Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12)
3. Mae Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
4. Yn adran 34(7A)(1) (presenoldeb mewn llys riant plentyn neu berson ifanc a gyhuddir o drosedd etc.), ar ôl “Children Act 1989” mewnosoder “or section 76 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.
5. Yn adran 34A(2) (presenoldeb rhiant neu warcheidwad mewn llys), yn is-adran (2)(b) ar ôl “1970” mewnosoder “or the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.
(1)
Amnewidiwyd adran 34 gan adran 25(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (p. 37). Mewnosodwyd is-adran (7A) gan baragraff 6 o Atodlen 13 i Ddeddf Plant 1989.
(2)
Mewnosodwyd adran 34A gan adran 56 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53).