Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 8Ceisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru

Cymhwyso Rhannau 2 i 7

30.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys pan wneir cais am ganiatâd cynllunio i Weinidogion Cymru ac felly ystyr “cais” (“application”) yn y Rhan hon yw cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn y modd hwn.

(2Mae Rhannau 2 i 7 yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn y paragraff canlynol a’r addasiadau a’r darpariaethau atodol yn y Rhan hon.

(3Nid yw rheoliadau 6, 7(1), 7(2), 8 i 15, 20, na 22 yn gymwys.

Ceisiadau am gyfarwyddydau sgrinio Gweinidogion Cymru

31.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais ofyn i Weinidogion Cymru fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio.

(2Rhaid i’r canlynol ddod gyda gofyniad am gyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â chais—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt;

(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae gwybodaeth ar gael am yr effeithiau hynny, o ganlyniad i—

(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth;

(e)datganiad bod y gofyniad yn cael ei wneud mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion 62D o Ddeddf 1990; ac

(f)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y gofyniad ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno, gan gynnwys unrhyw nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(3Rhaid i’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio ystyried y meini prawf yn Atodlen 3 a’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio o dan y Gyfarwyddeb pan fydd y person hwnnw yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (2).

(4Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r gofyniad hwnnw a’r dogfennau sy’n dod gyda’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(5Mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at ofyn am farn o dan reoliad 6(8) yn gyfeiriadau at ofyn am gyfarwyddyd o dan reoliad 31(1).

Ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddol

32.—(1Pan wneir cais ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—

(a)ei fod yn gais AEA; a

(b)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol yn dod gyda’r cais, at ddibenion y Rheoliadau hyn,

rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1) o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais neu ba bynnag gyfnod hwy a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (1) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y darperir datganiad amgylcheddol.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(5Os nad yw’r ceisydd yn cadarnhau yn unol â pharagraff (3), nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynglŷn â’r cais.

(6Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (1); a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19 (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio),

rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais drwy wrthod caniatâd cynllunio yn unig.

Cyfarwyddydau cwmpasu

33.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd cwmpasu.

(2Rhaid i ofyniad o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;

(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd;

(d)datganiad y gofynnir am gyfarwyddyd mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990; ac

(e)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y gofyniad ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno.

(3Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r gofyniad hwnnw a’r dogfennau sy’n dod gyda’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(4Os nad yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol ar gyfer gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y gofyniad.

(5Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(6Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hyn.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi at y person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn cyfnod o 8 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(8Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd ynghylch y datblygiad arfethedig;

(b)nodweddion neilltuol y datblygiad penodol;

(c)nodweddion neilltuol y datblygiad o’r math dan sylw; a

(d)y nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt yn sylweddol.

(9Nid oes dim yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig.

(10Ystyr “Gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddol

34.  Mae rheoliad 16 yn gymwys fel pe bai—

(a)paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i dderbynnydd—

(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu

(b)datganiad a wneir yn unol â rheoliad 11(4)(a), 12(6), 13(7) neu 32(3)

(i)hysbysu’r ymgynghoreion o enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhoi ar gael i’r person hwnnw; a

(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd felly.; a

(b)y cyfeiriadau ym mharagraffau (4) a (5) i’r “awdurdod cynllunio perthnasol” ac “awdurdod” yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.

Cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio

35.  Mae rheoliad 19 yn gymwys fel pe bai paragraffau (2) a (3) yn darllen—

(2) Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad yn nodi’r canlynol mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli—

(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio a chyfeiriad Gweinidogion Cymru;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(d)bod copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill sy’n mynd ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol ar gael i aelodau’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)bod yn rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais eu cyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f), pa un bynnag sydd ddiweddaraf; a

(k)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.

(3) Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 32(4) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn y rheoliad hwnnw gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ond ni chaiff y dyddiad a nodir fel y dyddiad olaf y mae’r dogfennau ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt fod yn llai na 21 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad gyntaf.

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol

36.  Rhaid i geisydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â chais, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a gyflwynir yn unol ag erthygl 18(2) o Orchymyn 2016 fel y cyfeiriad lle gellir cael copïau o’r fath.

Argaeledd cyfarwyddydau etc. i’w harchwilio

37.  Mae rheoliad 27 yn gymwys fel pe bai paragraff (1)(e) yn darllen “hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 32(2) (ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddol);”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources