Deddf Plant 1989 (p. 41)

68.  Yn adran 21(3)(1) (darparu llety i blant sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu, neu sydd o dan gadwad neu ar remánd, etc.)—

(a)ar ôl “local authority” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd mewnosoder “or by a local authority in Wales”;

(b)ar ôl “local authority” yn yr ail le y mae’n digwydd mewnosoder “, or local authority in Wales,”.

(1)

Diwygiwyd adran 21(3) gan baragraffau 47 ac 48 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7); gan baragraffau 1 a 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23); gan baragraff 36(1) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p. 19); gan baragraff 20(1) a (2)(a) o’r Atodlen i O.S. 2007/961 (Cy. 85) a chan baragraff 24(1) a (3) o Atodlen 1 i O.S. 2000/90.