xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10. Mae Deddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
11. Yn adran 3 (darparu cyflogaeth warchodol gan awdurdodau lleol)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl y geiriau “A local authority” mewnosoder “in England or Scotland”;
(b)yn is-adran (2)(1), hepgorer “section twenty-nine of the National Assistance Act 1948 or under paragraph 2 of Schedule 15 to the National Health Service (Wales) Act 2006, or”;
(c)yn is-adran (5)(2), hepgorer “and in relation to Wales, the council of a county or county borough”.
12. Hepgorer yr Atodlen.
Diwygiwyd adran 3(2) gan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43), paragraffau 18 a 19 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno a pharagraff 11 o’r Atodlen i O.S. 2015/914.
Diwygiwyd adran 3(5) gan adrannau 22(4) a 66(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19), paragraff 3 o Atodlen 10 i’r Ddeddf honno ac Atodlen 18 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol.