- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
40.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn bwriadu gwneud neu gadarnhau gorchymyn adran 97 sy’n addasu unrhyw ganiatâd i ddatblygu tir neu orchymyn adran 102 sy’n rhoi caniatâd cynllunio.
(2) Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol na Gweinidogion Cymru wneud na chadarnhau gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 oni bai bod yr awdurdod wedi gofyn am farn sgrinio a’i mabwysiadu neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio.
(3) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)nid yw rheoliad 6(4) yn gymwys;
(b)mae rheoliad 7(1) yn gymwys fel pe bai’r geiriau “yn unol â rheoliad 6(8)” wedi eu hepgor;
(c)mae rheoliadau 6(2), (4), (5) i (9) a 7(1), (3) i (9) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau—
(i)at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at gynnig am orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;
(ii)at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at y corff sy’n gyfrifol am wneud y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102;
(iii)at y ceisydd yn gyfeiriadau at y corff cychwyn; a
(iv)at gais Atodlen 1 neu gais Atodlen 2 yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 a fyddai’n rhoi neu’n addasu caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2 yn y drefn honno.
(4) Mae paragraffau (5) a (6) ac Atodlen 6 yn gymwys yn y naill achos neu’r llall—
(a)i ddatblygiad Atodlen 1;
(b)pan fo naill ai—
(i)yr awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu
(ii)Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio o dan y Rheoliadau hyn,
i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA.
(5) Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol wneud gorchymyn adran 97 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.
(6) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gadarnhau na gwneud gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: