- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Mae Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw pwyllgor a sefydlir gan ddau awdurdod perthnasol neu ragor o dan adran 53(1) o Ddeddf 2000;”;
“ystyr “is-bwyllgor adran 54A” (“section 54A sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan Bwyllgor Safonau o dan adran 54A(1) o Ddeddf 2000;”;
“ystyr “is-bwyllgor cymunedol” (“community sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan Bwyllgor Safonau awdurdod lleol o dan adran 56 o Ddeddf 2000;”;
“ystyr “Pwyllgor Safonau” (“Standards Committee”) yw—
Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol;
cyd-bwyllgor;
is-bwyllgor adran 54A; neu
is-bwyllgor cymunedol;”.
(3) Yn rheoliad 3 (swyddogaethau swyddogion monitro) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff swyddog monitro awdurdod perthnasol wneud trefniadau i lunio adroddiad, neu i wneud argymhellion, yn unol â pharagraffau (1)(b) a (2), i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall.
(4) Ni chaiff swyddog monitro awdurdod perthnasol (“A”) wneud trefniadau o dan baragraff (3) i lunio adroddiad, neu i wneud argymhellion, i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall (“B”) oni bai bod cadeirydd Pwyllgor Safonau A wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i hynny.”
(4) Yn rheoliad 5 (cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth), ym mharagraff (1)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (d) mewnosoder “neu”;
(b)hepgorer is-baragraff (dd).
(5) Yn rheoliad 6 (adroddiadau), ar ddiwedd paragraff (a) mewnosoder “neu, yn unol â threfniadau a wneir o dan reoliad 3(3), i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall”.
(6) Yn lle rheoliad 7 (swyddogaethau’r pwyllgor safonau) rhodder—
“7.—(1) Ar ôl cael adroddiad ac unrhyw argymhellion oddi wrth swyddog monitro, neu adroddiad oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghyd ag unrhyw argymhellion gan swyddog monitro, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu naill ai:
(a)nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhoi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i:
(i)y person sy’n destun yr ymchwiliad;
(ii)y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad; a
(iii)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; neu
(b)bod rhaid i berson sy’n destun yr ymchwiliad gael ei wahodd i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol.
(2) Caiff Pwyllgor Safonau wneud trefniadau i’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff (1) gael eu harfer gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall.”
(7) Ar ôl rheoliad 7 (swyddogaethau’r pwyllgor safonau) mewnosoder—
7A.—(1) Pan fo swyddog monitro o dan reoliad 6 (adroddiadau) neu Bwyllgor Safonau o dan reoliad 7 (swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau) yn gwneud trefniadau o dan reoliad 3(3) neu 7(2), rhaid i’r swyddog monitro neu’r Pwyllgor Safonau sy’n gwneud y trefniadau hynny roi’r hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) i:
(a)y person neu’r personau sy’n destun ymchwiliad;
(b)y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad o gamymddygiad sy’n arwain at yr ymchwiliad; ac
(c)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
(2) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys y canlynol:
(a)datganiad bod y mater wedi ei atgyfeirio i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall iddo ddyfarnu arno;
(b)enw’r awdurdod perthnasol arall; ac
(c)y rheswm pam y mae’r mater wedi ei atgyfeirio i Bwyllgor Safonau yr awdurdod perthnasol arall.”
(8) Yn rheoliad 8 (gweithdrefn a phwerau pwyllgorau safonau)—
(a)ym mharagraff (5), yn lle “o’r awdurdod perthnasol” rhodder “o awdurdod perthnasol”;
(b)ym mharagraff (6), yn is-baragraff (b) hepgorer “neu (b)”.
(9) Y>n rheoliad 9 (dyfarniadau’r pwyllgor safonau)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (c), yn lle “o’r awdurdod perthnasol” rhodder “o awdurdod perthnasol”;
(ii)yn is-baragraff (ch), ar ôl “chwe mis” mewnosoder “neu am weddill cyfnod y person hwnnw yn y swydd, os yw’n gyfnod byrrach”;
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (1) neu (2) rhaid i’r Pwyllgor Safonau hysbysu:
(a)y person neu’r personau sy’n destun yr ymchwiliad;
(b)y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad o gamymddygiad sy’n arwain at yr ymchwiliad;
(c)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac
(d)pan fo’r Pwyllgor Safonau wedi gwneud ei ddyfarniad yn unol â threfniadau â swyddog monitro neu Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall, Bwyllgor Safonau’r awdurdod hwnnw.”;
(c)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(5) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (3) a (4) gynnwys y rhesymau dros y dyfarniad.”
(10) Yn rheoliad 10 (yr hawl i apelio)—
(a)ym mharagraff (1), ar ôl “caiff y person hwnnw” mewnosoder “ofyn am ganiatâd i”;
(b)ym mharagraff (2)—
(i)yn lle “yr apêl;” rhodder “y cais am ganiatâd i apelio”;
(ii)yn lle’r geiriau o “i’r cyfeiriad hwn” i “CF10 3NQ” rhodder “i lywydd Panel Dyfarnu Cymru”;
(c)ym mharagraff (3)—
(i)yn lle “hysbysiad apêl” yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos rhodder “hysbysiad yn gofyn am ganiatâd i apelio”;
(ii)yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)pa un a roddir caniatâd i apelio ai peidio, bod y person sy’n gofyn am ganiatâd i apelio yn cydsynio i’r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig.”;
(d)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Mae cais am ganiatâd i apelio i’w benderfynu gan lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu gan aelod o’r panel a enwebir gan lywydd y Panel Dyfarnu i arfer y swyddogaeth hon.
(5) Oni bai bod y llywydd neu’r person a enwebir yn ystyried bod amgylchiadau neilltuol yn golygu bod gwrandawiad yn ddymunol, mae’r penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd i apelio i’w wneud heb i’r partïon fod yn bresennol.
(6) Caiff llywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel wneud cais ysgrifenedig am wybodaeth bellach gan y partïon.
(7) Rhaid i’r wybodaeth bellach y gwneir cais amdani ym mharagraff (6) gael ei chyflwyno i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu i’r aelod enwebedig o’r panel o fewn cyfnod o 14 diwrnod i’r dyddiad y ceir y cais am wybodaeth bellach.
(8) Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i apelio, rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel roi sylw i ba un a oes gobaith rhesymol i’r apêl neu ran ohoni lwyddo.
(9) Rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i apelio a rhoi hysbysiad am y penderfyniad yn ddim hwyrach na 21 diwrnod ar ôl cael y cais am ganiatâd i apelio, neu pan wnaed cais am wybodaeth bellach o dan baragraff (6), yn ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (7).
(10) Rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel hysbysu’r canlynol am y penderfyniad ym mharagraff (8):
(a)y person sy’n gofyn am ganiatâd i apelio;
(b)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac
(c)y Pwyllgor Safonau a wnaeth y dyfarniad sy’n destun y cais am ganiatâd i apelio.
(11) Os gwrthodir caniatâd i apelio rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan baragraff (9) hefyd gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(12) Os rhoddir caniatâd i apelio rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel atgyfeirio’r mater i dribiwnlys apelau.”.
(11) Yn rheoliad 11 (apelau), ym mharagraff (2)—
(a)yn lle “y dirprwy lywydd” rhodder “aelod enwebedig o’r panel”;
(b)yn lle “neu’r dirprwy lywydd” rhodder “neu’r aelod enwebedig o’r panel”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: