Deddf Plant 1989 (p. 41)

81.  Yn adran 24(1) (personau sy’n gymwys i gael cyngor a chynhorthwy)—

(a)yn is-adran (2)(a)(2) ar y diwedd mewnosoder “(without subsequently being looked after by a local authority in Wales)”;

(b)yn is-adran (2)(d)(ii)(3) ar y diwedd mewnosoder “, or by a local authority in Wales in the exercise of education functions”;

(c)yn is-adran (5)(za)(4) yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”.

(1)

Rhoddwyd adran 24, ynghyd ag adrannau 24A i 24C, yn lle adran 24 fel y’i deddfwyd yn wreiddiol, gan adran 4(1) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), a rhoddwyd adran 24(1) i (1B) yn lle adran 24(1) gan baragraffau 54 a 60(a) o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38).

(2)

Diwygiwyd adran 24(2)(a) gan baragraffau 54 a 60(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38).

(3)

Diwygiwyd adran 24(2)(d) gan baragraffau 47 a 49 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7); gan baragraffau 75 ac 76 o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), a chan baragraff 20(1) a (2)(b) o’r Atodlen i O.S. 2007/961 (Cy. 85); a chan baragraff 37(1) a (2) o Atodlen 2 i O.S. 2010/1158.

(4)

Mewnosodwyd paragraff (za) gan baragraffau 54 a 60(c) o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38).