- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
21.—(1) Os yw’n ymddangos i swyddog awdurdodedig, o ganlyniad i arolygiad a gyflawnir at y dibenion y cyfeirir atynt yn rheoliad 20, y gallai unrhyw anifail neu lwyth o anifeilaidd gynnwys sylwedd diawdurdod neu weddillion sylwedd awdurdodedig y mae gan y swyddog amheuaeth resymol y gallai olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cynnwys sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf neu nad yw’r cyfnod cadw’n ôl mewn perthynas ag unrhyw anifail wedi dod i ben, mae gan swyddog awdurdodedig y pwerau a bennir ym mharagraff (2) mewn perthynas â’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid.
(2) Caiff swyddog awdurdodedig—
(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i berchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid i ddweud, hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig arall—
(i)na chaniateir cyflawni gweithrediadau masnachol mewn cysylltiad â’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid;
(ii)na chaniateir symud yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid o’r fan lle y maent y pryd hwnnw neu na chaniateir eu symud felly ac eithrio i fan a bennir yn yr hysbysiad; a
(iii)na chaniateir i anifail, heblaw fel y caniateir gan baragraff (ii), gael ei symud oddi ar y fferm wreiddiol ac eithrio fel y pennir yn yr hysbysiad;
(b)rhoi’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid drwy unrhyw archwiliadau i ganfod presenoldeb sylweddau neu weddillion y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ystyried eu bod yn angenrheidiol;
(c)peintio, stampio, clipio, tagio’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid neu eu marcio fel arall, neu beri iddynt gael eu marcio, i’w hadnabod at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: