Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys yng Nghymru'n unig, yn rhoi i dribiwnlys eiddo preswyl (“tribiwnlys”) awdurdodaeth o dan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (p. 34) (“Deddf 1983”) drwy addasu darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf honno a Deddf Tai 2004 (“Deddf 2004”). Mae Deddf 1983, sy'n rhychwantu Cymru a Lloegr, a'r Alban, yn gymwys i unrhyw gytundeb y mae gan berson hawl oddi tano i osod cartref symudol ar dir sy'n rhan o safle gwarchodedig ac i feddiannu'r cartref symudol fel ei unig neu brif breswylfa.

Mae Deddf 1983 a Deddf 2004 wedi eu haddasu yn Lloegr gan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Lloegr) 2011 (O.S. 2011/1005) o ganlyniad i roi awdurdodaeth i dribiwnlysoedd mewn perthynas â Lloegr. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Ddeddf 1983 fel y'i haddaswyd ac i Ddeddf 2004 o ganlyniad i roi awdurdodaeth i dribiwnlysoedd mewn perthynas â Chymru.

Mae erthygl 3 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1983 sy'n ganlyniad i roi awdurdodaeth i dribiwnlysoedd. Yn benodol, mae erthygl 3(5) yn diwygio adran 4 o Ddeddf 1983 (sy'n rhoi awdurdodaeth i'r llysoedd) fel bod gan dribiwnlys awdurdodaeth i benderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 neu unrhyw gytundeb y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo ac i ystyried unrhyw achos a ddygir o dan y Ddeddf honno neu unrhyw gytundeb o'r fath mewn perthynas â safle gwarchodedig sydd wedi ei leoli yng Nghymru. Yr unig gwestiynau y bydd awdurdodaeth drostynt yn parhau i berthyn i'r llys yw'r rhai sy'n ymwneud â phenderfynu a ganiateir i gytundeb gael ei derfynu ar unrhyw un neu rai o'r seiliau ym mharagraffau 4, 5 neu 5A(2)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (“y darpariaethau terfynu”). Yn ychwanegol, pan fo cytundeb cymrodeddu eisoes yn bod, mae adran 4 yn darparu mai gan y tribiwnlys, yn hytrach na'r cymrodeddwr, y bydd awdurdodaeth i benderfynu cwestiynau, gan gynnwys y rhai sy'n codi o dan y darpariaethau terfynu.

Mae erthygl 3(7) yn diwygio'r telerau sydd ymhlyg ym Mhennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983. Telerau ymhlyg yw'r rhain sy'n gymwys i leiniau ar bob safle gwarchodedig yng Nghymru a Lloegr ac eithrio safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdodau lleol. Yn benodol—

(a)mae diwygiadau wedi eu gwneud i baragraff 5A o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1, o ran safleoedd gwarchodedig yng Nghymru, sy'n darparu bod y llys yn cadw'r awdurdodaeth i benderfynu a yw'n rhesymol i berchennog safle, o ystyried canfyddiadau ffeithiol y tribiwnlys, derfynu cytundeb pan fo'r cartref symudol yn cael effaith niweidiol ar amwynder safle; a

(b)mae paragraffau 8 a 17 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 wedi eu diwygio i osod terfyn amser ar hawl meddiannydd i wneud apêl i'r tribiwnlys o dan y darpariaethau hynny. Caiff y tribiwnlys dderbyn ceisiadau y tu allan i'r terfyn amser os oes rhesymau da dros wneud hynny.

Mae erthygl 4 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 2004. Mae adran 230(1) a (2) o Ddeddf 2004 yn rhoi i dribiwnlys eiddo preswyl bŵer cyffredinol drwy orchymyn i roi unrhyw gyfarwyddiadau y mae'r tribiwnlys yn barnu eu bod yn angenrheidiol neu'n ddymunol i sicrhau bod yr achos neu unrhyw fater sy'n cael ei godi ynddo neu mewn cysylltiad ag ef yn cael ei benderfynu'n gyfiawn, yn hwylus ac yn ddarbodus. Mae erthygl 4(2) yn mewnosod adran 230(5A) newydd yn Neddf 2004 sy'n darparu, pan fo awdurdodaeth yn cael ei harfer o dan Ddeddf 1983, bod y cyfarwyddiadau y caiff tribiwnlys eu rhoi yn cynnwys y rhai a restrir yn yr is-adran honno. Mae erthygl 4(3) yn diwygio Atodlen 13 i Ddeddf 2004, ac yn benodol mae lefel y costau y caiff tribiwnlys eu dyfarnu mewn achosion eithriadol wedi ei diwygio fel bod yr uchafswm am gais o dan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 yn £5,000.

Mae erthygl 5 yn gwneud darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r offeryn hwn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Tai, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.