- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a)ar ôl y diffiniad o “mangre” mewnosoder—
“ystyr “milfeddyg cymeradwy” (“approved veterinary inspector”) yw milfeddyg a gymeradwyir yn unol ag erthygl 2A;”; a
(b)yn lle’r diffiniad o “prawf perthnasol” rhodder—
“ystyr “prawf perthnasol” (“relevant test”) yw—
prawf croen; neu
unrhyw brawf diagnostig arall ar gyfer twbercwlosis a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru;”.
(3) Ar ôl erthygl 2 mewnosoder—
2A.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo milfeddyg—
(a)pan fo’r milfeddyg wedi ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod y milfeddyg yn addas i gyflawni swyddogaethau a roddir i filfeddyg cymeradwy gan y Gorchymyn hwn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ddirymu’r gymeradwyaeth honno, gan roi rhesymau am y dirymiad.”
(4) Yn erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis)—
(a)ym mharagraff (2) ar ôl y geiriau “ofynion rhesymol arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”;
(b)yn is-baragraff (a) o baragraff (2) ar ôl y gair “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”;
(c)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Mae’r gofynion ar y ceidwad ym mharagraff (3A) yn gymwys—
(a)pan fo prawf perthnasol wedi ei gynnal ar anifail buchol;
(b)pan fo arolygydd neu filfeddyg cymeradwy wedi darllen canlyniad y prawf hwnnw ac wedi mynegi’r canlyniad hwnnw i’r ceidwad; ac
(c)pan fo’r arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy wedi ei fodloni bod darlleniad y prawf yn datgelu bod yr anifail buchol naill ai’n adweithydd, neu’n adweithydd amhendant.
(3A) Y gofynion yw—
(a)na symudir anifail buchol ar y fangre neu o’r fangre lle cedwir yr adweithydd neu’r adweithydd amhendant ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd;
(b)sicrhau bod pob adweithydd ac adweithydd amhendant wedi ei ynysu oddi wrth anifeiliaid eraill;
(c)caniatáu i bob adweithydd gael ei farcio gan y person a ddarllenodd y prawf perthnasol neu gan un o swyddogion Gweinidogion Cymru;
(ch)peidio â rhoi unrhyw laeth gan fuwch odro sy’n adweithydd mewn tanc llaeth swmp; a
(d)pan fo’r adweithydd yn preswylio mewn mangre gyda buches odro, hysbysu pob prynwr masnachol sy’n prynu llaeth o’r fuches honno bod y fuches odro wedi colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis.
(3B) Caiff arolygydd, drwy hysbysiad, ddiwygio neu ddatgymhwyso y gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (3A)(a) neu (b) ar unrhyw adeg.”; a
(d)ar ôl paragraff (7) mewnosoder—
“(8) Rhaid i’r arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy sy’n darllen canlyniad prawf perthnasol sy’n datgelu adweithydd neu adweithydd amhendant adrodd ar y canlyniad prawf hwnnw i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol resymol.
(9) Yn yr erthygl hon—
ystyr “adweithydd amhendant” (“inconclusive reactor”) yw anifail buchol sy’n datgelu darlleniad nad yw’n negyddol pan gaiff ei brofi ar gyfer twbercwlosis, ond ni chaiff ei ystyried yn adweithydd; ac
ystyr “colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis” (“loss of tuberculosis-free status”) yw nad yw’r fuches bellach yn bodloni’r amodau a osodir yn Atodiad A.I, paragraffau 1 a 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy’n effeithio ar fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu’r mochyn.”
(5) Yn erthygl 13 (profion cyn symud)—
(a)ym mharagraff (1)(b) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”; a
(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Pan nad yw darlleniad y prawf ym mharagraff (1)(b) yn datgelu canlyniad negyddol ar gyfer twbercwlosis mae’r gofynion yn erthygl 12(3A) yn gymwys.”
(6) Ym mharagraff (1) o erthygl 14 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu filfeddyg cymeradwy”.
(7) Yn erthygl 21 (marcio anifeiliaid buchol)—
(a)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan arolygydd neu filfeddyg cymeradwy rhaid i’r ceidwad farcio unrhyw anifail buchol yn y modd sy’n ofynnol gan yr arolygydd neu’r milfeddyg cymeradwy.”; a
(b)ym mharagraff (2) ar ôl “arolygydd” mewnosoder “neu’r milfeddyg cymeradwy”.
O.S. 2010/1379 (Cy. 122), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2012/2897.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: