xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
319. Yn adran 197 (dehongli cyffredinol a mynegai o ymadroddion a ddiffiniwyd)—
(a)yn is-adran (1) yn lle’r diffiniad o “rhiant maeth awdurdod lleol” rhodder—
“ystyr “rhiant maeth awdurdod lleol” (“local authority foster parent”) yw person sydd wedi ei awdurdodi felly yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd—
adrannau 87 a 93;
paragraff 12F o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol);”;
(b)yn lle is-adran (2)(b) rhodder—
“(b)mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yr ystyr a roddir i gyfeiriad yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989 at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr;”.