Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 10 Ebrill 2017 adran 19 (cywiro) ac adran 22 (tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) ac Atodlen 2 (tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965) iddi, o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf 2006 a nodir yn yr erthygl honno.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym at bob diben sy’n weddill ddarpariaethau sy’n ymwneud â chywiro a thir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965. Gellir cael gwybodaeth bellach am y darpariaethau y daw’r Gorchymyn hwn â hwy i rym yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2006 y gellir eu gweld yn www.legislation.gov.uk.