YR ATODLENDarpariaethau trosiannol ac arbed

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â gorfodi dyledion4

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (4) a (5), gellir adennill swm neu ffi y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo neu iddi o dan adran 70 o’r Ddeddf (adennill costau, llog etc) fel pe bai’n swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol o dan sylw o dan Ran 5 o’r Ddeddf.

2

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw swm neu ffi sy’n ddyledus i awdurdod lleol yng Nghymru o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau perthnasol mewn cysylltiad â chymorth neu wasanaethau (gan gynnwys swm neu ffi sy’n dod yn ddyledus ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym).

3

At ddibenion is-baragraff (2), y darpariaethau perthnasol yw—

a

Rhan 3 o Ddeddf 1948 (gwasanaethau awdurdodau lleol);

b

adran 17 o Ddeddf 1983 (ffioedd am wasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr);

c

adran 29 o Ddeddf Plant 1989218;

d

Rhan 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno;

e

Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010219.

4

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i swm na ffi y mae achos adennill wedi dechrau mewn cysylltiad ag ef neu hi cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

5

Gellir adennill swm neu ffi o dan is-baragraff (1) o fewn y cyfnod y gallai, oni bai am y paragraff hwn, fod wedi ei hadennill o’i fewn o dan adran 56 o Ddeddf 1948 (achosion cyfreithiol) neu, yn ôl y digwydd, o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau perthnasol.

6

Er gwaethaf paragraff 3(3) o’r Atodlen hon, nid yw adran 56(1) o Ddeddf 1948 nac unrhyw un o’r darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â swm neu ffi y gellir ei adennill neu ei hadennill o dan is-baragraff (1).