xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
13. Mae Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
14. Hepgorer adran 45 (hybu gan awdurdodau lleol les hen bobl).
15. Yn adran 63(8) (darparu cyfarwyddyd mewn gweithgareddau penodol sy’n gysylltiedig ag iechyd neu les), yn y diffiniad o “the relevant enactments”—
(a)ym mharagraff (a)(1) ar ôl “2006” mewnosoder “or for the purposes of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”;
(b)ym mharagraff (b)(2)—
(i)hepgorer “Part III of the National Assistance Act 1948”;
(ii)hepgorer “section 45 of this Act and”;
(iii)ar ôl “2006 Acts” mewnosoder “and Part 4 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.
16. Yn adran 64 (cymorth ariannol gan Weinidogion i sefydliadau gwirfoddol penodol), yn is-adran (3)(a)—
(a)hepgorer is-baragraff (iii);
(b)ar ôl is-baragraff (xxii) mewnosoder—
“(xxiii)section 15 and Part 4 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014;”.
17. Yn adran 65 (cymorth ariannol gan awdurdodau lleol i sefydliadau gwirfoddol penodol), yn is-adran (3)(b)—
(a)hepgorer is-baragraff (iii);
(b)ar ôl is-baragraff (xxii) mewnosoder—
“(xxiii)section 15 and Part 4 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014;”.
Diwygiwyd paragraff (a) gan adran 20 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), gan adran 55(3) o Ddeddf Plant 2004 (p. 31), gan adran 129 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49) a pharagraff 45 o Atodlen 15 iddi a chan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43) a pharagraffau 33 a 38(e)(ii) o Atodlen 1 iddi.
Diwygiwyd paragraff (b) gan adran 129 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 45 o Atodlen 15 iddi a chan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 a pharagraffau 33 a 38(e)(iii) o Atodlen 1 iddi.