Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012, o ran Cymru a Lloegr, rannau o adrannau 9 a 10 sy'n ymwneud â phwerau awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012, o ran Cymru, adran 46 sy'n diddymu darpariaethau yn Neddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009, ynghylch deisebau i awdurdodau lleol; adran 162(3)(b) ac (c), sy'n gwneud diwygiadau yn y seiliau ar gyfer adennill meddiant mewn perthynas â thenantiaethau diogel yn dilyn marwolaeth tenant blaenorol; a darpariaethau diddymu cysylltiedig yn adran 237 ac Atodlen 25.

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth arbed.