Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)

301

Yn lle adran 86 (cartrefi plant sy’n cael eu darparu, eu cyfarparu a’u cynnal gan Weinidogion Cymru) rhodder—

Cartrefi plant sy’n cael eu darparu, eu cyfarparu a’u cynnal gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol86

Pan fo awdurdod lleol yn lleoli plentyn y mae’n gofalu amdano mewn cartref plant y mae Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddarparu, ei gyfarparu ac yn ei gynnal o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989, rhaid iddo wneud hynny ar y telerau a’r amodau a ddyfernir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd).