Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (p. 4)

134.  Yn adran 171ZJ(1)(1) (Rhan 12ZA: atodol) yn y diffiniad o “local authority foster parent”, yn lle “section 22C(12)” rhodder “section 105(1)”.

(1)

Mewnosodwyd adran 171ZJ gan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p. 22). Symudwyd yr adran hon o dan y pennawd “Ordinary and additional statutory paternity pay: supplementary provisions” gan baragraff 17 o Atodlen 1 i Ddeddf Gwaith a Theuluoedd 2006 (p. 18). Symudwyd yr adran eto wedyn i Ran XIIZA pan ddiddymwyd y croesbennawd “Ordinary and additional statutory paternity pay: supplementary provisions” gan baragraff 18 o Atodlen 7 i Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6). Mewnosodwyd y diffiniad o “local authority foster parent” yn is-adran (1) gan adran 121(7)(a) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.