Diwygiadau i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 20066
Yn lle rheoliad 7 (rheolau sefydlog yn ymwneud â staff) rhodder—
Rheolau sefydlog yn ymwneud â staff7
1
Lle bo gan awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori darpariaethau’r Rheoliadau hyn a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw gael eu harfer gan yr awdurdod ei hun ac yn unol â hynny ni fydd adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol)6 yn gymwys i arfer y swyddogaethau hynny.
2
Y darpariaethau yw—
a
paragraff 4(1) o Ran 1 o Atodlen 3 a pharagraff 4(1) o Ran 2 o Atodlen 3 yn ymwneud â’r swyddogaeth o gymeradwyo penodi neu ddiswyddo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod; a
b
paragraff 6 o Ran 1 o Atodlen 3 a pharagraff 6 o Ran 2 o Atodlen 3 yn ymwneud â’r swyddogaeth o bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w thalu i brif swyddog, ac unrhyw newid i’r lefel honno.