- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
31. Cymysgedd o’r canlynol, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, yw marmalêd—
(a)dŵr;
(b)siwgr; ac
(c)mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, pilion ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu unrhyw gyfuniad o’r rhain, a phob un o’r rheiny wedi ei gael o ffrwythau sitrws.
32. Er gwaethaf paragraff 31(b), caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu marmalêd naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.
33. Rhaid i swm y ffrwythau sitrws a ddefnyddir i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na 200 gram, y mae’n rhaid cael nid llai na 75 gram ohono o’r endocarp.
34. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 31 a 32, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;
(b)olewau naws ffrwythau sitrws.
35. Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.
36. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: