Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â gorfodi dyledion
4.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (4) a (5), gellir adennill swm neu ffi y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo neu iddi o dan adran 70 o’r Ddeddf (adennill costau, llog etc) fel pe bai’n swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol o dan sylw o dan Ran 5 o’r Ddeddf.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw swm neu ffi sy’n ddyledus i awdurdod lleol yng Nghymru o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau perthnasol mewn cysylltiad â chymorth neu wasanaethau (gan gynnwys swm neu ffi sy’n dod yn ddyledus ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym).
(3) At ddibenion is-baragraff (2), y darpariaethau perthnasol yw—
(a)Rhan 3 o Ddeddf 1948 (gwasanaethau awdurdodau lleol);
(b)adran 17 o Ddeddf 1983 (ffioedd am wasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr);
(c)adran 29 o Ddeddf Plant 1989(1);
(d)Rhan 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno;
(e)Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010(2).
(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i swm na ffi y mae achos adennill wedi dechrau mewn cysylltiad ag ef neu hi cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(5) Gellir adennill swm neu ffi o dan is-baragraff (1) o fewn y cyfnod y gallai, oni bai am y paragraff hwn, fod wedi ei hadennill o’i fewn o dan adran 56 o Ddeddf 1948 (achosion cyfreithiol) neu, yn ôl y digwydd, o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau perthnasol.
(6) Er gwaethaf paragraff 3(3) o’r Atodlen hon, nid yw adran 56(1) o Ddeddf 1948 nac unrhyw un o’r darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â swm neu ffi y gellir ei adennill neu ei hadennill o dan is-baragraff (1).