- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Nid yw adran 5 o’r Ddeddf (gofyniad i gofrestru) yn gymwys i ddarparwr DSG yn ystod y cyfnod trosiannol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), y “cyfnod trosiannol” ar gyfer darparwr DSG yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r prif ddiwrnod penodedig ac sy’n gorffen ar ba ddyddiad bynnag yw’r cynharaf o—
(a)y dyddiad perthnasol fel y’i pennir ym mharagraff (3); neu
(b)y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar gais i gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth trosiannol.
(3) Yn ddarostyngedig i erthygl 5, y dyddiad perthnasol yw—
(a)30 Mehefin 2018 ar gyfer darparwr DSG sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â chartref gofal, cartref plant, cartref plant sy’n darparu llety at ddiben cyfyngu ar ryddid, neu ganolfan preswyl i deuluoedd;
(b)31 Awst 2018 ar gyfer darparwr DSG sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag asiantaeth gofal cartref ond nad yw wedi ei gofrestru hefyd mewn cysylltiad â sefydliad o fath a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(4) Pan fo sefydliad neu asiantaeth y mae darparwr DSG wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef neu â hi yn dod yn wasanaeth trosiannol oherwydd ei fod wedi ei bennu neu ei bod wedi ei phennu mewn cais i gofrestru o dan adran 6 o’r Ddeddf er mwyn dod â’r sefydliad neu’r asiantaeth o fewn y diffiniad o wasanaeth trosiannol yn erthygl 3, mae’r cyfnod trosiannol y cyfeirir ato ym mharagraff (2) wedi ei estyn i’r dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar y cais.
(5) Mae cyfeiriad yn yr erthygl hon at amser pan benderfynir yn derfynol ar gais o dan adran 6 o’r Ddeddf yn cynnwys—
(a)terfyn unrhyw amser a ganiateir o dan adran 18(2) o’r Ddeddf ar gyfer cyflwyno sylwadau yn erbyn hysbysiad o gynnig;
(b)terfyn unrhyw amser a ganiateir ar gyfer dwyn apêl o dan adran 26(1) o’r Ddeddf yn erbyn hysbysiad a ddyroddir o dan adran 19(4) o’r Ddeddf;
(c)penderfyniad ar unrhyw apêl o’r fath neu roi’r gorau i unrhyw apêl o’r fath.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: