xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
19. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
20. Yn adran 1(1) (awdurdodau lleol)—
(a)yn lle “the councils of non-metropolitan counties, metropolitan districts and London boroughs” rhodder “the councils of non-metropolitan counties and metropolitan districts in England, the councils of London boroughs”;
(b)hepgorer o “but, in relation to Wales” hyd at y diwedd.
21. Yn adran 6 (cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol)—
(a)yn is-adran (A1)(2), hepgorer “in England”;
(b)hepgorer is-adran (1);
(c)yn is-adran (2)(3), yn y ddau le y mae’n digwydd, hepgorer “or (as the case may be) social services”.
22. Yn adran 13 (gorchmynion a rheoliadau), hepgorer is-adran (5).
23. Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 yn effeithio ar weithredu unrhyw orchymyn o dan adran 9(1) o’r Ddeddf honno a wnaed cyn i’r diwygiadau hynny ddod i rym.
24. Yn Atodlen 1(4)—
(a)hepgorer y cofnodion sy’n ymwneud â Deddf Cymorth Gwladol 1948, ac eithrio’r cofnod sy’n ymwneud ag adran 49 o’r Ddeddf honno;
(b)yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd a Gwaith Cymdeithasol (Hyfforddi) 1962(5) hepgorer “, and as extended by section 45(9) of the Health Services and Public Health Act 1968 (c. 46)”;
(c)yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 hepgorer y cyfeiriad at adran 45;
(d)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(6);
(e)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Plant 1975(7);
(f)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Budd-daliadau Atodol 1976(8);
(g)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983(9);
(h)yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986(10)—
(i)yn lle “1 to 4” rhodder “1, 2 and 4”;
(ii)yn lle “, 7 and 8” rhodder “and 7”;
(i)yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990(11), hepgorer—
“Section 46 | Preparation of plans for community care services”; |
(j)hepgorer y cyfeiriad at Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000(12);
(k)yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc.) 2003(13), hepgorer—
“Part 2 | Functions imposed by regulations relating to eligibility for free provision of personal care to persons living at home.”; |
(l)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004(14);
(m)yng Ngholofn 1 o’r cofnod sy’n ymwneud â Deddf Plant 2004(15) yn lle “, 13 to 16 and 31 to 34” rhodder “and 13 to 16”;
(n)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(16);
(o)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(17);
(p)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010(18);
(q)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010(19);
(r)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010(20).
Diwygiwyd adran 1 gan adran 195(1) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) a chan adran 22(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a pharagraff 7 o Atodlen 10 iddi.
Mewnosodwyd is-adran (A1) gan adran 18(9) a (10) o Ddeddf Plant 2004 a pharagraff 2(1) a (2)(a) o Atodlen 2 iddi.
Diwygiwyd is-adran (2) gan adran 18(9) a (10) o Ddeddf Plant 2004 a pharagraff 2(1) a (2)(c) o Atodlen 2 iddi.
Yn Atodlen 1, diwygiwyd y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 gan adran 129 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49) ac Atodlen 16 iddi a chan adran 57 o Ddeddf Ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32) a pharagraff 131 o Atodlen 4 iddi; mewnosodwyd y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (p. 33) gan adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) a pharagraff 7 o Atodlen 5 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1158; mewnosodwyd y cofnod sy’n ymwneud â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p. 19) gan baragraff 11 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno; mewnosodwyd y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc.) 2003 (p. 5) gan adran 13 o’r Ddeddf honno ac fe’i diwygiwyd gan adran 1 o Ddeddf Gofal Personol yn y Cartref 2010 (p. 18); mewnosodwyd y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Plant 2004 (p. 31) gan adran 56 o’r Ddeddf honno ac fe’i diwygiwyd gan adran 195(3)(a) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22).