- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
19.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Atodlen 1—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Nid yw paragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;
(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(3) Pan—
(a)bo’n ofynnol, yn rhinwedd y rheoliad hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y rheoliad hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
20.—(1) Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(2) Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—
(a)rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a
(b)ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.
(3) Er gwaethaf paragraff (2), caiff sinema gau’n hwyrach na 10.20 p.m. dim ond at ddiben gorffen dangos ffilm sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.
(4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i—
(a)mangre mewn—
(i)porthladd môr;
(ii)maes awyr;
(iii)sefydliad addysgol;
(b)ffreuturau yn y gweithle.
(5) O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.
(6) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.
(7) Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r mangreoedd hynny fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: