) o Orchymyn 1974 yn parhau i fod yn gymwys.
Nid oes Asesiad Effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn, gan y disgwylir i unrhyw effaith ar y sector preifat neu'r sector gwirfoddol fod yn ddibwys.
1961 p.33; caiff adran 20 ei diwygio gan Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20), adran 232(4), ar ddyddiad sydd i'w bennu.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.
2000 p.7; diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406 o Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 iddi.
O.S. 1974/539; diwygiwyd gan O.S.1986/435.
Caiff adrannau 17 a 18 eu hamnewid gan adran 232(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20) ar ddyddiad sydd i'w bennu.
Gweler adran 22(1) o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p.33) am ystyr “the parties directly concerned”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: