Search Legislation

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 975 (Cy.129)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed

28 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mawrth 2012

Yn dod i rym

1 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(2).

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau a ganlyn yn cael eu paratoi.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 1 Mai 2012.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(4) wedi eu diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 9 (hysbysiadau camau cywiro a hysbysiadau cadw), hepgorer y geiriau “sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004”.

(3Ar ôl paragraff (3) o reoliad 22 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella hylendid a hysbysiadau camau cywiro), ychwaneger y canlynol fel paragraff (4) newydd—

(4) Pan fo llys, ar apêl yn erbyn hysbysiad camau cywiro o dan baragraff (1), yn canslo'r hysbysiad, rhaid i'r awdurdod gorfodi ddigolledu'r gweithredydd busnes bwyd a ddygodd yr apêl mewn cysylltiad ag unrhyw golled a gafwyd oherwydd bod y gweithredydd busnes bwyd wedi cydymffurfio â'r hysbysiad, a bydd unrhyw gwestiwn dadleuol ynglŷn â'r hawl i gael unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan y paragraff hwn neu swm yr iawndal hwnnw yn cael ei benderfynu drwy gymrodeddu.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Mawrth 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy.5), fel y'i diwygiwyd eisoes) er mwyn—

(a)caniatáu i hysbysiad camau cywiro gael ei gyflwyno mewn perthynas â sefydliad nad yw'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd Ewropeaidd (rheoliad 2(2)); a

(b)darparu i ddigollediad fod yn daladwy pan fo'r gweithredydd busnes bwyd yn cael colled drwy gydymffurfio â hysbysiad camau cywiro sydd, ar apêl i'r llys, yn cael ei ganslo wedyn (rheoliad 2(3)).

2.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.

(2)

O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy'r dynodiad hwn, i Weinidogion Cymru.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu at y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources